Yfory, Theatr Bara Caws. Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
1) Wedi mwynhau?
Meleri: Dim rili.
Nannon: Naddo.
Megan: Yn anffodus, dim fel’ny.
2) Beth wnaeth ichi chwerthin neu deimlo’n emosiynol?
Megan: Anodd oedd cydio yn naratif YFORY, a hynny oherwydd y dryswch rhwng yr hyn oedd yn ffuglen neu’n wirionedd. Cyflwynodd y ddrama gymeriadau cwbl ffug, ond eto, ar adegau, buasent yn cyfeirio at enwau cyfarwydd ym myd gwleidyddiaeth heddiw. O ganlyniad, teimlais ar goll mewn naratif gwbl ddiflas. Mae modd dadlau efallai bod ambell ennyd o emosiwn yn perthyn i’r ddrama, yn enwedig wrth wylio Ellie yn llawn rhwystredigaeth wrth drafod ei gweledigaeth bersonol am ddyfodol y wlad. Ond i mi, a dwi’n ymddiheuro os ydw i’n swnio’n hen ffasiwn (er fy mod yn 21 oed!), roedd y rhegfeydd yn sarnu’r holl beth. Does gen i ddim byd yn erbyn rhegi o fewn dramâu, ond does dim rhaid eu cynnwys ym mhob brawddeg er mwyn ceisio creu sgwrs naturiol.
Meleri: Nes i ddim chwerthin unwaith. Nid oedd y naratif yn gwneud i mi deimlo unrhyw emosiwn o gwbl. Rhaid i mi gytuno â Megan, teimlais bod y rhegfeydd yn mynd yn fwrn, ac yn creu deialog rhyfedd!
3) Sut oeddech chi’n teimlo ar y diwedd?
Meleri: Teimlais rwystredigaeth llwyr. Ma’r syniad o ga’l ddrama wleidyddol yn ecseiting dros ben, ond o’n i’n teimlo mai nid drama weles i, ond yn hytrach, rhyw fath o bregeth undonog a dim byd newydd.
Nannon: Hoffwn bwysleisio nad oeddwn i wedi mwynhau’r ddrama yma oherwydd bod y perfformiad yn trafod gwleidyddiaeth ac oherwydd fy mod i’n ifanc. Dwi’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, ond gormod o weiddi a phregethu heb unrhyw weledigaeth creadigol yn perthyn iddi oedd y perfformiad i mi.
4) Oedd y cymeriadau yn apelio atoch chi?
Nannon: Doedd cymeriad Ellie ddim yn apelio ata’i o gwbl. Teimlais mai’r unig reswm cafodd y fenyw yma lais yn y perfformiad oedd oherwydd ei bod hi’n cael perthynas rywiol gydag arweinydd y blaid. Mewn sgwrs ar ôl y sioe, dywedodd Siôn Eirian bod y fenyw yn rhoi elfen ffeminyddol i’r sioe. Y berthynas oedd yn rhyfedd i mi a sut gellir dehongli ei rôl fel un ffeminyddol. Roedd yr hyn a ddywedodd yn bwysig, roedd ganddi weledigaeth diddorol i Gymru, dylai hi fod ar flaen y gad yn arwain y senedd, gan bod ganddi mwy o sbarc a mwy i ddweud na’i gŵr. Nid yw’n bortread cywir o rôl menywod yn ein byd gwleidyddol ni heddiw.
Meleri: Na, yn debyg iawn i Nannon, doeddwn i ddim yn hoffi portread y fenyw o gwbl. Ma’n hala ti deimlo yr unig ffordd ti llu fod yn fenyw mewn gwleidyddiaeth yw i fod yn bartner i arweinydd y blaid.
5) Barn am y set?
Nannon: Odd y set yn edrych fel set rhaglen deledu o 1987 – a diolch am rhoi llun o’r Bae fel canolbwynt i’r set, jyst rhag ofn i fi anghofio fod y senedd ym Mae Caerdydd.
Meleri: Same-y. Ni newidiwyd dim byd drwy gydol y ddrama nac ychwaith y golau felly braidd yn ddiflas.
Megan: Doedd dim byd yn sefyll allan, ond wedi dweud hynny, dim ond un ‘stafell oedd yn bodoli trwyddi draw, ac yn ddealladwy felly, mi fyddai wedi bod yn her i geisio creu set amrywiol ag un lleoliad i gynllunio.
6) Fyddech chi’n argymell pobl i fynd i’w gweld hi?
Nannon: I fi, os oes diddordeb da chi i weld pregeth, ewch i weld y ddrama. Er hyn, mae rhai’n canmol y sioe i’r cymylau felly yn amlwg, mae hollt ym marn y gynulleidfa.
Meleri: Na, ond rhwydd hynt i bawb eu barn ac efallai y bydd rhai yn anghytuno gyda fy sylwadau.
Megan: Er nad oeddwn i wedi mwynhau’r ddrama, nid yw o reidrwydd yn golygu na fyddai unrhyw un arall o’r un farn. Gwleidyddiaeth yw prif thema’r ddrama hon, ac felly disgwyliwch i glywed areithiau a maniffestos diri. Credaf mai’r hyn sydd yn siomedig am YFORY, yw nad oedd wedi fy nghyffroi, a ninnau mewn stad wleidyddol gwbl ansicr ac i rai, cyffrous.