Adolygiad ‘Y Glec’ gan Anna Wyn

Y Glec, Cwmni Theatr Arad Goch. Canolfan Arad Goch.

Dim ond dau actor ond degau o gymeriadau, dyma ddrama sy’n gwneud i chi chwerthin a chrio.

Wrth gerdded i mewn i’r theatr mae cerddoriaeth clwb yn seinio o amgylch a dau ddyn mewn crys a thei yn chwarae guitars ar y llwyfan. Mae’r teimlad fod parti ar droed yn glir. Wrth i’r perfformiad ddechrau mae’n amlwg fod sawl cymeriad yn y stori ond pob un yn cael ei bortreadu gan y ddau actor. Dyma un o’r pethau gorau am y ddrama yma, gallu a sgiliau’r actorion i gyfleu’r cymeriadau mor glir. Yn wir, mae’n sioc ar y dechrau fod cymaint o bethau’n digwydd mewn cyn lleied o amser ond unwaith rydych yn deall beth sy’n mynd ymlaen, mae’n hollol wych. Does dim amheuaeth pa gymeriad yw pa un, ac mae’r newid yn slic a phendant. Roedd hi’n braf medru ymlacio gan wybod fod yr actorion yn hollol ymwybodol o ba gymeriad sy’n dod nesa a phryd.

Mae’r defnydd o wisg yn wych, maent yn llwyddo i greu’r gwahaniaeth rhwng y cymeriadau’n amlwg trwy addasu eu gwisgoedd a’u osgo a lleisiau eu hunain. Ffordd syml ond effeithiol iawn o wneud i’r llwyfan deimlo’n llawn er mai dim ond dau actor sydd yno.

Mae hanner cyntaf y ddrama â naws eithaf cyfforddus ond eto cyffrous, mae popeth yn mynd yn dda ac mae’r gerddoriaeth yn eich denu i dŷ’r parti. Mae hi’n sefyllfa gyfarwydd i sawl un, oedolion yn cael eu hatgoffa o’u harddegau neu bobl ifanc sy’n gwneud yr un peth heddiw. Mae ynddi rywbeth i bawb, gall bawb uniaethu ag un cymeriad. Mae’r hanner cyntaf i gyd yn hwyliog ond yr eiliad mae’r gerddoriaeth yn peidio mae popeth yn newid yn llwyr. Does dim angen newid dim byd arall, dim newid goleuo na set dim ond diffodd y gerddoriaeth.

Mae’r ail hanner yn hollol wahanol ac mae’r teimlad cyfforddus yn diflannu’n llwyr, yn sydyn rydych ar flaen eich sedd yn barod i gael gwybod mwy. Yn yr ail hanner mae un o’r darnau mwyaf emosiynol, ble mae plentyn bach yn adrodd rhywfaint o’r hanes. Dyma olygfa sy’n tynnu ar y galon ac sy’n dod a’r stori’n fyw.

Roedd hon yn ddrama a oedd yn taro pob tant ac yn canolbwyntio ar yr actio a’r perfformio yn hytrach na’r set a goleuo. Er fod y llwyfan yn syml doedd dim angen mwy, roedd yn ddigon i danio fy nychymyg. Mae gallu’r actorion wir yn haeddu cymeradwyaeth ac roedd yn braf gweld drama a oedd yn addas ar gyfer ystod eang o gynulleidfa.

ag_kinghit_km102

(Llun gan Keith Morris)

Adolygiad ‘A Good Clean Heart’ gan Nannon Evans, Naomi Nicholas a Megan Lewis

A Good Clean Heart, Cwmni Neontopia. Canolfan Arad Goch.

Wedi mwynhau?

NSN: Do, daeth AGCH fel chwa o awyr iach. Mae’n arfer bellach i nifer o gwmnïau geisio dorri tir newydd ond dyma awr o adloniant syml, ond effeithiol.

NWE: Do, yn fawr iawn. Profiad arbennig o weld drama dwyieithog ar ei orau.
MML: Do wir. Sioe ddymunol yn dilyn stori rymus dau frawd

Beth wnaeth ichi chwerthin neu deimlo’n emosiynol?

NSN: Dwlais ar y rhannau pan oedd Oliver Wellington yn chwarae cymeriad y fam – llwyddodd i ddal cymeriad gwraig ganol oed o Lundain. Er hyn rhaid dweud nad oeddwn wedi synhwyro ei bod yn gaeth i gyffuriau tan i’r testun ddatgelu hynny. Fe weithiodd yr is-deitlau dwyieithog yn wych hefyd – darn cofiadwy oedd addasu Destiny’s Child yn y Saesneg i  Eden yn y Gymraeg – hileriys! Gallai Sibrwd ddysgu wrth is-deitlau AGCH.
NWE: Ar ôl i Hefin a Jay wthio eu mam i’r llawr ac achosi i’w phen waedu fe ddisgrifiodd Jay yr ymosodiad fel “Hefin ye, you just twatted my mum in the skull” – nath hwnna neud i fi chwerthin am ychydig o funudau yn rhy hir. Roedd diweddglo’r ddrama yn un hyfryd yn fy marn i, er bod y ddau wedi profi cymaint o broblemau yn eu bywydau, fe orffennodd y ddrama gyda’r llinellau caru ti” “ye, cuppa tea”. Geiriau hollol syml ond sy’n crisialu’r gwahaniaethau a’r cariad sy’n uno’r ddau at ei gilydd.
MML: Er bod sylfaen y ddrama â thraw emosiynol, nid llefain ond chwerthin oedd fy ymateb i ran fwyaf ohono. Wrth gwrs, roedd adegau lle’r oedd y testun yn cyffwrdd ag agweddau heriol o fewn cymdeithas heddiw, ond credaf fod Alun Saunders wedi llwyddo i greu cydbwysedd o hiwmor a thristwch trwyddi draw. Rhaid canmol creadigrwydd y cyfarwyddwr wrth fynegi’r hiwmor yma drwy goreograffi hwylus.


Sut oeddech chi’n teimlo ar y diwedd?

NSN: Bodlon. Llwyddodd AGCH i gyflwyno stori ddifrifol ond yn gymedrol. Nid wyf yn honni bod y sioe wedi torri tir newydd, ond oes angen? Roedd y dwyieithrwydd yn naturiol ond yn drawiadol. Roedd yr amgylchiadau yn gredadwy ac yn arwain at stori ddiddorol.
NWE: Hapus. Nid oedd y sgript yn ysgytwol nac wedi newid fy meddylfryd ar fywyd ond roedd e’n hyfryd i allu profi darn o theatr Cymraeg o safon. Theatr a oedd yn ddiddorol, yn ddoniol ac yn uno diwylliant dinesig Saesnig â diwylliant Cymreig cefn gwlad. 
MML:
Daw terfyn bob perfformiad yn darddbwynt trafodaeth, ac yn sicr roedd digon gyda’r dair ohonom drafod. Dwi’n falch (o’r diwedd), ein bod yn medru dod allan o’r theatr, ac yn medru canmol yr hyn a welsom

Oedd y cymeriadau yn apelio atoch chi?
NSN: Llwyddodd y ddau actor yn arbennig fel dau frawd. Roedd y brodyr begynau ar wahân, un wedi’i fagu yng Ngorllewin Cymru a’r llall yn Llundain. Yn naturiol roedd Hefin fel petai wedi cael bywyd cysgodol. A Jay yn gynnyrch y ddinas ac yn gymeriad cŵl, a’i berfformiad yn slic. Er hyn, roedd eu perthynas a thrawma eu plentyndod yn clymu’r ddau. Cyswllt clyfar arall rhwng y ddau oedd y syniad o ‘dreial’ – Hefin ar dreial rygbi a Jay, treial llys.
NWE: Oeddent. Roeddwn i’n dwlu ar y ffaith eu bod nhw mor wahanol i’w gilydd. Hefin yn fachgen ifanc brwdfrydig ac yna Jay yn ddyn ymlaciedig llawn dirgelwch.  Ond eto’n roedden ni’n gweld pethau oedd yn debyg rhyngddynt. Y ffordd roeddent yn gwenu ar ei gilydd a’r ffordd roedd y ddau ohonynt yn cael eu denu at drwbl.
MML:
Dyma gwestiwn anodd. Roedd y cymeriadau yn ffitio’r naratif yn dda, ond eto, dwi’n cwestiynu penderfyniad y dramodydd i ddewis dau gymeriad mor ystrydebol. A oedd rhaid i Hefin fod yn chwaraewr rygbi? A pam penodi dyn o dras ethnig, gyda hanes troseddu?

Pa actorion a gafodd hwyl arni?
NSN: Roedd perfformiadau’r ddau yn gaboledig. Mae’n debyg mai Oliver oedd fy ffefryn, yn syml efallai am ei bortread arbennig o’r fam. Mewn mannau teimlais fod James Ifan yn gorberfformio – ond posib mai rhinwedd o’i gymeriad oedd hyn.
NWE: Fe fwynheais i berfformiad Oliver Wellington yn fawr iawn, roedd ei newid o gymeriad Jay i’r fam bron yn naturiol. Roedd ei ffordd o actio yn gynnil a naturiol, nid ar un eiliad teimlais yn anghyfforddus wrth ei wylio. Roedd perfformiad James Ifan hefyd yn un effeithiol iawn. Ar adegau, doeddwn i ddim cweit yn deall yr hyn yr oedd James yn dweud oherwydd ei fod yn siarad mor gyflym. Ond wedi dweud hynny, roedd Hefin yn fachgen byrlymus oedd yn cyffroi mewn unrhyw sefyllfa, felly efallai bod y rhinwedd yma yn briodol.
MML:
Roedd y ddau actor i weld yn gartrefol iawn ar lwyfan, a’u rhyngweithio yn effeithiol tu hwnt. Ar adegau, teimlais fod y cymeriad Hefin yn goractio, gan orddefnyddio mynegiant wynebol. Ond wrth gwrs, chwaeth personol yw hyn.

Barn am y set?

NSN: Roedd y defnydd o dechnoleg yn wych. Arosfan bws a bin sbwriel oedd yma mewn gwirionedd, ond roedd rhai o’r uchafbwyntiau yn fy marn i yn seiliedig ar daflunio i’r set. Darn cofiadwy oedd cyfleu cyflymder y ddau gan ddefnyddio goleuni a thaflunio.
NWE: Roedd y set yn wych. Er ei fod yn syml, fe ddefnyddiwyd y set i’w llawn botensial. Tafluniwyd yr addasiad ar y set, ar ffurf ‘messenger’ facebook, mewn speech bubble ac ar y ffurf gyffredin o weld isdeitlau. Caniataodd hyn i’r addasiad bod yn ddiddorol ac yn gyffrous i’w ddarllen. Roedd addasiad y Gymraeg i’r Saesneg yn wych, pan addaswyd Destiny’s Child i Eden, ro’n i’n sylweddoli bod yr addasiad yr un mor ddoniol â’r perfformiad ei hun, felly roedd e’n werth darllen yr isdeitlau.
MML: 
Set hynod o effeithiol oedd i’r perfformiad yma. Roedd yr is-deitlau yn gweithio’n wych yn erbyn y set (Gorsaf bws), gan gyflwyno elfen fodern i’r hyn oedd o fewn y testun.

Barn am y cyfarwyddo?
NSN: Gwych oedd y darnau corfforol i gyfleu amser – hoffais yn fawr y ddeuawd wrth i’r ddau eistedd ar y bws. Cyflea’r coreograffi Jay’n dangos i Hefin sut oedd ymddwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas fawr.
NWE: Cyfarwyddo gwych gan Mared Swain. Roedd y symud yn effeithiol tu hwnt, yn caniatáu i ni a’r actorion gael hoe rhwng llinellau’r testun. Un peth sy’n sefyll allan oedd pan fu rhaid i Jay a Hefin redeg nôl adre i lynu at reolau tag Jay. Er eu bod yn rhedeg yn eu hunfan, roedd e fel petai nhw’n rhedeg am filltiroedd ac roedd fy nghalon yn curo’n galetach wrth i’r gerddoriaeth ddwysau ac wrth i’w coesau cyflymu.

Fyddech chi’n argymell pobl i fynd i’w gweld hi?
NSN: Yn sicr, ewch amdani. Ni newidiwyd fy mywyd o wylio AGCH yn fwy na gwylio drama dda ar y teledu. Ond wnes i wir fwynhau awr bleserus iawn o ddrama!
NWE: Wrth gwrs, hedfannodd yr awr. Cewch chi’r cyfle i glywed hanes dau fachgen wedi’i berfformio yn raenus a’i gyfarwyddo mewn ffordd creadigol a dychmygus.
MML:
Byswn – ewch amdani!

Unrhyw sylwadau pellach?
NSN: Dim ond tynnu sylw at y defnydd ffraeth a chwareus o isdeitlau dwyieithog. Roedd y ddwy iaith yn gyfartal ac yn gweithio– mwy plîs!
NWE: Pleser oedd gweld cwmni theatr yn perfformio mor llwyddiannus yn ddwyieithog. Ar ôl gweld y perfformiad, dylai gwylio drama ddwyieithog ddim fod yn fwrn arnom ni fel cynulleidfa. Dylai fod yn rhywbeth arferol i ni yng Nghymru erbyn hyn i ddathlu dwyieithrwydd yn hytrach na’i gondemnio a’i fawrygu.

Adolygiad ‘Gŵyl y Cynhaeaf’gan Naomi Nicholas

Mae’n debyg bod yna gyffro ar ddechrau pob taith, yn enwedig os mai chi yw’r rhai ffodus fachodd ‘set y gwt’ fel we’n ni. Gwyll y nos wedd hi arnom ni’n gadael parc y ffair, ar fws Richards â ‘Gŵyl y Cynhaeaf’ yn sheino ar ei flaen. We’n ni ar daith gyda llond bws o Gardis cyffrous  – ond heb damed o syniad i le.

 

Licen i drafod pob rhan o’r daith iasol o amgylch tref Aberteifi i ddathlu bywyd Dic Jones. Ond wnâi ganolbwyntio ar y lleoliadau a gododd groen gŵydd, y rheini a ddaeth â deigryn i’m llygaid. I gychwyn y stop cyntaf, y mart. Nid da byw oedd yn y cylch arwerthu ond côr meibion, a rheini’n canu o dan arweiniad Rhian Medi i gyfeiliant bargeinio’r arwerthwr. Ychwanegwch at hynny  ddidwylledd Ceri Wyn wrth iddo adrodd awdl ‘Y Cynhaeaf’ a chewch chi harmoni perffaith a seinlun llawn emosiwn. Bron y gellir dweud fod pitran patran y glaw ar do sinc, rhydlyd y mart yn cydymdeimlo â ni ar y tu fewn.

 

Delwedd fydd gen i hyd byth yw’r un a welsom ym Mharc Netpool. Wrth i olau’r bws ddiffodd, goleuwyd cerrig yr orsedd â golau dau dractor. Trawsnewidiwyd y cerrig gyda ‘rap bêls’ pinc ac fe ganodd Gwyn Morris gân y cadeirio o’u canol. Fe ganom ninnau mewn ymateb iddo o’r bws fel petai’r cytundeb wedi’i drefnu. Dic y bardd a Dic yr amaethwr wedi’u priodi mewn un delwedd trawiadol.

 

Eddie Ladd oedd wrth y llyw wedi’r cyfan, felly wrth eistedd yng Nghapel Bethania roedd yna ymdeimlad o ddisgwyl yr annisgwyl. Canodd gôr merched y gân ‘Edrych Fry’ mor rymus nes i’r sain fwrw fy mron. Yna daeth sŵn peiriant o fry. ‘Arglwydd, mae Eddie yn sefyll ar yr oriel â chainsaw,’ meddyliais. Ond wrth edrych fry i gyfarwyddiadau’r côr, awyren ddi-beilot oedd yno, â’r gwynt o’i llafnau’n gwyntyllu’r capel. Trois i feddwl am yr arbrofi yn Aberporth, a’r pryder a fynegodd Dic ynghylch y peth yn ei gerddi.

 

Yn sicr nid cyllid o gannoedd o bunnoedd oedd yn gyfrifol am lwyddiant ‘Cyflwyniad y Cynhaeaf.’ Saif y llwyddiant ar sail syniadau’r athrylith Eddie Ladd a llafur cymuned o bobl naturiol ddiwylliannol oedd yn barod i ymroi er mwyn dathlu bywyd y chwedlonol, Dic Jones.

Adolygiad ‘Rhith Gan’gan Meleri Morgan

Rhith Gan, Theatr Genedlaethol Cymru. Maes yr Eisteddfod Genedlaethol 2016.

Drama fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod  Genedlaethol  ym Meifod, y llynedd, yw Rhith Gân gan Wyn Mason. Seliwyd y ddrama  ar albwm Y Bardd Anfarwol gan Gareth Bonello. Enillodd yr albwm wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn  Llanelli yn 2014.

Perfformiwyd y ddrama heriol yma yn y cwt drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni eleni. Llwyfannwyd taith feddyliol a real yr albwm yn y ddrama ar linyn cryf trwy’r ddrama yw trasiedi a galar ond fe geir yma hiwmor ond hiwmor tywyll iawn. Plethir y cyfan yn gyfanwaith myfyriol. Tanlinellir yma fyrhoedledd a breuder bywyd ac effaith treigl amser ar fywyd. Trafodir yma syniadaeth athronyddol bardd Tsieinëeg o’r 8fed Ganrif. Cyflwynir ni i’r casgliad o farddoniaeth y bardd Tsieinëeg ar ddechrau’r ddrama pan agorir parsel ar y llwyfan. Dyma hefyd gyflwyno’r prif -gymeriad Orin (Rhodri Evan) i ni pan fydd yn agor y parsel ac ymddangosiad ei ferch Elen (Saran Morgan) ar y llwyfan. Gosodwyd y sefyllfa’n glyfar wrth i ni sylweddoli mai perthynas anhapus ac anghyflawn sydd rhwng Elen a’i mam. Y mae’r disgrifiadau a’r ieithwedd gref a ddefnyddia i ddisgrifio’r fam yn siarad cyfrolau. Mae Elen ar drothwy dod i oed (deunaw oed), ac er ar fin troi’n oedolyn y mae gan Elen ddisgwyliadau mawr o’i rhieni neu yn hytrach ei thad.. Datgelir y rheswm am hyn yn ddiweddarach yn y ddrama.

 

Y mae ymddangosiad y meistr Tsieineaidd ar y llwyfan yn gredadwy ac yn araf amlygir a deallwn taw ym mhen Orin mae hyn i gyd yn ddigwydd. Yn briodol ceir deuawd ond deuawd hyfryd rhwng Orin a Li Bai (Llion Williams). Rhwng y ddau yma fe ddaw’r comedi allan wrth i Li Bai orfodi Orin gyflawni defodau Tsieineaidd. Yn y darnau yma plethwyd y gerddoriaeth yn hynod o sensitif a synhwyrol  wrth i Gareth Bonello  ganu i gyfeiliant amryw o offerynnau gan y cymeriadau i gynnwys ambell i un Tsieineaidd. Fe grëwyd awyrgylch dirdynnol a oedd yn ddigon i gyffroi unrhyw un. Golygfa gofiadwy oedd yr un yn y coed ac fe grëwyd set ardderchog gan Luned Gwawr Evans. Roedd y symlrwydd yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y set i greu argraff ac ychwanegu at eich dealltwriaeth o’r ddrama gyda chylch o olau mawr yn cyfleu’r lleuad yn effeithiol a chofiadwy.

 

Roedd yma sgript afaelgar iawn gan Wyn Mason. Cedwir y gyfrinach am farwolaeth Elen yn hynod o gelfydd. Y mae’r pwynt yma yn y ddrama yn drobwynt i mi oherwydd hyd yma yn y perfformiad nad oeddwn wedi uniaethu â un o’r cymeriadau na chwaith cael unrhyw ymdeimlad o gydymdeimlad gydag un o’r cymeriadau. Yn bendant gorfoda Wyn Mason i ni fynd ar daith emosiynol gyda’r  cymeriadau. Rhaid cyfaddef i mi fethu deall yn llawn perthynas Orin a’i wraig yn absenoldeb eglurhad digonol pam  fod gymaint o atgasedd rhyngddynt. Canlyniad hyn oedd i mi weld, yn gam neu’n gymwys, Hanna fel gwraig ddiflas nad oeddwn, mewn gwirionedd, yn ei hadnabod na’i deall. Rhaid canmol perfformiad dirdynnol a grymus Rhodri Evan wrth ddelio a phwnc na thrafodir yn aml ar lwyfannau sef afiechyd meddwl. Cafwyd llinellau hynod o gofiadwy megis ‘vague Sense of nothingness’ a ‘A’i rhith yw ein bywydau wrth i ni ddychmygu’r cyfan?’ Yn bendant mae dirgelwch bywyd a’r hyn sy’n anochel i ni yn gwestiwn oesol ac fe ofynnir hyn yn y ddrama yma yn effeithiol gyda ffresni gyda’r ychwanegiad o’r hyn sy’n codi o’r ddrama hon o absenoldeb yr enaid a gwacter ystyr.

 

Perfformiad clodwiw a gafaelgar ac er cystal y perfformiad, rhaid cyfaddef ar adegau fe’i welais yn anodd dilyn a deall y chwarae drwy gydol y ddrama. Er hyn mwynheais y cyfanwaith a’r perfformiad gafaelgar o ddrama heriol, gyfoes a diddorol. Os cewch y cyfle i wylio’r ddrama. Ewch da chi, ni fydd yn edifar gennych, yn wir fe fyddwch ar eich colled o beidio manteisio ar y cyfle.

Adolygiad ‘Nansi’ gan Megan Lewis

Nansi, Theatr Genedlaethol Cymru. Neuadd Bentref Y Tymbl.

Fel un a oedd yn anghyfarwydd â stori ‘Telynores Maldwyn’, Nansi Richards (1888-1979), roedd fy nisgwyliadau o gynhyrchiad diweddar Theatr Genedlaethol Cymru o Nansi yn agored iawn. Ro’n i’n ysu i ddysgu am ei hanes, yn enwedig ar ôl llwyddiant llwyfaniad cyntaf y ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol, Llanfair Caereinion.

 

Llwyfannwyd Nansi mewn neuaddau pentref ar hyd a lled y wlad, ac i mi, neuadd bentref y Tymbl oedd yn gartref i’r ddrama arbennig yma. Mae yna rywbeth cysurus a chartrefol ynghylch neuadd bentref, ac yn debyg iawn i benderfyniad Nansi Richards i ddychwelyd yn ôl i’w gwreiddiau yng Nghymru, rhaid holi’r cwestiwn – a’i dychwelyd yn ôl i wreiddiau theatr draddodiadol yng Nghymru oedd bwriad Theatr Genedlaethol Cymru yn y cynhyrchiad yma?

 

Cyflwynwyd Nansi am y tro cyntaf yn y ddrama fel Cymraes ifanc yn dysgu i ganu’r delyn. Cefndir cerddorol oedd ganddi, gyda’i thad yn gantor adnabyddus yn yr ardal. Yn sicr, atgyfnerthwyd talent Nansi ar y delyn o fewn y ddrama ac roedd yn braf gweld dawn naturiol yn cael ei adlewyrchu mewn modd hyderus. Derbyniodd wahoddiad i fireinio’i sgiliau ar y delyn yng ngholeg Guildhall, Llundain. Cam mawr i fenyw ifanc yn ystod y cyfnod, ond cam hyd yn oed yn fwy oedd dilyn ei thaith i’r Amerig, lle gafodd groeso a sylw mawr.

 

Rhaid canmol gwaith yr actorion wrth iddynt fynd ati i bortreadu cymeriadau cryf eu hysbryd, a rhai yn chwarae mwy nag un rôl. Teimlais fod Melangell Dolma a oedd yn chwarae rhan Nansi wedi llwyddo i bortreadu diniweidrwydd ei chymeriad, ond eto yn dal ei thir wrth ymdrin â drama yn seiliedig ar annibyniaeth y fenyw yng nghyfnod lle mai dynion oedd yn hawlio awdurdod. Fel menyw ifanc heddiw, braf oedd gweld darn o theatr yn ymdrin â’r agweddau yma. Er hyn, agwedd traddodiadol iawn a gafwyd o fewn llif naratif y ddrama, a hynny’n ddealladwy wrth iddo gynrychioli cyfnod y 1920au.

 

Cafwyd ymdriniaeth o bwysau cymdeithasol ar fenywod y cyfnod i briodi er mwyn ffurfio uned deuluol, draddodiadol. Er mai nad dyma oedd dymuniad Nansi. Roedd gweld ei chariad tuag at gerddoriaeth yn blaenoriaethu unrhyw berthynas arall yn gosod naws annifyr, yn enwedig wrth iddi drafod y mater â’i rhieni. Rhaid canmol Theatr Genedlaethol Cymru am godi ymwybyddiaeth tuag at sensitifrwydd rhywedd o fewn cymdeithas.

 

Yn sicr, roedd y set yn un sy’n aros yn y cof. Cafwyd defnydd lawn o’r neuadd bentre’, wrth inni weld yr actorion yn perfformio mewn sawl platfform gwahanol. Gosodwyd hen fyrddau a chadeiriau tafarn yng nghanol y neuadd fel seddi i’r gynulleidfa, ac yna pedair llwyfan ar gyrion y neuadd. Gyda thancard o gwrw wrth law, sylweddolais ar gynildeb y cwmni theatr wrth fynd ati i ddefnyddio’r hyn a oedd wrth law yng ngofod y neuadd. Roedd y brif llwyfan yn cyflwyno digon o hiwmor wrth ddilyn perfformiadau cerddorol, tra bod yr ystafell wely yn adlewyrchu amharodrwydd Nansi i ollwng ei chariad tuag at ei thelyn, er mwyn canolbwyntio ar fywyd priodasol. Cadarnhawyd yma mai dilyn eich calon sydd yn bwysig, nid dilyn eraill.

Adolygiad ‘Cysgu’n Brysur’ gan Nannon Evans

Cysgu’n Brysur, Cwmni Theatr Arad Goch. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth / Galeri Caernarfon.

Sioe gerdd am griw o bobl ifanc yn gorffen eu hamser yn yr ysgol yw Cysgu’n Brysur gan Arad Goch. Es i i weld y perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ac yn Galeri yng Nghaernarfon. Roedd hi’n chwa o awyr iach i gael gweld pob sedd yn y theatr wedi’i lenwi gan bobl o bob oedran yn awchu i gael gweld theatr Gymraeg. Lleolwyd y sioe mewn ysgol, felly roedd desgiau ysgol pren yn ganolog i set y ddrama. Defnyddiwyd y desgiau’n llwyddiannus oherwydd eu symlrwydd, fe’u defnyddiwyd fel cwpwrdd dillad, rhywle i gysgodi ac fel stoliau yn ystod y sioe. Gan fod modd storio propiau a gwisgoedd yn y desgiau hyn, sicrhawyd bod y stori’n llifo’n naturiol ac yn hawdd. Defnyddiwyd y desgiau yn rhan o’r coreograffi hefyd. Er nad ydw i’n arbenigwraig ar goreograffi, fe fwynheais i’r dawnsio yn y sioe gerdd yma yn fawr iawn. O bryd i’w gilydd, roedd peryg i eiriau’r caneuon fod yn eithaf cawslyd, ond roedd y dawnsio cyfoes gan Eddie Ladd yn sicrhau nad oedd y sioe gerdd yn troi mewn i High School Musical Cymraeg!

Roeddwn yn amheus o’r ffaith bod band y sioe wedi cymryd lle mor ganolog ar y llwyfan. Sioe gerdd am bobl ifanc oedd y cynhyrchiad, felly pam ei fod mor bwysig i gael band o ddynion canol oed yn chwarae yng nghanol y llwyfan? Pan berfformiwyd y sioe yn Galeri, Caernarfon gallaf ddeall nad oedd pit ar gael ar gyfer y band. Ond yn Aberystwyth, lle roedd pit ar gael, teimlais bod y band yn dominyddu’r llwyfan. Cyffyrddwyd â sawl thema, o farwolaeth, ymosodiadau rhywiol, yfed alcohol i drefnu gwyliau haf i Magaluf, adolygu a dewis beth i wisgo ar nos Sadwrn. Felly, yn amlwg roedd ymgais i drio portreu bywyd realistig pobl ifanc heddiw. Ond fe chwalwyd y meddylfryd o stori ‘gredadwy’ ar ddiwedd y sioe wrth i bob cymeriad weiddi eu problemau at y gynulleidfa. Yn yr olygfa olaf, aeth y perfformiad o fod yn sioe gerdd i fod yn sioe gerdd theatr mewn addysg. Teimlais nad oedd wir angen gorffen y sioe â’r datganiadau hyn oherwydd bod problemau’r cymeriadau wedi cael eu dangos yn y naratif yn barod.

Teimlais fod y cyhuddiad gan Princess  bod bachgen poblogaidd yr ysgol, Cai wedi ymosod arni yn rhywiol braidd yn ddibwynt. Rhyw bum munud ar ôl i’r ffrae ddigwydd aeth pob cymeriad yn ôl i ymddwyn fel petai dim byd wedi digwydd rhwng y ddau. Teimlais mai’r unig reswm y rhoddon nhw’r cyhuddiad hwn i mewn oedd er mwyn ticio bocs ‘ymosodiadau rhywiol ymysg pobl ifanc’. Nid oedd diben na phwrpas i’r stori yma rhwng Princess a Cai felly roedd yn fethiant o bortread pobl ifanc i gyhuddiad difrifol fel hyn.

Rhinwedd y ffeindiais i yn od, oedd bod pob aelod o’r cast o’r un ysgol, ond eto roedd gan bob un ohonynt acenion a thafodieithoedd hollol wahanol i’w gilydd. Roedd un cymeriad yn ffarmwraig o Lambed, un bachgen yn siarad ag acen o’r cymoedd tra bod cymeriad arall yn siarad ag acen ogleddol.  Efallai fod hyn yn ymgais i gael sawl tafodiaith ar y llwyfan, ond os gwneud portread realistig o fywydau pobl ifanc o’r un ysgol, rhaid ei wneud ym mhob agwedd. Ond er  hyn i gyd, wrth gerdded allan o’r theatr roedd e’n brofiad hyfryd clywed pobl ifanc yn trin a thrafod yr hyn a welon nhw ar y llwyfan. Mwynheais i hefyd gweld wynebau newydd a gweld actorion talentog ifanc yn serennu ar y llwyfan. Roedd y gerddoriaeth yn wych a’r canu yn hyfryd, ac roedd e’n sicr yn rhywbeth gwahanol i’r hyn yr ydym yn gweld fel arfer yn y theatr Gymreig.

Adolygiad ‘Difa’ -gan Meleri Roberts-Hicks

‘Difa’ gan Theatr Bara Caws. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Mae’n bwysig nodi cyn dechrau’r adolygiad yma fy mod wedi gwylio’r cynhyrchiad ‘Difa’ cyn y Nadolig. Serch y ffaith taw nawr rwy’n cael y cyfle i ysgrifennu’r adolygiad, roedd hi’n ddiddorol meddwl yn ôl i’r perfformiad ac yr uchafbwyntiau safodd allan i mi fel adolygwr. Fe wnaeth hyn arwain i mi gwestiynu a oedd y perfformiad yn un cofiadwy hyd at heddiw yn ogystal â chael unrhyw effaith arna i yn yr hir dymor; tybed?

Fe gafodd y sgript ei hysgrifennu gan Dewi Wyn Williams, sef enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli yn 2014. Nodir ar wefan y theatr bod hon yn gynhyrchiad ‘…about a mind at work. A play that suggests that life in close proximity is a tragedy, and life from afar is a comedy.’ Serch hyn, es i mewn i’r perfformiad heb yr un pen na phapur er mwyn canolbwyntio’n hollol ar y stori a chysylltiad phortread yr actorion efo’r ‘trasiedi’ sydd ym mywydau’r cymeriadau yma.

Mae’r stori ei hun yn cylchdroi o amgylch bywyd a heriau dyddiol Oswald Pritchard (Rhodri Evan) wrth iddo gyffwrdd ymylon salwch meddwl. Collodd Os ei swydd yn ddiweddar, ac mae’n ofni yn gyson o golli ei wraig Mair sydd yn achosi straen ar eu perthynas. Cawn weld ei chyn-weithiwr – Peter – ar seiciatrydd Dr.King, sydd yn chwarae rôl allweddol yn fywyd Os. Drwy gydol y ddrama, rydym ni fel cynulleidfa yn cael ein tywys trwy drafferthion, lleisiau a’r ‘roller coaster’ o emosiynau sydd yn pryfocio meddwl Os.

Roedd y set yn un syml a ‘minimal’ a weithiodd yn dda gyda’r sgript. Cafodd y llwyfan ei rhannu i bedwar rhan, gyda’r is-gymeriadau wedi’i leoli ym mhob cornel. Dim ond Os oedd yn mynd o un cornel i’r llall – a oedd yn ddibynnol ar y golygfeydd. Ar yr ochr dde, gwelsom yr ystafell wely a’r ystafell fyw, ac ar y chwith roedd swyddfa Dr King a Peter. Yng nghefn y llwyfan, roedd sgrin a gafodd ei ddefnyddio nifer o weithiau trwy’r perfformiad. Pan roedd Os yn trafod y posibilrwydd o’i wraig yn cael perthynas rhywiol efo dyn arall, gwelsom glipiau fideo o’i wraig yn cusanu dyn a oedd yn anwybyddus ar y sgrin. Yn fy marn i, roedd y sgrin yn symbolaidd o’r hyn sydd yn bwyta mewn i feddwl Os ac yn ei gaethiwo. Does dim modd ei osgoi, er yr holl ymdrech. Sylweddolais bod y set yn un daclus iawn, eto i gynrychioli stad meddyliol Os, ar angen i gael trefn penodol mewn bywyd?

Yr hyn a oedd fwyaf cofiadwy oedd perfformiad Rhodri Evan o’r cymeriad Os. Roedd y ffordd wnaeth Rhodri ddefnyddio awgrymiadau bychain o salwch meddyliol Os o’r foment gyntaf yn gorfodi’r gynulleidfa i deimlo rhan o drafferthion bywyd Os, a wnaeth yn araf bach ddod yn fwy amlwg. Ar ddechrau’r ddrama, mae Os yn dechrau cynhyrfu yn y gegin efo’i wraig wrth sylweddoli bod y llaeth heb gael ei leoli yn gywir yn yr oergell. I Os, mae rhaid iddo ef gael trefn pendant, hyd yn oed wrth gael rhyw, mae’n rhaid iddo adrodd englyn wrth ei wraig. Ceir gweld datblygiad meddyliol Os mewn golygfeydd gyda Peter, lle mae Os yn dweud enw gwraig Peter yn anghywir dro ar ôl tro yn yr un sgwrs sydd yn cael ei ailadrodd. Roeddwn i, fel aelod o’r gynulleidfa yn teimlo cymaint o gydymdeimlad dros Os, yn enwedig drwy arsylwi ei salwch yn araf bach yn gwaethygu a chafodd ei bortreadu mewn modd sensitif tu hwnt gan Rhodri. Fe lwyddodd Rhodri I greu cymeriad gall nifer o bobl gydymdeimlo gyda drwy ganolbwyntio ar yr elfen o ‘realaeth bywyd’ i’r bôn. Mae Os yn adlewyrchiad o’r ffaith y gall unrhyw un o fewn cymdeithas ddioddef, fel y gwelir trwy ‘r ddrama hon.

Roedd rôl y wraig yn un bwysig drwy gydol y ddrama. Hi ydi’r glud sydd yn ceisio cadw Os rhag ymgolli yn ei wallgofrwydd. Nid yw hi byth yn colli’i thymer gyda Os, gan ei bod hi’n deall sefyllfa’i gŵr. Rydych chi eisiau teimlo’r un faint o gydymdeimlad tuag ati hi ag Os, yn enwedig trwy weld hi wedi’i chaethiwo gan Os a’i broblemau ef sydd yn arwain iddi hi gael perthynas efo dyn arall. Mewn un modd, efallai dyna oedd y rhyddhad yr oedd hi angen. Cafodd y rôl yma ei berfformio’n arbennig gan Bethan Dwyfor. Byddai nifer o bobl sydd wedi bod yn rhan o’r un sefyllfa – boed yn fenyw neu ddyn – yn medru uniaethu gyda’r cymeriad.

Fe wnes i fwynhau’r golygfeydd gyda Peter ac Os, a oedd yn llawn tynnu coes a hiwmor. Fe arweinir hyn i mi gydymdeimlo ymhellach gyda Os, wrth i Peter ddelio efo salwch Os mewn modd sensitif, yn enwedig pryd roedd Os yn gofyn yr un cwestiynau bob dydd, heb i Peter wylltio unwaith. Fe wnes i gwestiynu gwir rôl Dr.King. A’i hi wthiodd Os i ffiniau ei golled meddyliol?

Fe lwyddodd y ddrama i adlewyrchu effaith ac elfennau’r pwnc o salwch meddwl, a sut mae’r afiechyd yn gallu effeithio nid dim ond yr unigolyn, ond pobl eraill sydd yn rhan o’i bywyd nhw mewn ffordd wych. Teimlaf yn rhan o fywyd Os, drwy gael ein tywys trwy ei drefn ddyddiol ef. Heb amheuaeth, mae’n wych i allu gweld perfformiad Cymraeg sydd o’r diwedd, wedi codi’r pwnc o salwch meddwl a gwneud hynny mewn modd sensitif ac ysgafn iawn.

Er bod hon yn ddrama dywyll o ran y pynciau trafod, mae’n bwysig i nodi ei bod hi hefyd yn ddrama ysgafn o ran hiwmor, fel y gwelir efo Peter ac Os yn rhannu jôcs. Rydym yn gadael y theatr efo’r ymdeimlad o optimistiaeth tuag at Os, ac yn hyderus y bydd popeth yn gwella iddo – er efallai y bydd y daith yn un anodd.

Adolygiad ‘Mutt’ – gan Meleri Morgan

‘Mutt’ gan Abandoned Theatre Co. – Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Drama dau gymeriad ond un person! Y llwyfan wedi’i osod a minnau yn sylweddoli fy mod yn mynd i fod yn gwylio drama wahanol. Clyfar yw un o’r ansoddeiriau i ddisgrifio y ddrama Mutt gan y dramodydd beiddgar Christopher T Harris.

Rydym yn cwrdd â Darren mewn dwy ffordd neu ddwy ffurf wahanol sydd yn gyson, wrth gwrs, â’r portread o un cymeriad trwy ddau actor. Fe fyddem yn ei gymharu â Ianws, y duw dau ben; un pen a gwyneb yn cynrychioli meddylfryd Darren a’r llall yw ei reddf a’i ymateb greddfol i sefyllfa.

Mae Darren yn casâu y Cwm ac yn enwedig y glaw (ac fe ddarlunir yma ddarlun tywyll anobeithiol o’r Cwm). Ond, os ydy yn casâu y glaw mae’n casâu, hyd yn oed yn fwy, y ci, sydd yn ei dyb ef, wedi cymryd bywyd ei rieni drosodd yn llwyr. Mae’n newydd ddychwelyd ac yn andros o anhapus taw y ci yw prif sylw y teulu, ac nid ef. Y mae’r script yn argyfnerthu hyn ond teimlaf, hefyd, bod y set a ddefnyddiwyd yn argyfnerthu y teimlad o bwysigrwydd y ci ac yn hoelio ein sylw at y dybiaeth yma. Gorchuddwyd popeth â lliain gwyn a’r unig farciau sydd arno yw ôl pawennau y ci. Pwysleisia hyn y modd ymdreiddiodd y teimlad o fod yn eilbeth i’r ci i feddylfryd a phersonoliaeth Darren.

Dechreuwyd y ddrama yn addawol a chreuwyd  tensiwn angenrheidiol gyda’r ddau gymeriad yn syllu ar ei gilydd ac yn gorffen brawddegau’u gilydd. Teimlais, ar adegau, fod acen de Cymru a fabwysiadwyd yn briodol gan yr actorion ar y dechrau ond iddo fynd ar goll ar ôl rhyw ddeg munud o’r ddrama, gan ddychwelyd bob hyn a hyn gan y ddau actor. Trueni am y diffyg cysondeb yn y dafodiaith oherwydd roedd hyn yn amharu ar ddiffuantrwydd ac hygrededd y cymeriadu.

Er hyn, roedd yma nifer o ragoriaethau, ac hoffais yn fawr iawn yr elfen chwareus wrth chwarae gyda’r gynulleidfa trwy agosau a phellhau o’r gynulleidfa. Hoffais y darlunio o’r ferch roedd yn ei garu trwy greu pyped allan o ddillad gwely yn ogystal a’r ci ei hunan. Crewyd naws anghyfforddus angenrheidiol yn ôl y gofyn, drwy greu’r darlun o fod yn dreisgar tuag at y ci. Atgyfnerthwyd atgasedd Darren tuag at y ci trwy gyfrwng yr iaith gref a’r rhegfeydd a ddefnyddiwyd ganddo, a chryfhawyd hyn ymhellach trwy ddefnydd o lais ac ystum ynghyd â’r weithred o ladd, oedd yn uchafbwynt dramataidd i’r perfformiad.

Teimlais arddull Berkoffaidd yn cael ei gorffori yn y perfformiad, yn arbennig pan fu i’r ddau ail-adrodd symudiadau gyda’i gilydd. Roedd y symudiadau yn rhai o egni corfforol uchel iawn. Yn anffodus methwyd cynnal yr egni yma drwy’r perfformiad ac ar adegau roedd y ddrama yn cwympo.

Rydwyf o’r farn bod methiant cof yr actorion ar adegau, yn ogystal â cholli geiriau a rhediad y script, yn cael cryn effaith arnynt, Bu, o ganlyniand i’r pallu ar y cof, seibiau anghyffroddus o hir a’r gynulleidfa yn anesmwytho ac yn  edrych ar ei gilydd. Siom imi oedd fod y perfformiad wedi gorffen yn hynod o swta a sydyn ar ol rhyw ddeg munud go undonog yng nghanol y perfformiad yn dilyn pallu geiriau amlwg. Roedd yna deimlad o ryddhad hefyd ei bod wedi croesi’r llinell derfyn.

Teimlais fod hon yn ddrama gwerth chweil wedi’i scriptio’n dda ac wedi’i gosod a’i llwyfannu yn syml  ac effeithiol. Roeddem eisiau gweld mwy ond, yn anffodus, yn y perfformiad yma ni chafwyd stori Mutt yn gyflawn.

Adolygiad o ‘Mutt’ – gan Naomi Nicholas

Abandoned Theatre Co. ‘MUTT’.

Nos Wener ddiwethaf, es i weld MUTT! Gan yr ‘Abandoned Theatre Co.’

Roedd llwyfan stiwdio Canolfan y Celfyddydau wedi’i osod ac wedi’u cuddio â chynfasau gwyn brwnt â phawennau ci. Er hyn, roedd modd dyfalu bod whilber a rhaw ar y llwyfan. Plannodd hyn yr hedyn yn fy mhen bod llofruddiaeth ar y gorwel. Teimlaf fod dangos y propiau yn rhannol yn effeithiol, er mwyn codi chwilfrydedd y gynulleidfa o’r hyn sydd o’u blaen.

Yng nghanol y llwyfan eisteddai’r ddau actor gyferbyn â’i gilydd. Roedd y ddau mewn gwisg unfath, sef crys llwyd a jîns. Gosododd hyn y syniad mai cynrychioliad o’r un cymeriad oedd y ddau. Ond rwy’n falch bod y rhaglen wedi cadarnhau hyn i mi drwy gynnig esboniad, mai Hillary Nunn oedd llif meddwl Darren a Tim Medcalf oedd llais ei anian. Rhaid canmol portreadau’r ddau actor o gymeriad Darren. Cymeriad braidd yn ddiniwed a llipa oedd llif ei feddwl, ac roedd ei amseru comedi yn berffaith. Ogwydd ymosodgar a tanllyd oedd i anian Darren, roedd hwn yn rhegi’n gas ac yn poeri ei eiriau. Rhaid canmol Christopher T Harris am ysgrifennu’r ddrama mewn dwy ran fel hyn, roedd gwrthdaro mewnol cymeriad Darren dipyn yn fwy diddorol na gwylio monolog un cymeriad am hanner awr. Cydweithia’r ddau actor yn arbennig, trueni mawr fod ambell nam ar eu geiriau. Pan oedd y ddau ar eu gorau roedd y perfformiad yn slic a’r deialog yn llifo o un i’r llall yn rhwydd.

Fel roedd yr enw ‘MUTT.’ yn awgrymu, dyma ddrama’n seiliedig ar genfigen mab o gi newydd ei rhieni. Roedd ambell ran ohoni’n ddoniol ac yn gofiadwy, hoffais yn fawr un o’r actorion yn disgrifio ‘he’s pissed all over the carpet’ a’r llall yn rhoi ei fys ar y llawr cyn ei arogli. Doniol hefyd oedd y newid safle rhwng y ci a’r mab, gyda’r fam yn gorfodi Darren i fynd allan i’r ardd fel cosb. Roedd y defnydd o iaith yn awgrymog yn y fan hon: ‘he didn’t call me in’. Manylyn effeithiol oedd mai Owain oedd enw’r ci, roedd enw mor ddynol yn dwyshau’r teimlad bod y ci wedi cymeryd lle Darren ar yr aelwyd. Nid oedd anwybyddu gwir gasineb Darren at y ci, ei arogl, y ffordd yr oedd yr anifail yn meddiannu’r soffa ac yn chwyrnu. Fel ar gynfasau gwyn y llwyfan, roedd Darren yn teimlo bod blew’r ci wedi treiddio i’w ddillad: ‘I want to wash them, burn them’.

Soniais ynghynt am symlrwydd effeithiol y llwyfan. Agwedd trawiadol iawn ohoni oedd defnydd yr actorion o’r cynfasau gwyn fel propiau. Weithiau Owain y ci yn chwyrnu oedd y cynfas, ar adegau arall dyma got law i Darren neu’n bêl. Uchafbwynt i mi oedd y cynfas yn cynrychioli Maisy, sef cariad Darren. Dyma ran ddoniol iawn o’r ddrama gyda Darren yn eistedd wrth ochr y cynfas yn cochi, gyda’r Darren arall (Tim Medcalf) yn symud y defnydd wrth i’r llall ddisgrifio symudiad gwallt y ferch yn y gwynt. Dwlais ar yr agwedd yma o ‘MUTT.’, mewn modd creadigol ac unigryw roedd aelod arall o gast ar y llwyfan a honno wedi’i gwneud o gynfas gwely!

Teimlais fod yna dinc o ganu Dylan Thomas yn arddull Christopher T Harries, roedd y ddrama’n bersain ar y glust ac yn farddonol. Ychwanegodd hyn yn ogystal ag acenion yr actorion at awyrgylch Cymreig y ddrama a oedd wedi’i osod mewn tref o’r enw ‘Cwm’. Apêl arall i mi oedd manylder dweud y ddrama fel: ‘I got myself a glass of orange squash’. Manwl hefyd oedd disgrifiad tywyll a gwaedlyd y ddau o lofruddio Owain y ci â’r rhaw. Cododd y disgrifiad gwyrdroëdig gyfog arna i, cyn i mi gydymdeimlo â Darren wrth iddo ddifaru ei weithredoedd.

Dyma ddrama â photensial arbennig. Fe wnes i fwynhau adegau graenus y cynhyrchiad yn fawr iawn. Mae yna drueni mawr felly am namau geiriau’r actorion, roedd yna awyrgylch lletchwith yn y Stiwdio ar adegau pan fyddai’r cof yn pallu. Rwy’n ofni bod yna ugain munud coll o’r ddrama o ganlyniad i’r holl gymysgu geiriau. Roeddwn i’n dymuno cael sgript o fy mlaen er mwyn achub yr actorion o’r cawlach. Pe bawn i wedi talu £9 am docyn, buaswn i wedi fy siomi’n fawr iawn ar ddiffyg proffesiynoldeb yr actorion. Hoffwn i weld ‘MUTT.’ eto, yn gyflawn, heb seibiau lletchwith a darnau coll. Er hyn roedd sgerbwd y ddrama’n wych, ychydig o fireinio yn unig oedd angen ar yr actorion er mwyn fy argyhoeddi.

Adolygiad ‘Hola!’ – gan Naomi Seren Nicholas.

‘Hola!’ gan Mari Rhian Owen. Theatr Arad Goch, Aberystwyth.

Clywais yr wythnos ddiwethaf am fwriad y Llywodraeth i fewnfudo ffoaduriaid o Syria i dref Aberystwyth ac wrth gadw hyn mewn cof, roedd pennawd y ‘Cambrian News’ a thema ‘Hola!’ yn mynd law yn llaw . Yr hyn a wnaeth fy nharo’n rhyfedd yw bod bobl yn dal i orfod wynebu teithiau peryglus er mwyn ffoi o erchyllterau’r byd a hynny can mlynedd a hanner wedi mordaith y Cymry i dde America.

Set gymharol finimalaidd oedd i’r ddrama, gyda lliwiau a osoda awyrgylch forol. Er ei symlrwydd roedd yr hwyl, o ddefnydd wedi’i beintio â map, yn ddigon i gyfleu siâp y Mimosa i’r dim. Hoffais yn fawr y defnydd o brennau mân i gyfleu perimedr bwrdd y llong. Yr uchafbwynt i mi o ran y set oedd y defnydd o astell bren i gyfleu lefel islaw bwrdd y llong. Roedd y cwtsh cyfyng islaw’r astell yn codi cyfog arna i, ac yn cyfleu un o anawsterau’r daith.

A ninnau’n dathlu cant a hanner o flynyddoedd ers i’r Mimosa hwylio i Batagonia, nid oeddwn yn anghyfarwydd â’r hanes. Ond gydag ôl gwaith ymchwil manwl llwyddodd Mari Rhian Owen i roi gogwydd newydd ar sefydlu’r Wladfa. Ei champ oedd berwi’r hanes i lawr i berfformiad awr o hyd, heb i’r gynulleidfa deimlo eu bod wedi’u hamddifadu o’r darlun llawn. Un o’i harfau dramataidd effeithiol oedd yr ôl fflachiadau. Medrwn uniaethu â’r Cymry heddiw yn darganfod yr hanes mewn dyddiadur ond hefyd â’n cyndeidiau dewr. Roedd newidiad acen yr actorion o’r Cymry heddiw i acen y Wladfa’n eithriadol o slic ac yn dynodi’r naid amseryddol a daearyddol yn eglur. Roedd Arad Goch yn graff iawn hefyd gyda’u dewis o wisgoedd. Roedd gan bob actor wisg syml a oedd yn medru trawsnewid ag atodyn boed hynny’n glogyn yr Indiaid, sbectol neu’n ffedog o frethyn. Manylion tebyg i’r wisg sicrhaodd rhwyddineb y perfformiad.

Dyma’r ail ddarn o theatr mewn addysg gan Arad Goch yr wyf i wedi’u gwylio fel oedolyn. Mae’r cwmni wedi perffeithio’r gelfyddyd o lunio a pherfformio drama i blant i’r dim. Llwyddodd ‘Hola!’ gynnal fy niddordeb hyd y diwedd. Ac o weld wynebau’r plant yn yr awditoriwm roedden nhw hefyd wrth eu bodd, yn enwedig pan ddaeth yr actorion drwy’r gynulleidfa. Roedd Ffion Wyn Bowen, Siôn Emyr a Chris Kinahan yn feistri wrth eu gwaith. Roedd eu hegni’n ddi-dor a’u cymeriadau’n ddoniol. Rwy’n eu canmol yn arbennig am beidio mynd dros ben llestri â’r cymeriadau. Er eu bod yn gymeriadau wedi’u chwyddo roedd eu portreadau’n gredadwy. Dyma dri actor amryddawn, roeddent yn camu o un cymeriad i’r llall yn gwbl naturiol. Rhaid canmol Mari Rhian Owen hefyd am gyflwyno hanes mor gymhleth gan ddefnyddio cast o dri.

Llwydda’r canu rhoi croen iâr i mi ar sawl achlysur – hoffais yr elfen o gerdd fel chwistrelliad Cymreig i’r ddrama. Darn cofiadwy i mi oedd cyflwyno’r unigolion ar y llong trwy odl. Brawddeg sydd wedi glynu gyda mi yw ‘Chubut am enw bach twt’. Profi gwna hyn bod odl yn gweithio wrth addysgu, mae’n siŵr bod nifer o blant Cymru bellach yn gyfarwydd â’r enw Chubut.

Er yr hwyl, y cymeriadu doniol a’r bwrlwm, roedd yna agweddau sensitif i ‘Hola!’ oedd yn cyffwrdd â’r gynulleidfa – siom y Cymry wrth iddynt sylweddoli mai diffeithwch oedd gwlad yr addewid, y glöwr yn sôn am golli ei wraig a’i fam, a’r baban yn marw ym mreichiau Ffion ar fwrdd y llong. Roedd y seibiau yma’n gwbl briodol, ac yn darlunio difrifoldeb y fordaith a dewrder y cant a thrigain a deithiodd i Batagonia.

Dyma gampwaith arall o waith theatr mewn addysg gan Arad Goch. I ddweud y gwir ni allaf bigo gwendid yn y perfformiad. Roedd graen di-nam yn perthyn iddo, ffarweliais â’r theatr gan ganmol slicrwydd ‘Hola!’ i gyfeiliant cerddoriaeth Sbaeneg traddodiadol.