Hudo, Cwmni theatr Arad Goch. Canolfan Arad Goch.
Drama a aeth a mi syth yn ôl i’r teimlad o fod ym mlwyddyn 9 yn gadael Neuadd yr ysgol ar ôl gwylio drama debyg. Y teimlad o drafod effaith y ddrama gyda fy ffrindiau yn ogystal â difrifoldeb y sefyllfa o dan sylw. Deng mlynedd yn ddiweddarach, nid oedd y teimlad ar ôl gwylio ‘Hudo’ yn un o dra gwahanol iawn wrth i mi sylweddoli bod pethau tebyg yn digwydd o ddydd i ddydd ar yr un raddfa os nad gwaeth.
Gwylio ymarfer o ‘Hudo’ gan Theatr Arad Goch a wnaethom yn Saesneg sef drama wedi’u rhannu i bedair rhan a phob un ohonynt yn dangos sefyllfaoedd gwahanol. Gwelsom sut mae plant ifanc yn medru cael eu hudo gan bobl ar wefannau cymdeithasol, gemau ar-lein, bywyd bob dydd neu hyd yn oed bywyd teuluol. Fe wnaeth bob sefyllfa wahanol yn eu tro fy nharo wrth ystyried bod pethau fel hyn yn digwydd i blant a phobl ifanc yn ddyddiol a’u bod yn teimlo eu bod methu rhannu’r boen yma gyda neb.
Mae’r ddrama wedi eu hysgrifennu yng nghyfrwng Theatr Fforwm lle maent yn ennyn sgwrs rhwng aelodau’r gynulleidfa. Buddiol iawn yw hyn wrth hybu eu dealltwriaeth a’u gallu i fynegi profiadau personol. Roedd y modd medrwn fynegi ein barn ar yr hyn a gwelsom a chael trafodaeth rhwng y perfformiadau er mwyn ystyried sgil effeithiau’r sefyllfa a’r hyn sydd yn gywir i’w wneud yn effeithiol iawn i ddeall gwir ddifrifoldeb y peth. Teimlaf taw’r rhan fwyaf grymus a thrawiadol o’r ddrama gyfan oedd yr olygfa olaf lle ailadroddir y sefyllfa gyntaf ychydig fisoedd yn ddiweddarach er mwyn pwysleisio’r newid o fewn y cyfnod hwn o amser. Gyda hyn sylweddolais fel aelod hŷn o’r gynulleidfa sut all sefyllfa o’r fath effeithio’n fewnol ac yn allanol ar unigolyn, a sut gall pobl ifanc uniaethu’n fawr gyda’r hyn a gwelir. Ond yn bennaf oll sut i ddatrys y sefyllfa gan bwysleisio bod siarad mor bwysig.
Wrth drafod rhywbeth mor ddwys teimlaf fod ei arddangos drwy gyfrwng y ddrama yn hynod effeithiol a gweledol wrth i bobl ifanc medru gweld trwy lygaid ei hun beth sy’n mynd ymlaen, sut i osgoi hyn yn digwydd, sut i adnabod bod hyn yn digwydd yn y lle cyntaf ond yn bwysicach na dim ei ddatrys cyn iddo fynd yn rhy bell.
Dyma ddrama wedi’i ysgrifennu a’u lwyfannu yn berffaith ar gyfer disgyblion ysgol gan bwysleisio ar bryderon pennaf cymdeithas ar hyn o bryd. Gorfododd y perfformiad mi i drafod y sefyllfaoedd rhwng y perfformiadau a chredaf byddai disgyblion yn trafod hyn yn yr ysgol yn gam enfawr ymlaen i siarad yn fwy agored am y peth. Mi wnes i ymadael gyda cherdyn gwybodaeth yn fy llaw yn barod i gysylltu am gyngor os fyddai problem. Yn sicr, dyma ddrama a wnaeth lwyddo i fy hudo o fewn cyfnod byr iawn.