Anweledig, Cwmni’r Frân Wen. Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Roeddwn yn ymwybodol taw drama un person gan Aled Jones Williams oedd hon cyn mentro i’r theatr i’w gwylio. Roeddwn hefyd yn ymwybodol ei fod wedi cael ei berfformio ychydig flynyddoedd ynghynt ond yn cael ei weld ar ei newydd wedd y tro yma, ac felly roedd yn rhaid i mi fachu ar y cyfle i’w gweld. Ni chefais fy siomi gan berfformiad teimladwy a chryf Ffion Dafis a monolog a sgript bwerus Aled Jones Williams.
Dilyn taith Glenda a wnawn wrth iddi wella o’i salwch meddwl a’i phrofiad personol o fod yn glaf yn ysbyty meddwl Dinbych. Mae ei phrofiadau yn rhai dirdynnol, real ac yn rhai medrai pobl deimlo’n agos iawn iddynt – “Dwi’n gwbod be ‘di crio, ond fedrai mo’i wneud o”. Caiff ei salwch ei gyfleu trwy fodd y set syml, wag a hi fel yr unig gymeriad ar fwrdd llawn rhaffau ynghanol y llwyfan. Roedd ganddi rwymyn o amgylch ei phigwrn ac yn droednoeth a sŵn cefndirol o donnau’r môr yn chwarae’n aml. Cyflea hyn ei stad feddyliol ac yn ychwanegu at effaith ei sefyllfa.
Golygfa grefftus iawn yn y ddrama yw gweld Glenda yn clymu rhaffau o’i hamgylch ac yn camu ymlaen i erchwyn y bwrdd cyn pwyso ymlaen a dweud “Gad i’r môr fynd a ti yn lle ti mynd a’r môr. A dyna dwi’n gwneud. Dwi’n anweledig.” Golygfa ydyw sy’n dal i aros yn fy nghof oherwydd pŵer y rhaffau a’u grym yn ei chaethiwo hi fel cymeriad yn ogystal â’i bywyd. Dyma olygfa bwerus ac ysgubol yn cyfleu yn ei gyfanrwydd effaith salwch meddwl ar unigolyn, ac yn olygfa a wnaeth fy ysgwyd fel aelod o’r gynulleidfa.
Wedi hyn, codai’r gefnlen i ddangos ei hystafell yn yr Ysbyty. Gwelwn ddiffyg dealltwriaeth y bobl sydd agosaf iddi ac ymateb cymdeithas i’w salwch. Adroddai ei llif meddyliau megis yr hyn y mae pobl yn ei ddweud, y broses o gymryd y tabledi, yr heriau o wella yn ogystal ag ychydig o hiwmor nawr ac yn y man i ysgafnhau’r dweud.
Mae gennyf bob parch tuag at Ffion Dafis am gadw sylw’r gynulleidfa trwy’r angerdd, yr emosiwn, y crio a’r chwerthin, a trwy’r broses ingol o wellhad. Diolch hefyd i Aled Jones Williams am roi sylw pellach i’r cyflwr trwy fodd y ddrama a chodi ymwybyddiaeth y gynulleidfa o’r heriau sydd ynghlwm â’r dioddef a’r gwellhad.
Efallai byddai fy marn ychydig yn wahanol petawn wedi bod mor lwcus a gweld y perfformiad gwreiddiol ond yn sicr perfformiad clodwiw ydyw yn tynnu dagrau. Rwy’n sicr taw datblygiad naturiol a chyfoes ydyw o’r gwreiddiol ac yn galluogi i gynulleidfa ehangach werthfawrogi campwaith Aled Jones Williams a thalent ysgubol Ffion Dafis.