Dwyn i Gof, Theatr Bara Caws. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. (23/10/18)
Yn serennu yn y ddrama gyfoes yma gan theatr Bara Caws oedd enwau digon cyfarwydd, gyda Gwenno Elis Hodgkins, Llion Williams, Rhodri Meilir a Sara Gregory yn brif gymeriadau’r ddrama. Drama sy’n dilyn cwpwl hyn o’r enw Huw a Bet sy’n briod ers 40 mlynedd a’u hunig fab Gareth a’i ddarpar wraig Cerys. Mae cof Huw yn araf ddirywio a gyda’r briodas rhwng Gareth a Cerys ar y gorwel y cwestiwn yw a fydd Huw yn ddigon iachus i gymryd rhan? Ysgrifennwyd y ddrama gan y diweddar Meic Povey ac fe’i cwblhawyd gan Betsan Llwyd. Ysgrifennodd Meic y ddrama am mai colli cof oedd y cyflwr a oedd yn codi y mwyaf o ofn arno. Mae’r pwnc ddim yn aml iawn yn destun trafod ond eto yn y Deyrnas Unedig mae’n ddisgwyliedig y bydd dros filiwn yn dioddef o’r cyflwr erbyn 2025. Ffigwr anferthol a phwnc sydd yn amlwg angen ei thrafod.
Thema amlwg sy’n gyrru’r ddrama yw godinebu gyda dirywiad cof Huw yn achosi iddo ddatgelu i’w deulu iddo feithryn perthynas cyfrinachol â Gill, ei gymydog, sydd yn briod â Gwyn. A yw’r cariad a’r gorffennol rhwng Huw a Bet yn ddigon i’r berthynas barhau a pa mor ffyddlon y buodd Bet dros y blynyddoedd hefyd? Ar yr un pryd mae’r berthynas rhwng Cerys a Gareth ar chwâl wrth i Cerys ddarganfod y bu Gareth yn anffyddlon yn ddiweddar. Yr hyn sy’n cael ei gwestiynu trwy gydol y ddrama yw pa mor debyg yw Gareth i’w dad ac a all Cerys faddau iddo a pharhau â’r briodas? Caiff yr holl gwestiynau ei hateb ar ddiwedd y ddrama gyda Huw yn datgelu’r “ddynes dwi’n ei charu”, a’i Gill neu Bet yw’r ddynes honno? Gwelwn sut mae’r cymeriadau yn dod i delerau â’r gwirionedd a sut maent yn parhau gyda’u bywydau.
Set syml oedd i’r ddrama gyda bwrdd, pedair cadair, pedwar golau sbot a rostra yn amgylchynu’r llwyfan. Defnyddiwyd cerddoriaeth hamddenol i gyfleu golygfeydd tyner a cherddoriaeth uchel a swnllyd pan oedd y cymeriadau yn cweryla. Gwisg syml oedd gan y cymeriadau yn cyfleu eu hoedran a’u personoliaethau. Newidiodd y cymeriadau benywaidd i got las a ffrog felen ar ddiwedd y ddrama i atgoffa’r gynulleidfa o’r godineb a’r ffaith bod Huw trwy gydol y ddrama wedi bod yn cymysgu rhwng Bet a Gill, gan mai Bet yn y gorffennol oedd yn gwisgo’r ffrog felen.
Mi wnes i wir fwynhau’r ddrama yma gyda’r elfen o gomedi yn torri ar y tensiwn a welwyd yn rhai o’r golygfeydd pan oedd salwch Huw yn cael y gorau ohono. Gwelwyd y pwysau sy’n codi ar deulu pan fod aelod yn dioddef o’r cyflwr yma. Perfformiad gwych yn trafod pwnc cyfoes a ddylai fod yn destun trafod yn fwy aml.
Mae Theatr Bara Caws yn teithio Cymru rhwng 09/10/18 a 27/10/18, am fwy o wybodaeth am y ddrama cliciwch yma.