‘Wy’n teimlo’r dynfa hunllefus…y dynfa am y môr.’
Dyma gynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru y flwyddyn hon, ond tybed sut dynfa tuag ati y caiff cynulleidfaoedd ledled Cymru? Wrth weithio ar y ddrama hon gan Henrik Ibsen dywed y cyfarwyddwr Arwel Gruffydd fel eu bod ‘bob eiliad, wrth droed y meistr.’
Dyma glamp o ddrama gan gawr o ddramodydd a bedyddwyd Ibsen fel Tad y Theatr Naturiolaidd, a gwych o beth yw ei fod wedi ei drosi i’r Gymraeg am y tro cyntaf gan y bardd Menna Elfyn. Rhaid cyfaddef i mi ddotio tuag at rhythm y brawddegau a’r defnydd o dafodiaith Sir Benfro. Nid oedd yn cael ei or-ddefnyddio ychwaith, gan mai’r cymeriadau ieuengaf oedd yn fwy tafodieithol a mwy o ffurfioldeb yn perthyn i’r cymeriadau hŷn a dwys. Pan berfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 1888 byddai ei astudiaeth ddwys o gymeriad Elida, y fenyw hudolus o’r môr yn dyheu am yr hawl i ddewis yn siŵr o gorddi’r dyfroedd a herio culni cymdeithas ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ond yr hyn sy’n fy mhoeni yw fod cynhyrchiad mor ‘draddodiadol’ ei naws ddim yn mynd i daro tant gyda chynulleidfa cyfoes, ond fe ddof yn ôl at y broblem hynny yn hwyrach ymlaen.
Nid yw’r cwmni wedi bod yn gynnil gyda’u gwariant ar y cynhyrchiad yma ychwaith, gan mai hon fydd cynhyrchiad mwyaf y cwmni y flwyddyn hon. Nid yw’r holl wario wedi mynd yn ofer; roedd y set yn un penigamp a’r gwisgoedd yn chwaethus tu hwnt. Roedd cysgod parhaol y mynyddoedd ar gefn y llwyfan yn cryfhau’r ffaith i Elida deimlo’n gaeth a cholli ei hunaniaeth wrth fyw yn y dref ac i ffwrdd oddi wrth y ‘môr agored’ ac ysu am ei arswyd a’i hud, a hynny’n cyferbynnu â moethusrwydd a sefydlogrwydd y cartref.
Bu’r actorion yn llwyddiannus iawn yn portreadu eu cymeriadau cymhleth, yr emosiynnau a oedd yn mynd a dod fel llanw a thrai. Llwyddodd Heledd Gwynn i gynnal meddyliau cythryblus Elida drwyddo draw, a ganddi hi cawn y dyhead mwyaf am ryddid, neu’r rhyddid i ddewis llwybr drosti ei hun. Ond pa ddewis? Arswyd a hud y môr neu sicrwydd y tir mawr? Eto’i gyd roeddwn yn cael trafferth uniaethu â’r cymeriadau. A dweud y gwir nid oeddwn yn hidio dim amdanynt. Mae hyn yn broblem mewn drama a barodd bron i deirawr gyda golygfeydd hirfaith, statig a diflas ar brydiau. Ambell dro roedd chwa o egni newydd, yn enwedig gyda chymeriad Hilde (Sian Davies) gyda’i natur chwareus a digywilydd, ac yn ogystal yr ymddiddan a’r herio rhwng Bolette (Elin Llwyd) a Lyngstrand (Sion Alun Davies).
Fe glywaf leisiau yn codi yn awr. Pa hawl sydd gen i i feirniadu clasur o’r fath sydd wedi hen sefydlu ei hun yn un o ddramâu mwyaf Ewrop? Y gwir amdani yw ni wnaeth y cynhyrchiad daro deuddeg gyda mi a ni wnaeth unrhyw argraff arbennig ychwaith. Tybed pa effaith fyddai os na fyddai’r cynhyrchiad wedi’i lleoli yn y cyfnod gwreiddiol? Hynny yw ei ail leoli mewn cyfnod arall, yn fodern a chyfoes a hynny wedyn yn galluogi’r gynulleidfa i’w gwerthfawrogi o ogwydd arall. Mae hyn wedi cael ei wneud â drama enwog Chekhov ‘D’ewythr Fania’ mewn ffilm sydd wedi ei leoli yn Efrog Newydd yn yr 1990au ‘Vanya on 42nd St.’
Os yw’r cynhyrchiad ei hun yn perthyn i’r gorffennol, yna’r tueddiad yw i bobl feddwl fod y ddrama ei hun yn perthyn i’r gorffennol. Wrth gwrs mae themâu ac emosiynnau’r ddrama yn oesol, ond bod angen meddwl am ffyrdd newydd i adrodd y stori.