Ballet Cymru – Adolygiad gan Nannon Evans

Ballet Cymru, Cerys Matthews a Catrin Finch. Beth sydd gan y tri enw adnabyddus yma yn gyfarwydd? Un perfformiad anhygoel a gafodd ei gynnal yn Theatr Sherman Cymru yr wythnos diwethaf.

Hen alawon Cymreig a ganodd Cerys Matthews yn yr hanner gyntaf yn cyfeilio gyda’i gitâr, gyda Ballet Cymru yn dawnsio i gyfeiliant ei llais crasfeddal a’i gitâr felfedaidd acwstig. Fe ganodd Cerys Matthews ystod eang iawn o ganeuon; rhai trist ac araf fel ‘Ar hyd y nos’, a rhai chwareus a digri fel ‘Bachgen bach o dincer’. Yn wir, dehonglodd Ballet Cymru y geiriau i’r caneuon yma mewn symudiadau hyfryd, gwahanol a chynnil. Nid oedd y symud yn uniongyrchol ac yn llythrennol i’r geiriau o gwbl, sydd yn dangos pam y mae’r cwmni arbennig yma yn haeddu’r statws Cenedlaethol.

Roedd y cyfeillgarwch yn amlwg iawn rhwng y dawnswyr a Cerys Matthews, felly sicrhaodd hyn naws ymlaciedig a chyfforddus yn y Theatr. Yn ogystal â chael profi ballet ar ei orau, fe gafon ni wers hanes ar yr holl ganeuon a ganodd Cerys Matthews. Er fy mod i’n gyfarwydd â rhan fwyaf o’r caneuon, roedd darganfod yr hanes tu ôl i bob un yn brofiad diddorol tu hwnt. Llwyddodd hyn i roi dimensiwn arall ar y dawnsio, ac i ddod a’r caneuon yn fyw. Felly rhaid dweud fod hanes a storïau Cerys Matthews yn helpu’r dawnsio a bod y dawnsio yn helpu caneuon Cerys Matthews ymddangos fel fy mod i’n clywed y caneuon am y tro cyntaf.

Fy hoff ddawns gan Ballet Cymru oedd eu dehongliad o’r emyn enwog Calon Lân. Roedd y ddawns yn llawn emosiwn a hapusrwydd. Daeth deigryn i’m llygaid wrth i’r gynulleidfa o bob oedran ymuno mewn yn y canu, roedd awyrgylch hollol unigryw yn y Theatr, awyrgylch na fuais erioed yn rhan ohoni o’r blaen. Ar ddechrau’r perfformiad, roedd golau sbot ar bob un dawnsiwr, felly o’r cychwyn cyntaf cafon ni ragarweiniad ar bob dawnswr mewn ffordd glir a chreadigol. Elfen arall yr oeddwn i’n hoff iawn ohoni oedd bod gan bob cân ddawnswr/wraig wahanol, er ei fod yn nodwedd syml iawn i hoffi, roeddwn yn cael fy nghyffroi bob tro y daw rhywun newydd i’r llwyfan ac felly ychwanegodd hyn ysgafnder ac amrywiaeth i’r perfformiad.

. Wrth i mi fentro mas ar ôl yr hanner cyntaf gwefreiddiol, roeddwn yn ddrwgdybus os byddai Catrin Finch yn gallu cynnig yr un ysgafnder a hwyl a gynigodd Cerys Matthews. Ond, yn ffodus iawn i ni fel cynulleidfa, roeddwn i’n hollol anghywir. Fe gynigodd Catrin Finch ddeinameg hollol wahanol ond hudolus a rhyfeddol i ni gyda’i chyfansoddiad newydd, Celtic Concerto. O ganlyniad i’r dawnsio gwefreiddiol ychwanegwyd prysurdeb a dyfnder i’w chyfansoddiad arbennig, roedd e fel petawn ni’n gwylio dau berfformiad gwahanol ar yr un llwyfan. Yr oedd y bartneriaeth o ballet a cherddorfa Sinfonia Cymru yn syfrdanol, yn enwedig pan fyddai’r glissando y delyn a neidiadau y dawnswyr yn cyd-fynd a’i gilydd. Er bod llawer llai o gyfathrebu yn yr ail hanner, yn sicr roedd y gerddoriaeth llawn ac anhygoel a’r dawnsio addfwyn yn siarad dros eu hun.

Ar ôl profi noson mor rhamantus a hwyliog gellir dweud fod Cerys Matthews, Catrin Finch a Ballet Cymru yn gyfuniad ysblennydd o dalentau.

GESUNDHEIT! – Adolygiad gan Naomi Seren Nicholas

Gan ‘VanHuynh Company’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth – 30ain o Ebrill 2015

Gosoda’r llwyfan crwn awyrgylch personol a chlyd i’r perfformiad. Teimlais fy mod wedi fy nerbyn i’r cylch am wledd 360˚ o ddawnsio a cherddoriaeth. Symuda’r perfformwyr o amgylch y gwagle crwn fel bysedd cloc, gan sicrhau fod pawb yn yr eisteddle’n cael blas ar brofiad trydanol dwys Gesundheit!

Bysedd Jamie Hamilton wrth y bwrdd sain oedd y gyfrifol am gynnal yr awyrgylch electronig a byddarol. Trwy ychwanegu llyrgyniad at boeri geiriau, chwibanu ac anadlu trwm yr actorion llwyddodd y dewin seinyddol greu awyrgylch cyfoes a phigog.

Fferrodd fy ymennydd wrth wrando ar y llinell ‘row upon row’ dro ar ôl tro. Wedi pum munud ailadroddus roedd y geiriau’n ddiystyr ac yn ddim ond cytseiniaid gwag. Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd y perfformwyr yn rhaffu llinellau rhythmig fel ‘not, knot, knotting, knotted, needing, need…’ Rownd ddwys ond effeithiol o’r ‘word association game.’

Rhwydd a llyfn fel rhaeadr – dyna oedd yr elfennau corfforol. Roedd y dynion yn feistri ar reoli bob cymal o’u cyrff. Roedd y cydsymud yn ddi-nam a chryfder y ddau yn athletaidd ond cain.

Yn aml roedd yna waith deuawd corfforol i gyfeiliant llais Elaine Mitchener. Hoffais yn fawr Elaine fel goruchwyliwr a’r dynion yn perfformio. Roedd presenoldeb ymylol Elaine yn fy atgoffa eto o lwyth brodorol. Roedd y dynion fel pe baent yn cystadlu fel dau baun (peacock) am gydnabyddiaeth ganddi.

Roedd cyfres o gwestiynau yn rhedeg fel islais drwy’r perfformiad. Beth pe bawn i’n torri’n ddarnau? Yn malu’n deilchion fel cwarel o wydr brau. Beth pe bawn i’n anghofio ei wen, ei arogl, ei lais? Ai teimlad rhyfedd yw gadael i rywun adael? Roedd y cwestiynau’n fy atgoffa’n fawr o alar, a’r gofid ym mhen misoedd o anghofio ffurf yr un a bu farw.

Er imi fwynhau’r perfformiad yn rhannol. Rhaid cyfaddef, ffarweliais â Stiwdio’r Ganolfan wedi drysu. Pam oedd y ferch yn tynnu ei phenwisg a’i hesgidiau? Cyfleu crefydd oedd bwriad yr ystum tebyg i weddïo ar fatiau Mwslimaidd? A beth oedd pwrpas y clo sydyn annherfynol?

Ond Y marc cwestiwn pennaf imi oedd y teitl: Gesundheit! Wedi gwaith ymchwil mae’n debyg mai rhyw ‘fendith’ neu ‘bless you’ Almaeneg yw ystyr yr ebychiad.

Er, ar ôl meddwl, mae’n bosib bod y teitl yn gweddu’r perfformiad. Mae’r ebychiad Gesudheit! Yn goron ar fy niffyg dealltwriaeth o’r perfformiad. Nid oedd y perfformiad yn sefyll ar ei draed ei hun. Bu’n rhaid imi ddarllen y rhaglen cyn deall mai darn am ddadfail perthynas oedd hwn. Yn amlwg nid oedd cyrff y tri yn cyfathrebu’n ddigon clir imi allu dehongli na deall sail y perfformiad. Cefais fy ngadael yn y niwl gan Gesundheit!

 

 

‘How to succeed in business without really trying’’ – Adolygiad gan Meleri Haf a Sian Elin Williams

Perfformiodd y Cwmni Curtain Call y sioe ‘How to succeed in business without really trying’ yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth ddechrau mis Mai 2015.

Roedd y Sioe wedi ei osod yng nghyfnod y 60au. Roedd y cymeriadau wedi gwisgo mewn sgertiau hir ac roedd gennynt wallt mawr.

Mae’r stori yn sôn am ddyn o’r enw Mr Finch sy’n dechrau gweithio mewn cwmni mawr ac yn araf bach yn dringo fyny’r ysgol o ran pwysigrwydd, awdurdod a hierarchaidd. Mae’n ceisio creu argraff dda ar bawb yn y busnes, un person ar y tro, y pennaethiaid adran ac yn enwedig pennaeth y cwmni – J.B.Biggley.  Mae Mr Finch yn cyhoeddi ei fod yn mwyhau golff, gwinïo a chefnogi’r Greyhog’s, yn union fel J.B.Biggley.

Wedi’i leoli yn America (yr union le heb ei benodi), fe wnaeth yr actorion gynnal yr acen Americanaidd trwy gydol y perfformiad yn llwyddiannus.
Set eithaf syml oedd wedi’i leoli o fewn swyddfa rhan fwyaf o’r amser. Roedd dau blatfform gyda lifft wedi eu beintio ar bob un. Doedd y set ddim yn newid trwy gydol y perfformiad ond roedd hyn yn effeithiol iawn gan bod yr actorion yn dod yn fwy i’r amlwg felly.

Roedd y newid rhwng golygfeydd yn gyflym ac yn slic, ac felly doedd y gynulleidfa ddim yn diflasu. Wrth weld perfformiad fel hyn (cynyrchiad amatur), mae ‘na dueddiad i feddwl weithiau bod rhywbeth yn mynd i fynd o’i le, boed hynnu’n eiriau, caneuon, newid set neu phroblemau technegol, ond roedd hwn yn berffomriad slic a graenus gyda hôl gwaith paratoi.

Perfformiad proffesiynnol iawn, gyda actorion talentog, yn enwedig Ellie Simmons a chwaraeodd Rosemary Pilkington. Ymddangosodd yn gartrefol drwy gydol y perfformiad ac roedd hi’n edrych yn broffesiynnol, yn canu fel y seren ddelfrydol ar y West End.  Roedd llawer o ganeuon yn llawn hwyl ac yn siŵr yn aros ym meddyliau’r gynulleidfa wedi’r cynhyrchiad orffen, caneuon megis ‘Coffee Break’ a ‘Greyhog’. Actorion eraill a sefodd allan oedd Tom Sparks a chwaraeodd ran ‘Twimble’, a Samuel Sherlock a chwaraeodd ran J.B.Biggely, perfformiadau llawn hiwmor a doniol iawn.

Roedd yn gynhyrchiad ysgafn, hawdd ei wylio, yn llawn dawnsio, canu a chwerthin.  Delun Jones oedd y Coreograffydd, a hoffem ei chanmol ei gwaith hi gan ei fod yn elfen allweddol i lwyddiant y sioe. Roedd y dawnsio yn cynnwys cyd-symud o’r cychwyn hyd at ddiwedd y sioe ac yn fywiog tu hwnt.  Yr unig beth y sylwom oedd efallai bod y set a’r llwyfan yn gyfyng ar adegau, yn enwedig y ystod y finale lle gwelom y cast cyfan. Er hynnu rheolwyd y gofod yn dda. Da iawn wir i griw Curtain Call, a phob lwc yn y sioeau sydd i ddod.
 

‘An Inspector Calls’ gan Tin Shed Theatre Co. – Adolygiad gan Meleri Hicks

‘An Inspector Calls’ – drama digon cyfarwydd ac adnabyddus i nifer erbyn heddiw mae’n siŵr. Fe gefais i’r cyfle i astudio’r ddrama hon ar gyfer fy arholiad Llenyddiaeth Saesneg adeg TGAU, felly cyn y perfformiad roeddwn i’n gyfarwydd iawn efo’r cymeriadau, plot a naratif. Serch hynny, teimlais gyffro cyn y perfformiad yma yng Nghanolfan y Celfyddydau, yn meddwl sut fyddai ‘Tin Shed Theatre Co.’ yn medru addasu’r ddrama i’r gynulleidfa fodern.

Yn syml, mae’n ddrama yn tywys y cymeriadau trwy noson hwyliog mewn cartref teuluol dosbarth uwch, noson sy’n cael ei darfu gan ddyn sy’n cyfwyno ei hun fel ‘the inspector’, gan ddatgan ymholiadau am hunanladdiad merch ifanc. Yn ei tro, mae pob aelod o’r teulu yn cael ei holi gan yr arolygydd, ac rydym yn sylweddoli yn fuan iawn bod pawb wedi chwarae rhan hanfodol mewn marwolaeth Eva Smith.

Credaf bod y set yn llwyddiannus ac yn cadw at y cyfnod, sef 1912. Cafodd y ddrama ei leoli yng Nghartref Burling efo’r gwrthrychau yn cyd-fynd gyda’r cyfnod a dosbarth y teulu. Roedd gan y bwrdd ar ochr dde’r llwyfan gwpanau ffansi; cadair a ffôn, ac roedd drws yng nghanol y llwyfan. Y drws ei hun oedd yr elfen bwysicaf o’r set. Doedd dim llawer o olau, a oedd yn cyd-fynd gyda’r naws o ddirgelwch a’r tyndra rhwng y cymeriadau. Wrth i’r gynulleidfa ddod i mewn i’r theatr, fe welsom Sheila, Arthur, Civil, Gerald ac Eric wrth y bwrdd yn barod, heb yr un symudiad rhyngddynt. Yna, pan ddaeth hi’n amser i’r perfformiad ddechrau, daeth y forwyn at y bwrdd ac ail-drefnwyd bob aelod o’r teulu, fel pe baent yn bypedau. Roedd hyn fel petai yn arwydd o beth oedd i ddod, efo’r arolygydd yn ‘rheoli’r’ holl deulu efo’i eiriau o bosib.

Trwy edrych yn ôl ar y perfformiad, fe lwyddodd y cwmni – ar lefel sylfaenol – i reoli’r cywirdeb dramatig o’r dechrau i’r diwedd, drwy gymysgu dieithrwch yr Arolygydd gyda naturoliaeth yr achos dirgel o hunanladdiad Eva Smith. Trwy’r cymeriadau mae themâu cryf JB Priestley o gyfrifoldeb a phwysigrwydd cymuned yn dod yn amlwg.

I unrhyw sydd yn adnabod y ddrama yn dda, byddant yn gwybod sut mae presenoldeb yr arolygydd yn newid dynameg y teulu. Cyn i’r arolygydd ddod trwy’r drws, mae’r teulu yn dathlu dyweddïad Gerald a Sheila a phosibilrwydd Burling o gael ‘knighthood’. Fe wnaeth Sheila hyd yn oed ddweud ‘I’ll never let it out of my sight’ wrth gymryd y fodrwy. Cafodd y ‘teulu hapus a pherffaith’ ei bortreadu yn berffaith ac argyhoeddiadol. Pan ddaeth yr arolygydd i mewn i’r tŷ, fe welwn yn fuan y craciau yn dod i’r amlwg drwy’r aelodau. Fe ddechreuodd yr arolygydd drwy gwestiynu Burling am ei berthynas gyda Eva. Yn y ddrama, mae’r arolygydd yn cael ei weld fel person sydd a’r presenoldeb mwyaf ar y llwyfan, ac o bosibl yr awdurdod mwyaf. Ei nod yw dychryn a bygwth y teulu. Yn y cynhyrchiad yma, teimlaf nad oedd hyn wedi’i bortreadu ddigon. I mi; doedd yr arolygydd ddim digon brawychus. Fe ddywedodd Burling wrth yr arolygydd ‘I don’t like your tone’, i geisio stopio’r arolygydd weiddi arno. Yn eironig, roedd tôn ei lais yn hamddenol iawn. Yn fy marn i doedd o ddim digon ffyrnig a doedd gan aelodau’r teulu ddim digon o ofn ohono.

Y cymeriadau mwyaf argyhoeddiadol yn y perfformiad oedd Sheila a Gerald. Mae’r ddau yn portreadu perthynas hapus a chariadus ar ddechrau’r perfformiad, a oedd yn cyferbynnu a’u perthynas ar y diwedd, lle ddywedodd Sheila ‘You and I aren’t the same people who sat down’ ac yn rhoi’r fodrwy yn ôl. Teimlodd y gynulleidfa’r tensiwn rhwng y ddau wrth drafod perthynas Gerald gyda ‘Daisy Renton’, a chlywsom y boen yn llais Sheila. Sheila yn amlwg oedd yn teimlo mwyaf euog, a chafodd ei bortreadu yn rhagorol gan yr actores. Hi oedd yr un a wynebodd ei chyfrifoldeb am farwolaeth Eva Smith fwyaf, sydd yn cyd-fynd efo araith Burling ar y dechrau, sef ‘Everyone must face up to their responsibility’ – sy’n eironig gan bod Burling yn gwrthod cydnabod neu cymeryd cyfrifolodeb am farwolaeth Eva. Pan welwn Gerald yn trafod Daisy Renton, teimlais y boen yn ei lais, yn enwedig pan ofynnodd Sheila os oedd ef mewn cariad â hi. Mae hyn yn wahanol i’r Gerald a welsom ar y dechrau, lle mae’n brolio am fusnes a’i statws yn y gymuned gyda Burling. Yma mae’n cael ei weld yn wan ac yn unig.
Sylwais ar adegau y tueddiad i’r actorion or-actio, a oedd yn gwneud i mi deimlo bod y symudiadau a’r geiriau yn cael eu gorfodi. Weithiau roeddwn yn teimlo fel fy mod i’n gwylio darn ymgom yn yr Eisteddfod, yn enwedig yn y darn lle roedd Civil ac Eric yn gweiddi ar ei gilydd. Roedd y gynulleidfa yn chwerthin, er ei fod yn rhan difrifol o’r ddrama.
Hoffwn weld llawer mwy o densiwn rhwng Burling a’r arolygydd efo’u brwydr i gael awdurdod. Collodd Burling ei acen ychydig o weithiau yn ystod y perfformiad , lle wnaeth y gweddill ei gynnal yn llwyddiannus – yn enwedig y fam, Civil. Yn ogystal a hyn, roedd Burling yn aml yn gweiddi ei linellau, a oedd yn teimlo fel ei fod yn mynd dros ben llestri.
Er fy mod i’n ymwybodol o’r canlyniad terfynol, fe lwyddodd yr actorion i swyno’r gynulleidfa i mewn i’w bywydau. Ar ddiwedd y perfformiad, roedd y gynulleidfa yn cwestiynu pwy oedd yr aelod mwyaf euog yn y teulu. Cawsom ein gadael gyda ‘cliffhanger’, a’r teulu yn derbyn galwad ffôn bod merch wedi marw. Mae’r actorion yn llwyddo trwy wneud i ni gwestiynu os oedd arolygydd yn bodoli, ac hefyd yn gwneud i ni feddwl bod miliynau o Eva Smith’s yn y byd. Er hyn, cefais fy siomi’r gyda’r ‘cliffhanger’ yn ystod yr egwyl gan nad oeddwn yn teimlo ar frys i wybod mwy.

Felly, mewn termau syml, yr oedd perfformiad ‘Tin Shed Theatre Co.’ o ‘An Inspector Calls’ yn un ddigon pleserus i’w gwylio. Roedd y perfformiad yn addasiad o’r hyn a ddarllenais yn y ddrama wreiddiol, a weithiodd yn llwyddiannus iawn. Fe lwyddodd yr actorion bortreadu’r teimladau gwahanol o euogrwydd rhyngddynt yn anhygoel, sy’n bwysig iawn yn y math yma o ddrama.  Un peth amharodd ar fy mhrofiad yn y Theatr oedd bod disgyblion ysgol yn y gynulleidfa oedd yn chwerthin ar ddarnau oedd i fod o ddifri. Efallai dylai’r ganolfan gynnal perfformiad ar gyfer disgyblion ysgol yn unig.

‘The Harri-Parris: The big day’ – Adolygiad gan Nannon Evans

Hilêriys. Un gair y byddai’n disgrifio fy mhrofiad o fynd i weld y sioe The Harri-Parris: The Big Day gan Llinos Mai. Cyn i’r gynulleidfa gamu i fewn i Theatr Chapter yng Nghaerdydd cynnigwyd rhyw bapur bro gwych i ni yn rhoi blas ar beth oedd i ddigwyl o’r perfformiad. Ysgrifennwyd y papur bro mewn arddull fel petai rhywun wedi recordio dwy hen fenyw yn hel clecs, felly teimlais bod y perfformiad wedi dechrau cyn i’r sioe ei hun ddod ar y llwyfan, rhywbeth a oedd yn lwyddiant cynnil ac effeithiol iawn i mi.

Cymerodd y sioe ei le yng nghegin gartrefol y teulu yn Llanllai yng Ngorllewin Cymru, lle gafon ni’r cyfle i gwrdd â chymeriadau lliwgar y teulu Harri Parri. Rhaid dweud roedd y set wedi ei greu yn berffaith. Fe lwyddodd Dickie Dwyer, y cynllunydd set i gyfleu cegin traddodiadol Gymreig i’r dim wrth roi bwrdd mawr yn llawn bwyd, y dreser yn llawn platiau Cymreig, y piano a’r casgliad trawiadol o rosets y Sioe Frenhinol yn y set, golygfa cyfarwydd iawn i Gymry cefn gwlad.

Plot y stori oedd bod Anni Harri Parri (Llinos Mai) yn priodi â bachgen ifanc, Ben (Oliver Wood) o Fanceinion. Nid yn unig roedd y bachgen yma yn Sais, ond fe ddaeth i’r amlwg ei fod e’n graphic designer, mewn band o’r enw Puppy Phat ac yn waeth na’r cyfan yn Vegeterian. Yn sicr, nid y math yma o berson yr oedd Glenda, y fam ecsentrig cariadus (Rhian Morgan), Deiniol, y cefnder self appointed wedding planner (Rhys Trefor) ac Ifan, y brawd cadarn bygythiol yn ei ddisgwyl. Felly fel y byddwch ddychmygu nid oedd Y Diwrnod Mawr mynd i gyrraedd heb ychydig o ddrama.

Er bod plot y stori yn un syml ac ychydig yn bantomeimaidd, nid oedd y comedi yn cyfateb i hyn. Yn y ddrama hon fe gafon ni brofi comedi Cymreig cynnil a chlyfar. Fe lwyddodd Llinos Mai greu rywbeth doniol allan o rywbeth sy’n hollol naturiol i ni’r Cymry er enghraifft dweud “tara, tara, tara,tara, tara” wrth ffarwelio ar y ffon, rhywbeth a berfformiodd Rhian Morgan yn arbennig o dda a doniol tu hwnt. Roedd cymeriadu pob un aelod o’r teulu yn berffaith, er eu bod nhw’n efelychu ystrydeb Gymreig dwi wedi eu gweld a’u hadnabod o’r blaen, roedd cymeriadu yr actorion yn sicrhau eu bod nhw’n wreiddiol ac yn unigryw.

Nid yn aml yr ydych yn cael y cyfle i weld cwmni theatr proffesiynol yn perfformio sioe gerdd newydd, a gellir dweud ar ôl profi llwyddiant Harri Parris mae’n sicr fy mod yn awchu i weld mwy gan y cwmni theatr Mai oh Mai. Lwcus fod BBC Wales wedi gofyn i Llinos Mai ysgrifennu cyfres radio yn dilyn hynt a helynt y teulu o Lanllai. Nid yn unig bod yr actorion yn canu ac actio, nhw hefyd oedd yn creu y gerddoriaeth ar lwyfan. Cefais fy syfrdanu gan cymaint o offerynnau roedd yr actorion yn gallu eu canu. Wrth ganu a chwarae y gitar/bas/drymiau/trwmped/piano/accordian fe lwyddodd pob un ohonynt drosglwyddo eu cymeriadau hoffus i ni trwy gydol yr holl ganu a dawnsio. Fy hoff gân gan y cast oedd rap Rhian Morgan am y gwahaniaeth amlwg (?) rhwng Merched y Wawr a’r Womens Institute. Er nad oedd alaw y caneuon yn hollol arbennig, cyfansoddwyd one liners ysblennydd oedd yn ddigon i roi chi yn eich dyblau. Roedd yr amrywiaeth o arddulloedd caneuon yn anhygoel o ddoniol, doedd gen i ddim syniad beth i ddisgwyl nesaf gan y teulu unigryw o orllewin Cymru.

Erbyn diwedd y sioe, roeddwn i’n teimlo mor falch ohonynt i gyd am lwyddo i ddod at ei gilydd i ddathlu cariad Anni a Ben er gwaethaf yr holl ymladd, roeddwn i eisiau mynd i’r briodas gyda nhw! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw clust yn agored wrth wrando ar Radio Wales yn yr wythnosau nesaf rhag ofn i chi allu cael y profiad unigryw o gwrdd â theulu mwyaf doniol, cariadus ac od Cymru, yr Harri Parris.

 

‘Pum Cynnig i Gymro’ gan Theatr Bara Caws – Adolygiad gan Meleri Morgan

Wrth glywed yn blentyn yn nhad yn sôn am John Elwyn Jones, nid oeddwn wedi sylweddoli mawrder ei ddewder nes i mi fynd a gwylio perfformiad Theatr Bara Caws o Pum Cynnig i Gymro, addasiad Dyfan Roberts o’r hunangofiant.

Nid yn unig hanes rhyfel a’r dianc a gawn ond ewn i ffeddylfryd John Elwn yn ogystal a’r stori gariad grymus am briodas gudd a merch o Wlad Pwyl.

Yn wir disgwyl sioe un dyn oeddwn ond gefais sioc wrth weld dau actor ar y rhaglen. Credaf fod hyn yn ddewis arbennig wrth i ni gael yr hanes gan lais cyfoethog a thyner Dyfan Roberts. Cawn John ifanc trwy berfformiad egniol Meilir Rhys Williams trwy coregraffi Sarah Mumford cawn ddeuawd effeithiol yn llewni y llwyfan yn dod ar hanesion yn fyw i ni o flaen ein llygaid.

“Ildio neu Gwffio” Dyma rhan o eiriau agoriadol John Elwyn. Yn wir fe wnaeth y geiriau yma gael gryn effaith arnai trwy wrando ar y stori gan fod ei fywyd wedi bod yn llawn cwffio-corfforol ac emosiynol. Gadawodd ei fam e pan oedd yn 7 oed, a gadawodd ei dad i fynd ar y strydoedd. Yn syrthio mewn cariad gyda merch ifanc pwyleg pan yn ceisio dianc, yna ei phriodi a’i cholli. I fod yn filwr. Mae’n wir i ddweud ei fod wedi gweld dioddefaint, ond yr hyn sydd yn rhyfeddol yw ni wnaeth ildio nes ei fod yn rhydd nôl yn Nolgellau yn Mai 1944.

Wrth ein hannerch ni i wrando ar ei hanes ces i fy nhynnu i mewn yn syth gyda’r hanesion hollol anhygoel ac unigryw. Rhyw awr a hanner yn ddiweddarach roedd y golau’n mynd lawr i ddynodi fod yr hanes yn dod i ben. Methais ‘sgwennu gair gan fod y perfformiad yn hawlio fy sylw i gyd. Trwy set syml yn portreu ei “stydi” teimlwn ein bod yn yr ystafell yno yn eistedd o’i amgylch yn gwrando ar ei hanesion.

Am gyfanwaith hollol gafaelgar o dan arweinyddiaeth y chyfarwddwraig uchel ei pharch Betsan Llwyd, llwyddwyd i greu awyrgylch anghyffyrddus am y rheswm cywir yn y theatr wrth i ni gydymdeimlo a chymeriad mentrus John Elwyn Jones. Gellid clywed pin yn disgyn. Dyma y tro cynta’ ers tro byd i mi gael fy nghyffwrdd gan berffromiad cyfrwng cymraeg. Perfformiad caboledig iawn.

Deuawd dymunol dros ben a lenwodd y llwyfan ac emosiwn trwy eiriau a gweithredoedd grymus.

Crouch, Touch, Pause, Engage – Adolygiad gan Meleri Haf Hicks

 Cynhyrchiad gan National Theatre Wales.

Cyn i mi hyd yn oed wneud unrhyw ymchwil i mewn i’r cynhyrchiad a’r cefndir, roeddwn i’n hollol ymwybodol taw sioe am rygbi fyddai hon a hynny oherwydd y teitl; ‘Crouch, Touch, Pause, Engage’. Gan fy mod i’n angerddol am rygbi, roeddwn i’n awyddus iawn i weld y perfformiad.

Mae’r stori ei hun yn canolbwyntio ar seren rygbi yng Nghymru, sef Gareth ‘Alfie’ Thomas. Rydym yn dod i ddysgu sut wnaeth o ddelio efo’r hunllef o guddio tu nol i’r cyfrinachau – a’r gyfrinach fwyaf oedd ei fod yn hoyw. Am flynyddoedd yr oedd yn ceisio creu’r ddelwedd o’r ‘dyn rygbi’ arferol i bobl ac i’r cyfryngau, ond nid dyma oedd yr ‘Alfie’ go iawn. Rydym yn cael ein tywys drwy’i fywyd a sut wnaeth o ymdopi wedi iddo gyffesu’r cyfan. Mae’r brif stori hon, yn cael ei chlymu efo trafferthion ddwy ferch ifanc o Ben-y-bont. Drwy hyn, rydym yn dysgu am y byd chwaraeon; cyfrinachau; gwleidyddiaeth; bywyd a sut i fod chi eich hun.

Wrth i mi eistedd i lawr yng Nghanolfan y Celfyddydau efo Mared, un arall o Critics Aber, cefais i sioc i weld y theatr yn llawn. Yn ogystal, fe welais i nifer o ddynion canol oed yn gwisgo crysau rygbi Cymru – a oedd yn ddiddorol iawn i mi. Tybed a oedd y dynion yma’r un oedran a Gareth, ac felly’n teimlo’n rhan o’i fywyd a’i yrfa?

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi gweld llawer o ffilmiau dogfen am Gareth a’r pwnc o ‘ddod allan’, ac ro’n o’n edrych ymlaen i weld sut fyddai National Theatre Wales ac Out of Joint yn medru portreadu’r stori mewn ffordd wreiddiol neu unigryw ar lwyfan.

Ni newidydd y set drwy’r perfformiad. Roedd popeth yn digwydd o fewn yr ystafell newid, mewn stadiwm neu glwb rygbi fel petai – ond cafodd nifer o leoliadau eu cyfleu o fewn y gofod, e.e yr ysbyty.

Cafodd nifer o gymeriadau eu portreadu drwy’r cynhyrchiad; Gareth ei hun, y rhieni, y ddwy ferch ifanc, ffrind gorau Gareth a gwraig Gareth sef Gemma. Yn ddifyr hefyd, roedd pob un o’r 6 actor ar y llwyfan yn cael y cyfle i chwarae rhan Gareth, a gweithiodd hyn yn dda iawn. Roedd y modd roedd y cwmni wedi cyfleu hyn wrth sicrhau bod ‘Gareth’ bob tro yn gwisgo crys-T Cymru ac yn dal pêl rygbi yn effeithiol iawn. Yn ogystal a’r syniad o basio’r bel i’r actor nesaf oedd yn mynd i chawarae Gareth.Wrth feddwl yn ôl, gall hyn wedi bod yn eithaf annaturiol, ond credaf dyma un o gryfderau’r perfformiad.
I mi, roedd y defnydd o chwarae efo stereoteipiau Cymru drwy berfformiad wedi ychwanegu at elfen chwareus y cynhyrchiad. Efo’r ddwy ferch ifanc o Ben-y-bont, fe wnaeth yr acen gref ei drosglwyddo’n amlwg i’r gynulleidfa’n. Yn ogystal, fe wnaeth y ddwy ohonynt chwarae ar y ddelwedd ddoniol o ferched ifanc De Cymru efo geiriau megis ‘cwtsh’, ‘lush’ mewn modd diniwed.

Mae’r thema ei hun sef ‘rygbi’ hyd yn oed yn stereoteip amlwg o Gymru a chawn ein hatgoffa o ba mor bwysig ydy rygbi i Ben-y-bont. Rydym yn clywed y stori am y tîm rygbi yn colli yn erbyn Maesteg, a ‘What rygbi means to a place like this’. Clywir yr anthem fel SFX yn y cefndir a’r golau yn fflachio er mwyn creu’r bwrlwm ac ail-greu’r awyrgylch o’r stadiwm.
Cafodd y thema o ‘ddod allan’ ei drosglwyddo a’i bortreadu i’r gynulleidfa mewn ffordd sensitif a phersonol iawn, heb or – ddramateiddio os gai ddefnyddio’r term. Yr oeddwn yn hoff iawn o sut wnaeth y fam egluro i ni ei bod hi dal yn galw ‘Alfie’ yn Gareth, sydd yn ychwanegu at yr elfen bersonol o’r stori. Yn ogystal, wnes i rannu a phrofi poen Gareth, wrth iddo gyffesu’r cyfan i’w wraig Gemma. Er bod y darn yma yn llawn tensiwn, roedd yn gynnil ac yn cyfleu’r rhyddhad wrth i gymeriad Gemma ddweud ‘we can we have a cup of tea now?’ Roedd y ddau dal yn caru ei gilydd.

Perfformiad llawn comedi gan National Theatre Wales ac Out of Joint, ond eto wedi trin y pwnc mewn modd sensitif a phersonol. Dwi’n siwr bod Gareth ei hun yn hapus iawn efo’r canlyniad terfynol.

‘Crouch Touch Pause Engage’ – Adolygiad gan Mared Llywelyn

Cynhyrchiad gan National Theatre Wales.

Ym mis Rhagfyr 2009 Gareth ‘Alfie’ Thomas oedd y person cyntaf ym myd Rygbi rhyngwadol i gydnabod ei fod yn hoyw. Yn ôl y sôn bu newyddiadurwyr yn bygwth dadlennu ei gyfrinach am flynyddoedd, ac roedd yr elyniaeth tuag at wrywgydiaeth yn y diwylliant chwaraeon wedi ei yrru at geisio cyflawni hunanladdiad. Yn y ddrama hon gan Robin Soans a chydweithrediad National Theatre Wales, Arcola Theatre a Chwmni Out of Joint cawn glywed am frwydr ‘Alfie’ i geisio dygymod â’i helbul mewnol. Cydweithredodd y dramodydd â phobl ifanc o’r cymoedd a gydag Alfie ei hun wrth greu’r sgript, ac mae’r hygrededd yna yn amlygu ei hun yn y testun.

‘I f***ing breathe the fact I’m from Bridgend. I’m more proud of that than anything else in my life.’

Mae deialog agoriadol yn rhoi amcan go lew i’r gynulleidfa sut fath o berfformiad sydd o’u blaenau. Amrwd, doniol a gonest. Mae’r ffaith i Ben-y bont ar Ogwr gael ei enwi yn y linell gyntaf yn dangos rhan arwyddocaol yn y ddrama ar ddwy lefel. Am y ffaith i dref enedigol fod yn ran annatod o’r chwaraewr rygbi Gareth ‘Alfie’ Thomas, a’r ffaith iddo fod yn anenwog am nifer helaeth o hunanladdeidiau ymysg pobl ifanc yn eu harddegau, ac mae Robin Soans yn plethu’r ddwy stori- stori Alfie a stori dwy ferch cythryblus o Ben-y- bont ar Ogwr, a sut daethant allan o’u gwewyr personol.

Ystafell loceri oedd sylfaen y set, ond roedd yr actorion yn trawsnewid yr ystafell yn llwyddiannus iawn i leoliadau eraill megis ystafell ddosbarth, ward ysbyty ac ystafell fyw rhieni Alfie. Rhaid canmol y chwe actor egniol wrth iddynt lithro i mewn ac allan o wahanol gymeriadau, ac oll yn eu tro yn portreadu Alfie ei hun hefyd. Gwnaeth hyn i mi feddwl bod mwy nac un ochr i’w gymeriad, a sut fyddai Alfie yn ceisio ffoi oddi wrth ei hunaniaeth a’r sylweddoliad ei fod yn hoyw. Effeithiol dros ben oedd y steil Brechtaidd o berfformio, a’r cyswllt uniongyrchol a oedd rhwng y cast a’r gynulleidfa, rhoddodd awyrgylch agos-atoch ac annwyl i’r perfformiad- yn union fel swyn a chymeriad Alfie.

Dyma ddrama sy’n ymdrin â phynciau dwys ac mae sawl golygfa trwm, ond chwerthin trwy grio yr oeddwn i, a rwy’n siŵr mai hynny y gwnewch chwithau hefyd. Rwy’n falch bod ysbryd unigryw y cymoedd yn bresenoldeb gref iawn ar y llwyfan, bron fod yr ysbryd hwnnw yn gymeriad ynddo’i hun.

Camp fawr oedd ceisio deifio’n ddwfn i galon y ddwy stori yma, ond stori Alfie wnaeth fy nghyffwrdd fwyaf. Efallai bod y ddwy stori yn rhy ddeifiol i wneud cyfiawnder â hwy mewn drama dwy awr, ac roedd ymdeimlad bod y stori yn cael ei hadrodd i ni, nid ei dangos.

Er hynny roedd Canolfan Celfyddydau Aberystwyth yn llawn dop, ac nid wyf yn amau bod hon yn ddrama sydd wir yn werth ei gweld. Rhaid edmygu dewrder a dyfalbarhad y cawr addfwyn o Ben-y-bont ar Ogwr, ac wedi’r cyfan:

‘If you’re the first to do something, you have to be prepared to take the sh*t for it.’

‘Y Fenyw Ddaeth o’r môr’ – Adolygiad gan Meleri Haf Hicks

Wedi i mi adael Canolfan Y Celfyddydau ar ôl gwylio cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Y Fenyw Ddaeth o’r môr’, fe benderfynais yn syth i ysgrifennu’r geiriau cyntaf a ddaeth i’m mhen. Tro yma, ni wnes i ysgrifennu nodiadau trwy’r perfformiad. Drwy wneud hyn, fe sylweddolais pa mor ddylanwadol oedd y perfformiad wedi i mi adael y theatr. A wnes i brofi unrhyw beth gwahanol yn sgîl y perfformiad?  ‘Cyfiaethiad uniongyrchol’. ‘Drama wedi’i dyddio’.

Yn wir, dyma’r hyn y wnes i ei ysgrifennu yn gyntaf wedi i mi adael. Mae’r ddrama ei hun yn un glasurol gan Ibsen a’i hysgrifennodd ym 1888. Cefais i’r cyfle i astudio’r ddrama yn ystod fy Lefel A yn y chweched dosbarth, felly roeddwn i’n gyfarwydd iawn efo naratif a chymhlethdod y cymeriadau. Dyma’r tro cyntaf i’r ddrama gael ei chyfiaethu i’r Gymraeg, ac felly roeddwn i’n awyddus iawn i brofi crefft Menna Elfyn yn fyw yn y theatr.             Yn syml, mae’r ddrama yn ein tywys ni drwy sefyllfa gymhleth Elida, sef merch ceidwad y goleudy sydd yn teimlo’n gaethiwed o dan rym y môr a straen ei pherthynas efo Dr Wangel. Ond, ceir gweld sut mae ymweliad gan ddyn dieithr yn newid popeth; sydd yn arwain ni at gwestiynnu a ydy’r person yma’n ddieithr neu beidio? Wrth i’r stori fynd yn ei blaen, rydym yn dechrau datod ei bywyd cythryblus. A fydd hi’n parhau i aros yn y berthynas sydd yn cael ei gaethiwo gan y tirlun yn Norwy neu a fydd hi’n dianc efo’r dyn dieithr?

I mi, nid oedd Menna Elfyn wedi llwyddo i greu addasiad o’r ddrama, ond yn hytrach wedi trosi’r sgript yn uniongyrchol i’r Gymraeg. Ni welais unrhyw addasiad modern i’r ddrama, ac yn sgîl i hyn, roedd y perfformiad yn un sydd wedi dyddio. Mae’n amlwg nad ydi’r naws wedi’i newid o gwbl ers ei llwyfannu yn gyntaf ym 1888. Rhaid cydnabod bod y cymeriadau yn rhai cymhleth iawn. Ond, er ymgeisied Menna Elfyn i greu naws dafodieithol ddeheuol, teimlaf mai ffurfioldeb a chadw at y copi gwreiddiol sydd wedi digwydd yma. Efallai, nad ydy Theatr Genedlaethol Cymru yn barod i addasu a moderneiddio?

Er ei bod yn ddrama sydd yn cael ei hadnabod fel clasur eang, cefais sioc wrth ddarganfod taw dyma oedd dewis Theatr Genedlaethol Cymru. Yn bersonol, y mae’n ddrama digon cyfforddus a ‘diogel’ i’w berfformio, a dyma’r ymdeimlad y cefais wrth ei wylio. Dim ond cyffwrdd ar yr arwyneb wnaeth y ddrama. Roeddwn i wedi disgwyl dewis mwy heriol, sydd yn herio dychymyg y gynulleidfa. Gan fy mod i’n gyfarwydd efo’r sgript a chrefft Ibsen, roeddwn i’n gwybod bod llawer o ddeialog diangen sydd yn sôn am yr un pwnc – nifer o weithiau. Yn y perfformiad, credaf bod rhai aelodau o’r gynulleidfa wedi cael eu diflasu gyda hyn. Roeddwn i’n ysu am yr uchafbwynt, ond ni ddigwyddodd.

O ran y llwyfannu ei hun, roedd yn weddol undonog a statig. Ges i’r teimlad bod symudiadau’r cymeriadau wedi’i gor-gyfarwyddo a’i gorfodi i symud yn hytrach nag edrych yn naturiol. Roedd yn amlwg i mi fod yr actorion wedi eu cyfarwyddo i symud ar y llinell benodol honno e.e ‘Ar y geiriau ‘Na’, symud i aros ar bwys y ffenest’. Yn fy marn in id oedd hyn yn naturiol nac yn addas i’r perfformiad.

Yn bersonol, roeddwn i’n ymwybodol bod yr actorion yn rhai o’r byd teledu yn lle’r byd theatr. Heb amheuaeth, roedd yr actorion (megis Dewi Rhys Williams a Heledd Gwynn) yn rhai sydd yn serennu yn y byd cyfryngau Cymreig, ond credaf roedd bod llawer o’r ‘action’ wedi’i orfodi gormod ac yn arwain i fod yn or-ddramatig. Doedd dim digon o gig ar y cymeriadau. Teimlaf efallai y gallai Dewi fod wedi portreadu’r cymeriad yn llawer mwy ffyrnig, yn enwedig wrth iddo glywed bod ei wraig mewn cariad efo rhywun arall. Petawn i wedi clywed y newyddion yna, buaswn i wedi mynd yn wallgof! Yn hytrach, wnaeth Dewi ymateb fel petai’r ddau yn cael sgwrs bob dydd. Efallai gallent fod wedi pori ymhellach mewn i’r cymeriadau. Ffactor arall oedd nad o’n i’n credu yn y berthynas rhwng Elida a Dr Wangel, doedd hi ddim yn cael ei phortreadu mewn modd cariadus, cefais y teimlad bod y ddau yn frawd a chwaer. Yn y darn pan roedd Elida yn ystyried ymadael; nid oedd Dewi yn edrych fel petai’n poeni cymaint.

Y darn oedd a’r mwyaf o botensial oedd pan roedd y dyn dieithr yn ymestyn gwn allan o’i boced ac yn ei anelu at y gwr a’r wraig. Drwy astudio’r ddrama, roeddwn i’n disgwyl golygfa llawn emosiwn ac yn ddramatig tu hwnt. Yn hytrach, cefais i’r teimlad bod hyn yn rhywbeth ‘normal’ iawn – yn enwedig wrth i Heledd droi cefn ar y dyn dieithr sydd efo’r gwn. Ni wnaeth y ddau ymddangos i fod mewn unrhyw fath o banig – yr oedd bron fel pe bai’r dyn sy’n dal y gwn ddim yn bodoli. Serch hyn, roedd Heledd Gwynn yn argyhoeddiadol iawn wrth bortreadu person cythryblus tu hwnt.

Does dim amheuaeth drwy nodi pa mor wych oedd y set a gynlluniwyd gan Max Jones a oedd wedi llwyddo cyd-fynd efo natur y ddrama. Yr oedd yn un soffistigedig tu hwnt llawn lliwiau monocrom megis gwyn, du, llwyd = ‘vintage’ ydy’r gair orau i’w ddisgrifio.

I gloi ar nodyn positif, credaf bod y cyfieithiad o’r ddrama gan Menna Elfyn yn un anhygoel. Llwyddiant enfawr ydi iddi hi greu cyfieithiad o ddrama mor glasurol. Serch hyn, fe wnes i ddisgwyl dewis mwy heriol gan y Theatr Genedlaethol. I mi, cliché iawn oedd y defnydd eithaf amatur o’r geiriau ‘Y Fenyw Ddaeth O’r Môr’ yn y perfformiad.               Gall y perfformiad yma wedi bod yn gyfle perffaith i greu adlais ffres o’r ddrama. Ond yn hytrach, dim ond troslais uniongyrchol o’r gwreiddiol ydyw heb ei addasu. Felly, credaf ei fod yn ddrama y dylai rhoi yn ôl ar y silff fel cyfiaethad hanesyddol i’r Gymraeg, ond nid adfywiad o ddrama glasurol Ibsen oedd ‘Y Fenyw Ddaeth O’r Môr’.

‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ – Adolygiad gan Meleri Mair Morgan

Prif thema y ddrama “Y Fenyw Ddaeth o’r Môr” gan Henrik Ibsen a trosiad gan Menna Elfyn gan Theatr Genedlaethol Cymru oedd rhyddid i ferched yn bennaf. Ffigwr cryf yn cael ei arddangos yn Elida (Heledd Gwynn) a fe wnes i fwynhau ei pherfformiad hi wrth iddi gyfleu rhwystradigaeth a’r gaethiwed yn ei bywyd. O’r foment y daw hi i fewn a’i gwallt yn wlyb cawn awgrym yn syth fod yna gysylltiad penodol cryf a’r cymeriad yma a’r môr. Ond cymerai bron i ddwy awr i ni sylweddoli pam.

Araf iawn oedd y datblygiad yma a phan ddaeth y cyfle i bach o gyffro ddigwydd gyda’r siawns i ddewis rhwng ddau ddyn rhwng Y Dieithryn (Sion Ifan) neu Dr Wangel (Dewi Rhys Williams) am eiliad roeddwn ar flaen fy sedd gyda’r ofn fod y gwn, a oedd yn llaw Y dieithryn, am gael ei ddefnyddio. Ond troi at sicrwydd y lan y maen ei wneud ac am aros gyda Dr Wangel. Es i nôl i eistedd a gwrando unwaith eto. Dyna’r broblem, gorfod gwrando yn astud am dair awr a dim llawer yn digwydd o fy mlaen efallai dyma un o’r rhesymau i mi ddiflasu cyn yr egwyl.

Nid wyf yn ei weld yn fai o gwbwl ar yr actorion. Nac ychwaith y trosiad gan Menna Elfyn, a oedd i mi wedi ei drosi yn gyfoes, gyda’r ieithwedd yn rhwydd a llyfn. Gallem ddilyn y sgript yn hawdd dros ben.

Portread Sion Alun Davies o Lyngstrad a brofodd fwayaf swynol i mi. Wrth i’r diniweidrwydd gael ei gyfleu trwy’r llais melfedaidd a’r ystumiau corff cynnil a oedd yn creu sioncrwydd ar y llwyfan ac mi brofias innau siom wrth iddo fethu ddal serch Bollette (Elin Llwyd). Gwrthgyferbynna hyn gan unrhyw weithred arall ar y llwyfan a oedd yn statig iawn.

Set gwych yn ym marn i oedd yn llenwi y llwyfan i gyd. Siomedig iawn oedd y defnydd ohono, ble gwelwyd gwagle enfawr yn y cefn rhan fwyaf o’r amser a oedd yn mynd yn hollol wastraff gyda pawb yn y blaen yn stond, mae’n rhaid gofyn y cwesitwn, pa bwrpas oedd creu set enfawr os nad oedd pwrpas o gwbwl i’w ddefnyddio? Teimlaf yr un peth â’r cwch hyfryd a gafodd ei chreu er mwyn cael dwy funud gyfan o dair awr! Efallai fy mod yn mynd yn rhy bell a dweud gwastraff arian?

Lleisiau swynol iawn oedd gan y côr lleol a oedd yn canu bant o’r llwyfan gyda’r holl wagle yn y set man y man iddyn hwy wedi llewni y llwyfan ar sŵn cyd-gordaidd hyfryd. Mi fyddai wedi ychwanegu dimensiwn arall i’r perffromiad yn lle llonyddwch y symud ar y llwyfan.

Parchaf y ffaith fod gan y Cyfarwyddwr Arwel Gruffydd sialens enfawr o’i flaen a byrder amser yn ffactor. Ond eto y cwestiwn mawr sydd gen i pam dewis y ddrama yma?

Wrth gerdded i mewn i’r theatr siom i ddweud y lleiaf oedd gweld dim ond hanner y theatr yn llawn. Pam? Gyda canran fechan iawn ohonom ni yn bobl ifanc. Eto. Pam? A’i dewis o ddrama glasurol sydd ar fai? Credaf dylid Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru ddewis drama sydd yn addas i’r gymdeithas i gyd er mwyn sicrhau parhad a egni newydd i fewn i’r theatr yn lle cael dramau hir syrffiedig nad oedd yn dangos drama Cymru ar ei orau.