Adolygiad ‘Raslas Bach a Mawr’ gan Nannon Evans

Raslas Bach a Mawr, Cwmni Theatr Bara Caws. Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Fel babi o’r nawdegau, doeddwn i ddim cweit yn gyfarwydd â stori eiconig Wynford Ellis Owen a Mici Plwm, arwahan i’r llinell wichlyd ‘haia chwcs!’. Felly doedd gen i ddim disgwyliadau mawr yn barod am y sioe yma, doeddwn i ddim wir yn mynd allan o fy ffordd i gymharu’r gwreiddiol â’r un presennol.

Rhaid canmol yr holl actorion i’r cymylau. Doedd dim un yn sefyll allan am y rhesymau anghywir. Roedd perfformiad Iwan Charles a Llŷr Ifans yn ddigon i gael rhywun ar y llawr yn chwerthin. Roedd perfformiad Iwan Charles yn gorfforol arbennig, roedd ei ddawnsfeydd bach byddai’n gwneud wrth i rywbeth fynd yn dda yn hileriys. Wrth sugno ei fawd, siglo ei ben-ôl a bwrw ei ben i gyd mewn ffordd hollol fabïaidd yn ‘instant hit’ gyda’r gynulleidfa. Sicrhaodd llais awdurdodol ond eto, hollol gomig a mynegiant wynebol eithafol Llŷr Ifans bod cymeriad Syr Wynff yn hawlio sylw’r gynulleidfa. Roedd y bartneriaeth rhyngddynt yn cydbwyso’n berffaith, er bod y ddau mor dwp â’i gilydd, maent rhywsut neu’i gilydd yn llwyddo i drechu’r Prif Weinidog (Carys Gwilym) gyda help Moronwen (Llinos Daniel), cariad Plwmsan (ie, rywsut, mae’n llwyddo i ffeindio cariad).

Yn bersonol, nid drama oedd y perfformiad yma. Panto oedd hi yn ei hanfod, gyda’r prif weinidog a’r metron yn cymryd yr awenau fel y badis a Syr Wynff a Plwmsan fel y gwdîs. Hanfodol oedd y gynulleidfa ‘panto’ i’r perfformiad gan fod cymaint o bethau comig yn digwydd ynddi e.e. Syr Wynff yn rhoi slepjan i Plwmsan! Petai Theatr Bara Caws wedi aros ychydig wythnosau ac wedi’i hysbysebu fel panto Nadolig, dwi’n siŵr byddai’r holl sioe wedi gweithio’n well ac o bosib byddai’r gwerthiant tocynnau yn fwy? Teimlais nad oedd digon wedi digwydd yn yr hanner cyntaf a’i fod lawer rhy hir; des i allan o’r theatr ar ôl yr hanner cyntaf heb ddeall beth oedd yn digwydd. Yn ogystal, roeddwn i’n diflasu wrth wrando ar y cymeriadau ychwanegol yn canu gan nad oedd eu storïau hwy yr un mor ddiddorol (a doniol) â storïau Syr Wynff a Plwmsan.

Ond yr hyn nes i fwynhau mwyaf am y sioe oedd pa mor wleidyddol oedd hi. Roedd y prif Weinidog yn adleisio golwg Maggie Thatcher a’r digs cynnil tuag y Torïaid yn llwyddo i wneud y sioe yn banto soffistigedig oedd yn addas i bawb. Roedd y neges bod y bobl bach yn gallu trechu’r bobl fawr gyda’i gilydd yn gryf trwy gydol y sioe. Neges sy’n hollol bwysig ac yn un ry’n ni heddiw yn gallu uniaethu â hi.  Wrth gwrs, doedd y plant ddim yn gweld ôl gwleidyddol ar y sioe; roeddwn i wrth fy modd yn gweld plant yn y rhes flaen yn edrych yn geg agored ar Wynff a Plwmsan fel petai nhw’n enwogion go iawn.

Roedd y set yn wych o syml. Caniataodd y lefelau bod y cymeriadau mewn rheolaeth yn uwch na’r lleill ac felly  yn dangos y pŵer yma yn weledol i blant. Roedd y llithren a osodwyd ar ochr chwith y llwyfan yn caniatáu i’r golygfeydd lle’r oedd pob cymeriad yn rhedeg ar ôl ei gilydd fod yn ddiddorol ac yn gomig tu hwnt.

Des i allan o’r sioe â dagrau yn fy llygaid a stitch mawr yn fy mol ar ôl yr holl chwerthin, sefyllfa na fues ynddi erioed o’r blaen mewn sioe Gymraeg. Felly yn sicr, llwyddiant mawr oedd atgyfodiad Syr Wynff a Plwmsan, a hir oes i deyrnasiad Syr Wynff fel prif Weinidog weden i!

dsc_8798

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s