Adolygiad ‘Tripula’ gan Ela Wyn James

Tripula production

Tripula, Farres Brothers & Co. Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Braint oedd bod ynghlwm â Gŵyl Agor Drysau gan Theatr Arad Goch yn ddiweddar lle cefais y cyfle i wylio dramâu niferus yn Aberystwyth gan gwmnïau theatr ryngwladol, ac rwyf yn hynod ddiolchgar am y profiad. Y perfformiad cyntaf i mi wylio fel rhan o’r ŵyl oedd ‘Tripula’ a oedd yn ddechrau egnïol a ffres i’r wythnos o sioeau oedd o’m blaen. Sioe i ysgolion oedd hon ac felly wrth i mi leoli fy hun ynghanol cynulleidfa llawn o ddisgyblion ysgolion cynradd lleol roeddwn yn sicr o gael profiad newydd ac amgen.

Dilyn bywyd dau wyddonydd ar eu taith i ddarganfod modd newydd o deithio mewn balŵn aer poeth a wnaethom gan weld eu llwyddiannau a’u methiannau ar hyd y ffordd. Yn sicr nid sioe i bawb yn ein plith ydoedd wrth i ni weld y balŵn yn cael ei chwythu i fyny o’m blaenau cyn cael y gwahoddiad i ddiosg ein hesgidiau a mentro i mewn i’r balŵn. Gyda rhai disgyblion yn amharod ac yn ofnus i fentro i mewn, mi ddilynais y rhai hyderus yn barod i weld beth oedd o’m blaenau.

Yn wir, ni chefais fy siomi o gwbl wrth i mi deimlo o’r cam cyntaf yn y balŵn fy mod yn rhan o’r profiad gyda’r actorion a’r disgyblion. Wedi eistedd i lawr a gwneud ein hun yn gyfforddus roedd yn amser i’r balwn godi i’r aer a’n tywys i rywle newydd. Gwelsom y ddau berfformiwr yn ceisio goresgyn amryw o heriau tra yn yr aer yn ogystal â damwain mewn ardal ddiarth. Bu un disgybl yn ddigon dewr i helpu’r actorion i fentro allan o’r balŵn adeg y damwain i weld sut allwn godi yn ôl i’r aer. Dyma brofiad cyffrous a doniol i’r disgybl a gafodd gwisg benodol o ran diogelwch, ac felly yn wir dyma berfformiad at ddant plant ifanc gyda’r cyfle o gael hwyl yn ogystal â dysgu rhywbeth newydd.

Sioe a oedd yn dysgu’r disgyblion am ddechreuad y balŵn aer poeth ydoedd gan fynegi ffeithiau a dyddiadau pwysig ac felly’n ddysg iddynt ond mewn modd ysgafn a hwyliog. Cawsom berfformiadau niferus o fewn y balŵn megis sioe bypedau, a’r defnydd o ridyll dros golau i greu effaith sêr yn y nos ac felly yn ein diddanu trwy gydol gan greu delweddau effeithiol a deniadol.

Tra yn y balŵn roeddwn yn cael y teimlad o fod yn yr aer gyda’r defnydd o wynt a’r actorion yn ei symud yn ôl ac ymlaen, ac i’r chwith ac i’r dde yn gyson. Profiad hudol oedd hyn wrth iddyn nhw lwyddo i ffugio ein bod wedi codi i’r aer a theithio o gwmpas. Erbyn y diwedd llwyddom i gyrraedd yn ôl yn ein tarddbwynt a gadael y byd cyfareddol tu fewn i’r balŵn. Chwilio am ein hesgidiau oedd y dasg ar ôl ymadael â’r balŵn wedi i esgidiau pob aelod o’r gynulleidfa gael eu cymysgu a’u taflu ymhobman, ond roedd hyn yn rhan o hwyl a gwefr y perfformiad.

Nid wyf wedi gwylio sioe i ysgolion ers i mi fod yn ddisgybl fy hun ond mi wnaeth hyn mi yn barod i wylio rhagor, ac yn sicr yn barod i gamu i mewn i falŵn aer poeth arall un rhywbryd!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s