Mae’n debyg bod yna gyffro ar ddechrau pob taith, yn enwedig os mai chi yw’r rhai ffodus fachodd ‘set y gwt’ fel we’n ni. Gwyll y nos wedd hi arnom ni’n gadael parc y ffair, ar fws Richards â ‘Gŵyl y Cynhaeaf’ yn sheino ar ei flaen. We’n ni ar daith gyda llond bws o Gardis cyffrous – ond heb damed o syniad i le.
Licen i drafod pob rhan o’r daith iasol o amgylch tref Aberteifi i ddathlu bywyd Dic Jones. Ond wnâi ganolbwyntio ar y lleoliadau a gododd groen gŵydd, y rheini a ddaeth â deigryn i’m llygaid. I gychwyn y stop cyntaf, y mart. Nid da byw oedd yn y cylch arwerthu ond côr meibion, a rheini’n canu o dan arweiniad Rhian Medi i gyfeiliant bargeinio’r arwerthwr. Ychwanegwch at hynny ddidwylledd Ceri Wyn wrth iddo adrodd awdl ‘Y Cynhaeaf’ a chewch chi harmoni perffaith a seinlun llawn emosiwn. Bron y gellir dweud fod pitran patran y glaw ar do sinc, rhydlyd y mart yn cydymdeimlo â ni ar y tu fewn.
Delwedd fydd gen i hyd byth yw’r un a welsom ym Mharc Netpool. Wrth i olau’r bws ddiffodd, goleuwyd cerrig yr orsedd â golau dau dractor. Trawsnewidiwyd y cerrig gyda ‘rap bêls’ pinc ac fe ganodd Gwyn Morris gân y cadeirio o’u canol. Fe ganom ninnau mewn ymateb iddo o’r bws fel petai’r cytundeb wedi’i drefnu. Dic y bardd a Dic yr amaethwr wedi’u priodi mewn un delwedd trawiadol.
Eddie Ladd oedd wrth y llyw wedi’r cyfan, felly wrth eistedd yng Nghapel Bethania roedd yna ymdeimlad o ddisgwyl yr annisgwyl. Canodd gôr merched y gân ‘Edrych Fry’ mor rymus nes i’r sain fwrw fy mron. Yna daeth sŵn peiriant o fry. ‘Arglwydd, mae Eddie yn sefyll ar yr oriel â chainsaw,’ meddyliais. Ond wrth edrych fry i gyfarwyddiadau’r côr, awyren ddi-beilot oedd yno, â’r gwynt o’i llafnau’n gwyntyllu’r capel. Trois i feddwl am yr arbrofi yn Aberporth, a’r pryder a fynegodd Dic ynghylch y peth yn ei gerddi.
Yn sicr nid cyllid o gannoedd o bunnoedd oedd yn gyfrifol am lwyddiant ‘Cyflwyniad y Cynhaeaf.’ Saif y llwyddiant ar sail syniadau’r athrylith Eddie Ladd a llafur cymuned o bobl naturiol ddiwylliannol oedd yn barod i ymroi er mwyn dathlu bywyd y chwedlonol, Dic Jones.