Adolygiad ‘Cysgu’n Brysur’ gan Nannon Evans

Cysgu’n Brysur, Cwmni Theatr Arad Goch. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth / Galeri Caernarfon.

Sioe gerdd am griw o bobl ifanc yn gorffen eu hamser yn yr ysgol yw Cysgu’n Brysur gan Arad Goch. Es i i weld y perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ac yn Galeri yng Nghaernarfon. Roedd hi’n chwa o awyr iach i gael gweld pob sedd yn y theatr wedi’i lenwi gan bobl o bob oedran yn awchu i gael gweld theatr Gymraeg. Lleolwyd y sioe mewn ysgol, felly roedd desgiau ysgol pren yn ganolog i set y ddrama. Defnyddiwyd y desgiau’n llwyddiannus oherwydd eu symlrwydd, fe’u defnyddiwyd fel cwpwrdd dillad, rhywle i gysgodi ac fel stoliau yn ystod y sioe. Gan fod modd storio propiau a gwisgoedd yn y desgiau hyn, sicrhawyd bod y stori’n llifo’n naturiol ac yn hawdd. Defnyddiwyd y desgiau yn rhan o’r coreograffi hefyd. Er nad ydw i’n arbenigwraig ar goreograffi, fe fwynheais i’r dawnsio yn y sioe gerdd yma yn fawr iawn. O bryd i’w gilydd, roedd peryg i eiriau’r caneuon fod yn eithaf cawslyd, ond roedd y dawnsio cyfoes gan Eddie Ladd yn sicrhau nad oedd y sioe gerdd yn troi mewn i High School Musical Cymraeg!

Roeddwn yn amheus o’r ffaith bod band y sioe wedi cymryd lle mor ganolog ar y llwyfan. Sioe gerdd am bobl ifanc oedd y cynhyrchiad, felly pam ei fod mor bwysig i gael band o ddynion canol oed yn chwarae yng nghanol y llwyfan? Pan berfformiwyd y sioe yn Galeri, Caernarfon gallaf ddeall nad oedd pit ar gael ar gyfer y band. Ond yn Aberystwyth, lle roedd pit ar gael, teimlais bod y band yn dominyddu’r llwyfan. Cyffyrddwyd â sawl thema, o farwolaeth, ymosodiadau rhywiol, yfed alcohol i drefnu gwyliau haf i Magaluf, adolygu a dewis beth i wisgo ar nos Sadwrn. Felly, yn amlwg roedd ymgais i drio portreu bywyd realistig pobl ifanc heddiw. Ond fe chwalwyd y meddylfryd o stori ‘gredadwy’ ar ddiwedd y sioe wrth i bob cymeriad weiddi eu problemau at y gynulleidfa. Yn yr olygfa olaf, aeth y perfformiad o fod yn sioe gerdd i fod yn sioe gerdd theatr mewn addysg. Teimlais nad oedd wir angen gorffen y sioe â’r datganiadau hyn oherwydd bod problemau’r cymeriadau wedi cael eu dangos yn y naratif yn barod.

Teimlais fod y cyhuddiad gan Princess  bod bachgen poblogaidd yr ysgol, Cai wedi ymosod arni yn rhywiol braidd yn ddibwynt. Rhyw bum munud ar ôl i’r ffrae ddigwydd aeth pob cymeriad yn ôl i ymddwyn fel petai dim byd wedi digwydd rhwng y ddau. Teimlais mai’r unig reswm y rhoddon nhw’r cyhuddiad hwn i mewn oedd er mwyn ticio bocs ‘ymosodiadau rhywiol ymysg pobl ifanc’. Nid oedd diben na phwrpas i’r stori yma rhwng Princess a Cai felly roedd yn fethiant o bortread pobl ifanc i gyhuddiad difrifol fel hyn.

Rhinwedd y ffeindiais i yn od, oedd bod pob aelod o’r cast o’r un ysgol, ond eto roedd gan bob un ohonynt acenion a thafodieithoedd hollol wahanol i’w gilydd. Roedd un cymeriad yn ffarmwraig o Lambed, un bachgen yn siarad ag acen o’r cymoedd tra bod cymeriad arall yn siarad ag acen ogleddol.  Efallai fod hyn yn ymgais i gael sawl tafodiaith ar y llwyfan, ond os gwneud portread realistig o fywydau pobl ifanc o’r un ysgol, rhaid ei wneud ym mhob agwedd. Ond er  hyn i gyd, wrth gerdded allan o’r theatr roedd e’n brofiad hyfryd clywed pobl ifanc yn trin a thrafod yr hyn a welon nhw ar y llwyfan. Mwynheais i hefyd gweld wynebau newydd a gweld actorion talentog ifanc yn serennu ar y llwyfan. Roedd y gerddoriaeth yn wych a’r canu yn hyfryd, ac roedd e’n sicr yn rhywbeth gwahanol i’r hyn yr ydym yn gweld fel arfer yn y theatr Gymreig.

Advertisements

Adolygiad ‘Difa’ -gan Meleri Roberts-Hicks

‘Difa’ gan Theatr Bara Caws. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae’n bwysig nodi cyn dechrau’r adolygiad yma fy mod wedi gwylio’r cynhyrchiad ‘Difa’ cyn y Nadolig. Serch y ffaith taw nawr rwy’n cael y cyfle i ysgrifennu’r adolygiad, roedd hi’n ddiddorol meddwl yn ôl i’r perfformiad ac yr uchafbwyntiau safodd allan i mi fel adolygwr. Fe wnaeth hyn arwain i mi gwestiynu a oedd y perfformiad yn un cofiadwy hyd at heddiw yn ogystal â chael unrhyw effaith arna i yn yr hir dymor; tybed?

Fe gafodd y sgript ei hysgrifennu gan Dewi Wyn Williams, sef enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli yn 2014. Nodir ar wefan y theatr bod hon yn gynhyrchiad ‘…about a mind at work. A play that suggests that life in close proximity is a tragedy, and life from afar is a comedy.’ Serch hyn, es i mewn i’r perfformiad heb yr un pen na phapur er mwyn canolbwyntio’n hollol ar y stori a chysylltiad phortread yr actorion efo’r ‘trasiedi’ sydd ym mywydau’r cymeriadau yma.

Mae’r stori ei hun yn cylchdroi o amgylch bywyd a heriau dyddiol Oswald Pritchard (Rhodri Evan) wrth iddo gyffwrdd ymylon salwch meddwl. Collodd Os ei swydd yn ddiweddar, ac mae’n ofni yn gyson o golli ei wraig Mair sydd yn achosi straen ar eu perthynas. Cawn weld ei chyn-weithiwr – Peter – ar seiciatrydd Dr.King, sydd yn chwarae rôl allweddol yn fywyd Os. Drwy gydol y ddrama, rydym ni fel cynulleidfa yn cael ein tywys trwy drafferthion, lleisiau a’r ‘roller coaster’ o emosiynau sydd yn pryfocio meddwl Os.

Roedd y set yn un syml a ‘minimal’ a weithiodd yn dda gyda’r sgript. Cafodd y llwyfan ei rhannu i bedwar rhan, gyda’r is-gymeriadau wedi’i leoli ym mhob cornel. Dim ond Os oedd yn mynd o un cornel i’r llall – a oedd yn ddibynnol ar y golygfeydd. Ar yr ochr dde, gwelsom yr ystafell wely a’r ystafell fyw, ac ar y chwith roedd swyddfa Dr King a Peter. Yng nghefn y llwyfan, roedd sgrin a gafodd ei ddefnyddio nifer o weithiau trwy’r perfformiad. Pan roedd Os yn trafod y posibilrwydd o’i wraig yn cael perthynas rhywiol efo dyn arall, gwelsom glipiau fideo o’i wraig yn cusanu dyn a oedd yn anwybyddus ar y sgrin. Yn fy marn i, roedd y sgrin yn symbolaidd o’r hyn sydd yn bwyta mewn i feddwl Os ac yn ei gaethiwo. Does dim modd ei osgoi, er yr holl ymdrech. Sylweddolais bod y set yn un daclus iawn, eto i gynrychioli stad meddyliol Os, ar angen i gael trefn penodol mewn bywyd?

Yr hyn a oedd fwyaf cofiadwy oedd perfformiad Rhodri Evan o’r cymeriad Os. Roedd y ffordd wnaeth Rhodri ddefnyddio awgrymiadau bychain o salwch meddyliol Os o’r foment gyntaf yn gorfodi’r gynulleidfa i deimlo rhan o drafferthion bywyd Os, a wnaeth yn araf bach ddod yn fwy amlwg. Ar ddechrau’r ddrama, mae Os yn dechrau cynhyrfu yn y gegin efo’i wraig wrth sylweddoli bod y llaeth heb gael ei leoli yn gywir yn yr oergell. I Os, mae rhaid iddo ef gael trefn pendant, hyd yn oed wrth gael rhyw, mae’n rhaid iddo adrodd englyn wrth ei wraig. Ceir gweld datblygiad meddyliol Os mewn golygfeydd gyda Peter, lle mae Os yn dweud enw gwraig Peter yn anghywir dro ar ôl tro yn yr un sgwrs sydd yn cael ei ailadrodd. Roeddwn i, fel aelod o’r gynulleidfa yn teimlo cymaint o gydymdeimlad dros Os, yn enwedig drwy arsylwi ei salwch yn araf bach yn gwaethygu a chafodd ei bortreadu mewn modd sensitif tu hwnt gan Rhodri. Fe lwyddodd Rhodri I greu cymeriad gall nifer o bobl gydymdeimlo gyda drwy ganolbwyntio ar yr elfen o ‘realaeth bywyd’ i’r bôn. Mae Os yn adlewyrchiad o’r ffaith y gall unrhyw un o fewn cymdeithas ddioddef, fel y gwelir trwy ‘r ddrama hon.

Roedd rôl y wraig yn un bwysig drwy gydol y ddrama. Hi ydi’r glud sydd yn ceisio cadw Os rhag ymgolli yn ei wallgofrwydd. Nid yw hi byth yn colli’i thymer gyda Os, gan ei bod hi’n deall sefyllfa’i gŵr. Rydych chi eisiau teimlo’r un faint o gydymdeimlad tuag ati hi ag Os, yn enwedig trwy weld hi wedi’i chaethiwo gan Os a’i broblemau ef sydd yn arwain iddi hi gael perthynas efo dyn arall. Mewn un modd, efallai dyna oedd y rhyddhad yr oedd hi angen. Cafodd y rôl yma ei berfformio’n arbennig gan Bethan Dwyfor. Byddai nifer o bobl sydd wedi bod yn rhan o’r un sefyllfa – boed yn fenyw neu ddyn – yn medru uniaethu gyda’r cymeriad.

Fe wnes i fwynhau’r golygfeydd gyda Peter ac Os, a oedd yn llawn tynnu coes a hiwmor. Fe arweinir hyn i mi gydymdeimlo ymhellach gyda Os, wrth i Peter ddelio efo salwch Os mewn modd sensitif, yn enwedig pryd roedd Os yn gofyn yr un cwestiynau bob dydd, heb i Peter wylltio unwaith. Fe wnes i gwestiynu gwir rôl Dr.King. A’i hi wthiodd Os i ffiniau ei golled meddyliol?

Fe lwyddodd y ddrama i adlewyrchu effaith ac elfennau’r pwnc o salwch meddwl, a sut mae’r afiechyd yn gallu effeithio nid dim ond yr unigolyn, ond pobl eraill sydd yn rhan o’i bywyd nhw mewn ffordd wych. Teimlaf yn rhan o fywyd Os, drwy gael ein tywys trwy ei drefn ddyddiol ef. Heb amheuaeth, mae’n wych i allu gweld perfformiad Cymraeg sydd o’r diwedd, wedi codi’r pwnc o salwch meddwl a gwneud hynny mewn modd sensitif ac ysgafn iawn.

Er bod hon yn ddrama dywyll o ran y pynciau trafod, mae’n bwysig i nodi ei bod hi hefyd yn ddrama ysgafn o ran hiwmor, fel y gwelir efo Peter ac Os yn rhannu jôcs. Rydym yn gadael y theatr efo’r ymdeimlad o optimistiaeth tuag at Os, ac yn hyderus y bydd popeth yn gwella iddo – er efallai y bydd y daith yn un anodd.

Adolygiad ‘Mutt’ – gan Meleri Morgan

‘Mutt’ gan Abandoned Theatre Co. – Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Drama dau gymeriad ond un person! Y llwyfan wedi’i osod a minnau yn sylweddoli fy mod yn mynd i fod yn gwylio drama wahanol. Clyfar yw un o’r ansoddeiriau i ddisgrifio y ddrama Mutt gan y dramodydd beiddgar Christopher T Harris.

Rydym yn cwrdd â Darren mewn dwy ffordd neu ddwy ffurf wahanol sydd yn gyson, wrth gwrs, â’r portread o un cymeriad trwy ddau actor. Fe fyddem yn ei gymharu â Ianws, y duw dau ben; un pen a gwyneb yn cynrychioli meddylfryd Darren a’r llall yw ei reddf a’i ymateb greddfol i sefyllfa.

Mae Darren yn casâu y Cwm ac yn enwedig y glaw (ac fe ddarlunir yma ddarlun tywyll anobeithiol o’r Cwm). Ond, os ydy yn casâu y glaw mae’n casâu, hyd yn oed yn fwy, y ci, sydd yn ei dyb ef, wedi cymryd bywyd ei rieni drosodd yn llwyr. Mae’n newydd ddychwelyd ac yn andros o anhapus taw y ci yw prif sylw y teulu, ac nid ef. Y mae’r script yn argyfnerthu hyn ond teimlaf, hefyd, bod y set a ddefnyddiwyd yn argyfnerthu y teimlad o bwysigrwydd y ci ac yn hoelio ein sylw at y dybiaeth yma. Gorchuddwyd popeth â lliain gwyn a’r unig farciau sydd arno yw ôl pawennau y ci. Pwysleisia hyn y modd ymdreiddiodd y teimlad o fod yn eilbeth i’r ci i feddylfryd a phersonoliaeth Darren.

Dechreuwyd y ddrama yn addawol a chreuwyd  tensiwn angenrheidiol gyda’r ddau gymeriad yn syllu ar ei gilydd ac yn gorffen brawddegau’u gilydd. Teimlais, ar adegau, fod acen de Cymru a fabwysiadwyd yn briodol gan yr actorion ar y dechrau ond iddo fynd ar goll ar ôl rhyw ddeg munud o’r ddrama, gan ddychwelyd bob hyn a hyn gan y ddau actor. Trueni am y diffyg cysondeb yn y dafodiaith oherwydd roedd hyn yn amharu ar ddiffuantrwydd ac hygrededd y cymeriadu.

Er hyn, roedd yma nifer o ragoriaethau, ac hoffais yn fawr iawn yr elfen chwareus wrth chwarae gyda’r gynulleidfa trwy agosau a phellhau o’r gynulleidfa. Hoffais y darlunio o’r ferch roedd yn ei garu trwy greu pyped allan o ddillad gwely yn ogystal a’r ci ei hunan. Crewyd naws anghyfforddus angenrheidiol yn ôl y gofyn, drwy greu’r darlun o fod yn dreisgar tuag at y ci. Atgyfnerthwyd atgasedd Darren tuag at y ci trwy gyfrwng yr iaith gref a’r rhegfeydd a ddefnyddiwyd ganddo, a chryfhawyd hyn ymhellach trwy ddefnydd o lais ac ystum ynghyd â’r weithred o ladd, oedd yn uchafbwynt dramataidd i’r perfformiad.

Teimlais arddull Berkoffaidd yn cael ei gorffori yn y perfformiad, yn arbennig pan fu i’r ddau ail-adrodd symudiadau gyda’i gilydd. Roedd y symudiadau yn rhai o egni corfforol uchel iawn. Yn anffodus methwyd cynnal yr egni yma drwy’r perfformiad ac ar adegau roedd y ddrama yn cwympo.

Rydwyf o’r farn bod methiant cof yr actorion ar adegau, yn ogystal â cholli geiriau a rhediad y script, yn cael cryn effaith arnynt, Bu, o ganlyniand i’r pallu ar y cof, seibiau anghyffroddus o hir a’r gynulleidfa yn anesmwytho ac yn  edrych ar ei gilydd. Siom imi oedd fod y perfformiad wedi gorffen yn hynod o swta a sydyn ar ol rhyw ddeg munud go undonog yng nghanol y perfformiad yn dilyn pallu geiriau amlwg. Roedd yna deimlad o ryddhad hefyd ei bod wedi croesi’r llinell derfyn.

Teimlais fod hon yn ddrama gwerth chweil wedi’i scriptio’n dda ac wedi’i gosod a’i llwyfannu yn syml  ac effeithiol. Roeddem eisiau gweld mwy ond, yn anffodus, yn y perfformiad yma ni chafwyd stori Mutt yn gyflawn.

Adolygiad o ‘Mutt’ – gan Naomi Nicholas

Abandoned Theatre Co. ‘MUTT’.

Nos Wener ddiwethaf, es i weld MUTT! Gan yr ‘Abandoned Theatre Co.’

Roedd llwyfan stiwdio Canolfan y Celfyddydau wedi’i osod ac wedi’u cuddio â chynfasau gwyn brwnt â phawennau ci. Er hyn, roedd modd dyfalu bod whilber a rhaw ar y llwyfan. Plannodd hyn yr hedyn yn fy mhen bod llofruddiaeth ar y gorwel. Teimlaf fod dangos y propiau yn rhannol yn effeithiol, er mwyn codi chwilfrydedd y gynulleidfa o’r hyn sydd o’u blaen.

Yng nghanol y llwyfan eisteddai’r ddau actor gyferbyn â’i gilydd. Roedd y ddau mewn gwisg unfath, sef crys llwyd a jîns. Gosododd hyn y syniad mai cynrychioliad o’r un cymeriad oedd y ddau. Ond rwy’n falch bod y rhaglen wedi cadarnhau hyn i mi drwy gynnig esboniad, mai Hillary Nunn oedd llif meddwl Darren a Tim Medcalf oedd llais ei anian. Rhaid canmol portreadau’r ddau actor o gymeriad Darren. Cymeriad braidd yn ddiniwed a llipa oedd llif ei feddwl, ac roedd ei amseru comedi yn berffaith. Ogwydd ymosodgar a tanllyd oedd i anian Darren, roedd hwn yn rhegi’n gas ac yn poeri ei eiriau. Rhaid canmol Christopher T Harris am ysgrifennu’r ddrama mewn dwy ran fel hyn, roedd gwrthdaro mewnol cymeriad Darren dipyn yn fwy diddorol na gwylio monolog un cymeriad am hanner awr. Cydweithia’r ddau actor yn arbennig, trueni mawr fod ambell nam ar eu geiriau. Pan oedd y ddau ar eu gorau roedd y perfformiad yn slic a’r deialog yn llifo o un i’r llall yn rhwydd.

Fel roedd yr enw ‘MUTT.’ yn awgrymu, dyma ddrama’n seiliedig ar genfigen mab o gi newydd ei rhieni. Roedd ambell ran ohoni’n ddoniol ac yn gofiadwy, hoffais yn fawr un o’r actorion yn disgrifio ‘he’s pissed all over the carpet’ a’r llall yn rhoi ei fys ar y llawr cyn ei arogli. Doniol hefyd oedd y newid safle rhwng y ci a’r mab, gyda’r fam yn gorfodi Darren i fynd allan i’r ardd fel cosb. Roedd y defnydd o iaith yn awgrymog yn y fan hon: ‘he didn’t call me in’. Manylyn effeithiol oedd mai Owain oedd enw’r ci, roedd enw mor ddynol yn dwyshau’r teimlad bod y ci wedi cymeryd lle Darren ar yr aelwyd. Nid oedd anwybyddu gwir gasineb Darren at y ci, ei arogl, y ffordd yr oedd yr anifail yn meddiannu’r soffa ac yn chwyrnu. Fel ar gynfasau gwyn y llwyfan, roedd Darren yn teimlo bod blew’r ci wedi treiddio i’w ddillad: ‘I want to wash them, burn them’.

Soniais ynghynt am symlrwydd effeithiol y llwyfan. Agwedd trawiadol iawn ohoni oedd defnydd yr actorion o’r cynfasau gwyn fel propiau. Weithiau Owain y ci yn chwyrnu oedd y cynfas, ar adegau arall dyma got law i Darren neu’n bêl. Uchafbwynt i mi oedd y cynfas yn cynrychioli Maisy, sef cariad Darren. Dyma ran ddoniol iawn o’r ddrama gyda Darren yn eistedd wrth ochr y cynfas yn cochi, gyda’r Darren arall (Tim Medcalf) yn symud y defnydd wrth i’r llall ddisgrifio symudiad gwallt y ferch yn y gwynt. Dwlais ar yr agwedd yma o ‘MUTT.’, mewn modd creadigol ac unigryw roedd aelod arall o gast ar y llwyfan a honno wedi’i gwneud o gynfas gwely!

Teimlais fod yna dinc o ganu Dylan Thomas yn arddull Christopher T Harries, roedd y ddrama’n bersain ar y glust ac yn farddonol. Ychwanegodd hyn yn ogystal ag acenion yr actorion at awyrgylch Cymreig y ddrama a oedd wedi’i osod mewn tref o’r enw ‘Cwm’. Apêl arall i mi oedd manylder dweud y ddrama fel: ‘I got myself a glass of orange squash’. Manwl hefyd oedd disgrifiad tywyll a gwaedlyd y ddau o lofruddio Owain y ci â’r rhaw. Cododd y disgrifiad gwyrdroëdig gyfog arna i, cyn i mi gydymdeimlo â Darren wrth iddo ddifaru ei weithredoedd.

Dyma ddrama â photensial arbennig. Fe wnes i fwynhau adegau graenus y cynhyrchiad yn fawr iawn. Mae yna drueni mawr felly am namau geiriau’r actorion, roedd yna awyrgylch lletchwith yn y Stiwdio ar adegau pan fyddai’r cof yn pallu. Rwy’n ofni bod yna ugain munud coll o’r ddrama o ganlyniad i’r holl gymysgu geiriau. Roeddwn i’n dymuno cael sgript o fy mlaen er mwyn achub yr actorion o’r cawlach. Pe bawn i wedi talu £9 am docyn, buaswn i wedi fy siomi’n fawr iawn ar ddiffyg proffesiynoldeb yr actorion. Hoffwn i weld ‘MUTT.’ eto, yn gyflawn, heb seibiau lletchwith a darnau coll. Er hyn roedd sgerbwd y ddrama’n wych, ychydig o fireinio yn unig oedd angen ar yr actorion er mwyn fy argyhoeddi.

Adolygiad ‘Hola!’ – gan Naomi Seren Nicholas.

‘Hola!’ gan Mari Rhian Owen. Theatr Arad Goch, Aberystwyth.

Clywais yr wythnos ddiwethaf am fwriad y Llywodraeth i fewnfudo ffoaduriaid o Syria i dref Aberystwyth ac wrth gadw hyn mewn cof, roedd pennawd y ‘Cambrian News’ a thema ‘Hola!’ yn mynd law yn llaw . Yr hyn a wnaeth fy nharo’n rhyfedd yw bod bobl yn dal i orfod wynebu teithiau peryglus er mwyn ffoi o erchyllterau’r byd a hynny can mlynedd a hanner wedi mordaith y Cymry i dde America.

Set gymharol finimalaidd oedd i’r ddrama, gyda lliwiau a osoda awyrgylch forol. Er ei symlrwydd roedd yr hwyl, o ddefnydd wedi’i beintio â map, yn ddigon i gyfleu siâp y Mimosa i’r dim. Hoffais yn fawr y defnydd o brennau mân i gyfleu perimedr bwrdd y llong. Yr uchafbwynt i mi o ran y set oedd y defnydd o astell bren i gyfleu lefel islaw bwrdd y llong. Roedd y cwtsh cyfyng islaw’r astell yn codi cyfog arna i, ac yn cyfleu un o anawsterau’r daith.

A ninnau’n dathlu cant a hanner o flynyddoedd ers i’r Mimosa hwylio i Batagonia, nid oeddwn yn anghyfarwydd â’r hanes. Ond gydag ôl gwaith ymchwil manwl llwyddodd Mari Rhian Owen i roi gogwydd newydd ar sefydlu’r Wladfa. Ei champ oedd berwi’r hanes i lawr i berfformiad awr o hyd, heb i’r gynulleidfa deimlo eu bod wedi’u hamddifadu o’r darlun llawn. Un o’i harfau dramataidd effeithiol oedd yr ôl fflachiadau. Medrwn uniaethu â’r Cymry heddiw yn darganfod yr hanes mewn dyddiadur ond hefyd â’n cyndeidiau dewr. Roedd newidiad acen yr actorion o’r Cymry heddiw i acen y Wladfa’n eithriadol o slic ac yn dynodi’r naid amseryddol a daearyddol yn eglur. Roedd Arad Goch yn graff iawn hefyd gyda’u dewis o wisgoedd. Roedd gan bob actor wisg syml a oedd yn medru trawsnewid ag atodyn boed hynny’n glogyn yr Indiaid, sbectol neu’n ffedog o frethyn. Manylion tebyg i’r wisg sicrhaodd rhwyddineb y perfformiad.

Dyma’r ail ddarn o theatr mewn addysg gan Arad Goch yr wyf i wedi’u gwylio fel oedolyn. Mae’r cwmni wedi perffeithio’r gelfyddyd o lunio a pherfformio drama i blant i’r dim. Llwyddodd ‘Hola!’ gynnal fy niddordeb hyd y diwedd. Ac o weld wynebau’r plant yn yr awditoriwm roedden nhw hefyd wrth eu bodd, yn enwedig pan ddaeth yr actorion drwy’r gynulleidfa. Roedd Ffion Wyn Bowen, Siôn Emyr a Chris Kinahan yn feistri wrth eu gwaith. Roedd eu hegni’n ddi-dor a’u cymeriadau’n ddoniol. Rwy’n eu canmol yn arbennig am beidio mynd dros ben llestri â’r cymeriadau. Er eu bod yn gymeriadau wedi’u chwyddo roedd eu portreadau’n gredadwy. Dyma dri actor amryddawn, roeddent yn camu o un cymeriad i’r llall yn gwbl naturiol. Rhaid canmol Mari Rhian Owen hefyd am gyflwyno hanes mor gymhleth gan ddefnyddio cast o dri.

Llwydda’r canu rhoi croen iâr i mi ar sawl achlysur – hoffais yr elfen o gerdd fel chwistrelliad Cymreig i’r ddrama. Darn cofiadwy i mi oedd cyflwyno’r unigolion ar y llong trwy odl. Brawddeg sydd wedi glynu gyda mi yw ‘Chubut am enw bach twt’. Profi gwna hyn bod odl yn gweithio wrth addysgu, mae’n siŵr bod nifer o blant Cymru bellach yn gyfarwydd â’r enw Chubut.

Er yr hwyl, y cymeriadu doniol a’r bwrlwm, roedd yna agweddau sensitif i ‘Hola!’ oedd yn cyffwrdd â’r gynulleidfa – siom y Cymry wrth iddynt sylweddoli mai diffeithwch oedd gwlad yr addewid, y glöwr yn sôn am golli ei wraig a’i fam, a’r baban yn marw ym mreichiau Ffion ar fwrdd y llong. Roedd y seibiau yma’n gwbl briodol, ac yn darlunio difrifoldeb y fordaith a dewrder y cant a thrigain a deithiodd i Batagonia.

Dyma gampwaith arall o waith theatr mewn addysg gan Arad Goch. I ddweud y gwir ni allaf bigo gwendid yn y perfformiad. Roedd graen di-nam yn perthyn iddo, ffarweliais â’r theatr gan ganmol slicrwydd ‘Hola!’ i gyfeiliant cerddoriaeth Sbaeneg traddodiadol.

 

 

 

 

Adolygiad ‘Parallel Lines’ gan Nannon Evans

Parallel Lines gan Dirty Protest.

Es i’w weld ar nos Wener yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Dechreuodd y ddrama gyda mam a merch ifanc, gyda’r fam ar lawr yn dioddef yn aruthrol o hangover. Ro’n i’n hoff iawn o’r disgrifiadau penodol o sut roedd hi’n teimlo; er enghraifft ‘my mouth is like a camel’s ass’. Roedd comedi real i’w weld yma, comedi ry’n ni’n profi bob dydd ac roedd hyn yn effeithiol iawn. Yn ystod golygfa cyntaf y fam (Melissa) ar ferch (Steph), defnyddiwyd desg fel rhan o’i set; teimlais nad oedd angen y ddesg i fod yn rhan o’r golygfa ac roedd e’n aneglur iawn beth oedd ei bwrpas. Wrth i olygfa Steph a Melissa barhau roedd y ddau cymeriad arall, dau athro mewn perthynas a’u gilydd, sef Simon a Jullie, yn eistedd tu ôl iddynt ac, yna, ar ôl i’r olygfa orffen roedden nhw’n cyfnewid lle. Roedd y cyfnewid yma’n effeithiol tu hwnt, gan ein bod ni fel cynulleidfa yn gallu rhagweld bod mwy i’r stori ac roeddwn i’n ysu i glywed beth oedd hanes y ddau cymeriad oedd yn y cefndir.

Wrth i’r stori ddatblygu daethon ni i ddeall bod yr athro wedi cael ei gyhuddo o gael perthynas gyda disgybl yn yr ysgol, a’r ddisgybl honno yw Steph. O ganlyniad i hyn, mae Julie wrth gwrs yn grac ac yn awyddus i glywed beth oedd y gwir gan Simon; mae Simon yn gwadu’r cyfan ond mae’n cyfaddef bod y ferch wedi bod yn dod mewn i’w ystafell i gael sgwrs sawl tro. Roeddwn i’n gweld golygfeydd yr athrawon yn hynod o undonog ac yn amgylchynu’r unig bwnc yma a theimlais bod angen rhyw stori arall i blethu mewn i’w stori nhw. Ar y llaw arall, roedd sefyllfa Steph a’i mam yn ddiddorol gyda digon o sgôp iddi. Merch ifanc llawn bywyd 15 oed oedd Steph, merch alluog sy’n ysu i fynd i ddysgu am y byd. Ond nid yw hi’n cael amser i esbonio ei dyheadau o gwbwl i’w mam gan bod mwy o ddiddordeb ganddi hi i fynd allan i feddwi a chyflawni ei swydd fel putain. Dyma pam, dwi’n credu, iddi agosáu cymaint at Simon, yr athro, oherwydd ei fod e’n rhoi amser iddi siarad a chyfleu ei theimladau. Ond ni chawsom gyfle i weld y perthynas yma, ac roedd hyn yn rhwystredig i mi.

Er bod golygfeydd yr athrawon yn eithaf undonog, fe safodd un golygfa mas i mi. Cafwyd monolog gan Simon yn esbonio pa mor erchyll o ddiflas oedd ei fywyd bob dydd. Fe esboniodd mewn manylder pa mor echrydus oedd deffro, cysgu, gweithio a bwyta bob dydd, trwy’r dydd. Roedd e’n hynod o effeithiol oherwydd bod y tensiwn rhwng Simon a Julie’n cynyddu i’r pwynt lle buasech chi’n taeru bod Simon yn mynd i gyfaddef cael perthynas. Onid nid yw’n cyfaddef o gwbwl; dim ond “breath of fresh air” oedd Steph iddo ef. Felly, wrth gwrs, fe giliodd y tensiwn mewn un brawddeg; siom i mi oedd hyn oherwydd ro’n i’n disgwyl mwy o uchafbwynt i ddiwedd yr olygfa.

Erbyn diwedd y ddrama fe ddaeth Simon a Steph at ei gilydd a gwelwyd y ddau gyda’i gilydd am y tro cyntaf. Daeth rhyddhad mawr o weld y ddau gyda’i gilydd yn y diwedd i ddatgelu bod perthynas wedi bod rhwng y ddau, ond bod Simon yn gwadu’r cyfan. Sylweddolais ar ôl yr olygfa yma pa mor druenus oedd sefyllfa Steph wrth i’r ddrama bortreadu merch ifanc, dosbarth gweithiol, oedd yn methu â chael cyfiawnder. Er bod yr hyn ddigwyddodd iddi yn hollol anghyfreithiol, ac anghyfrifol o ran yr athro, ni chafodd unrhyw gymorth na chefnogaeth gan neb. I fi, doedd hyn ddim yn neges bwerus iawn i orffen y ddrama.

Ond, rhaid dweud fy mod i wedi mwynhau perfformiadau grymus y pedwar actor. Roedd pob un ohonynt yn raenus, pwerus ac yn addas iawn i’r sgript gyfoes, naturiol. Ro’n i’n hoff iawn o’r ffaith bod yr actorion hynny nad oeddynt yn yr olygfa i’w gweld yn newid yn araf yn y cefndir. Roedd hyn yn gyferbyniad llwyddiannus i naratif cyflym y sgript. Er nad oeddwn wrth fy modd gyda’r sgript, mae’n braf gweld cwmni theatr yn mynd â sgript newydd cyfoes o gwmpas Cymru. Mae’n hyfryd gweld amrywiaeth o wahanol themâu ar lwyfan gan gwmnïau ifanc newydd o Gymru.

Adolygiad ‘Parallel Lines’ gan Megan Lewis

Wedi i Katherine Chandler ysgrifennu’r ddrama ‘Parallel Lines’ yn 2012, enillodd gwobr Wales Drama Award. Perfformiwyd y ddrama am bythefnos yn 2013 ac yna yn 2014 ac enillodd gwobr Theatre Critics of Wales am y cynhyrchiad gorau trwy gyfrwng y Saesneg. O ganlyniad i’r holl lwyddiant, penderfynodd y cwmni Dirty Protest fynd â’r ddrama ar daith o amgylch Cymru.

Cyflwyna’r ddrama pedwar prif gymeriad o Gaerdydd. Yr ieuengaf ohonynt yw Steph, sydd yn ferch ysgol 15 oed. Mae’n ferch glyfar ond yn dipyn o rebel yn yr ysgol ac yn gorfod ymdopi â’i mam sengl sydd yn butain. Yn athro ar Steph yw Simon. Dyn ifanc, sensitif a chyfeillgar yw Simon a fu’n ffrind i Steph yn yr ysgol. Er hyn, wrth i’r ddrama fynd yn ei flaen, mae Steph yn gwneud cyhuddiad difrifol yn erbyn Simon, a dilyna’r gynulleidfa’r stori sensitif yma.

Crewyd naws annifyr i’r ddrama wrth i’r gynulleidfa gerdded i mewn i’r gofod perfformio, gyda’r theatr wedi’i lenwi â mwg, a’r actorion yn bresennol ar lwyfan. Dwi wastad yn teimlo braidd yn chwithig wrth weld yr actorion yn cyrraedd y llwyfan cyn i mi hyd yn oed gamu i mewn i’r theatr. Awyrgylch amwys sydd wedi gwneud i mi gwestiynu ei bwrpas yn syth cyn i’r perfformiad ddechrau.

Roedd y testun yn hollol newydd i mi ac roedd yn braf gweld cynhyrchiad gwreiddiol cyfoes ar daith o amgylch Cymru. Hawdd oedd dilyn y stori a’i harddull, er, o’r olygfa agoriadol teimlais fy hun yn portreadu cymeriad y fam yn fwy tebyg i chwaer. Teimlais fod ei hymateb i’w ‘hangover’ yn or ddramatig ac yn eithaf ifanc ei hagwedd. Ond eto, roedd y fath yma o actio yn addas iawn wedi i’r gynulleidfa ddechrau ddod i ddeall ei chymeriad tanllyd ac anghyfrifol.

Set minimalistaidd oedd ar lwyfan yn cynnwys cadeiriau a bwrdd yn unig. Teimlais fod yr arddull yma yn cyd-fynd â’r actio cyfoes ac yn plethu i mewn i’r golygfeydd yn llyfn a phroffesiynol. Yn yr un modd, roedd medru gweld yr actorion yn newid ei gwisgoedd mewn ffordd araf a phwyllog yn y cefndir yn ychwanegiad effeithiol iawn wrth iddo wrthgyferbynnu â’r golygfeydd cyflym a stormus oedd yn digwydd ar y brif lwyfan.

Rhaid cyfaddef, teimlais y ddrama ei hun braidd yn hirwyntog ac yn ailadroddus iawn. Roedd strwythur y perfformiad yn eithaf rhwystredig ac roeddwn yn ysu i weld perthynas cudd rhwng Steph (y ferch) a Simon (yr athro) ar lwyfan, ond yr unig bryd a welsom hyn oedd ar ddiwedd y perfformiad. O ganlyniad, nid oedd wir uchafbwynt i’r ddrama. Er hyn, rhaid canmol perfformiadau onest a sensitif yr actorion yn enwedig monolog Julie tua diwedd y ddrama lle mae’n rhannu ei rhwystredigaeth. Diweddglo pwerus a thrawiadol wnaeth gloi’r ddrama a hynny trwy ddelwedd gorfforol sydd wedi aros yn fy nghof.