Rhith Gan, Theatr Genedlaethol Cymru. Maes yr Eisteddfod Genedlaethol 2016.
Drama fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, y llynedd, yw Rhith Gân gan Wyn Mason. Seliwyd y ddrama ar albwm Y Bardd Anfarwol gan Gareth Bonello. Enillodd yr albwm wobr Albwm Cymraeg y flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli yn 2014.
Perfformiwyd y ddrama heriol yma yn y cwt drama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni eleni. Llwyfannwyd taith feddyliol a real yr albwm yn y ddrama ar linyn cryf trwy’r ddrama yw trasiedi a galar ond fe geir yma hiwmor ond hiwmor tywyll iawn. Plethir y cyfan yn gyfanwaith myfyriol. Tanlinellir yma fyrhoedledd a breuder bywyd ac effaith treigl amser ar fywyd. Trafodir yma syniadaeth athronyddol bardd Tsieinëeg o’r 8fed Ganrif. Cyflwynir ni i’r casgliad o farddoniaeth y bardd Tsieinëeg ar ddechrau’r ddrama pan agorir parsel ar y llwyfan. Dyma hefyd gyflwyno’r prif -gymeriad Orin (Rhodri Evan) i ni pan fydd yn agor y parsel ac ymddangosiad ei ferch Elen (Saran Morgan) ar y llwyfan. Gosodwyd y sefyllfa’n glyfar wrth i ni sylweddoli mai perthynas anhapus ac anghyflawn sydd rhwng Elen a’i mam. Y mae’r disgrifiadau a’r ieithwedd gref a ddefnyddia i ddisgrifio’r fam yn siarad cyfrolau. Mae Elen ar drothwy dod i oed (deunaw oed), ac er ar fin troi’n oedolyn y mae gan Elen ddisgwyliadau mawr o’i rhieni neu yn hytrach ei thad.. Datgelir y rheswm am hyn yn ddiweddarach yn y ddrama.
Y mae ymddangosiad y meistr Tsieineaidd ar y llwyfan yn gredadwy ac yn araf amlygir a deallwn taw ym mhen Orin mae hyn i gyd yn ddigwydd. Yn briodol ceir deuawd ond deuawd hyfryd rhwng Orin a Li Bai (Llion Williams). Rhwng y ddau yma fe ddaw’r comedi allan wrth i Li Bai orfodi Orin gyflawni defodau Tsieineaidd. Yn y darnau yma plethwyd y gerddoriaeth yn hynod o sensitif a synhwyrol wrth i Gareth Bonello ganu i gyfeiliant amryw o offerynnau gan y cymeriadau i gynnwys ambell i un Tsieineaidd. Fe grëwyd awyrgylch dirdynnol a oedd yn ddigon i gyffroi unrhyw un. Golygfa gofiadwy oedd yr un yn y coed ac fe grëwyd set ardderchog gan Luned Gwawr Evans. Roedd y symlrwydd yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y set i greu argraff ac ychwanegu at eich dealltwriaeth o’r ddrama gyda chylch o olau mawr yn cyfleu’r lleuad yn effeithiol a chofiadwy.
Roedd yma sgript afaelgar iawn gan Wyn Mason. Cedwir y gyfrinach am farwolaeth Elen yn hynod o gelfydd. Y mae’r pwynt yma yn y ddrama yn drobwynt i mi oherwydd hyd yma yn y perfformiad nad oeddwn wedi uniaethu â un o’r cymeriadau na chwaith cael unrhyw ymdeimlad o gydymdeimlad gydag un o’r cymeriadau. Yn bendant gorfoda Wyn Mason i ni fynd ar daith emosiynol gyda’r cymeriadau. Rhaid cyfaddef i mi fethu deall yn llawn perthynas Orin a’i wraig yn absenoldeb eglurhad digonol pam fod gymaint o atgasedd rhyngddynt. Canlyniad hyn oedd i mi weld, yn gam neu’n gymwys, Hanna fel gwraig ddiflas nad oeddwn, mewn gwirionedd, yn ei hadnabod na’i deall. Rhaid canmol perfformiad dirdynnol a grymus Rhodri Evan wrth ddelio a phwnc na thrafodir yn aml ar lwyfannau sef afiechyd meddwl. Cafwyd llinellau hynod o gofiadwy megis ‘vague Sense of nothingness’ a ‘A’i rhith yw ein bywydau wrth i ni ddychmygu’r cyfan?’ Yn bendant mae dirgelwch bywyd a’r hyn sy’n anochel i ni yn gwestiwn oesol ac fe ofynnir hyn yn y ddrama yma yn effeithiol gyda ffresni gyda’r ychwanegiad o’r hyn sy’n codi o’r ddrama hon o absenoldeb yr enaid a gwacter ystyr.
Perfformiad clodwiw a gafaelgar ac er cystal y perfformiad, rhaid cyfaddef ar adegau fe’i welais yn anodd dilyn a deall y chwarae drwy gydol y ddrama. Er hyn mwynheais y cyfanwaith a’r perfformiad gafaelgar o ddrama heriol, gyfoes a diddorol. Os cewch y cyfle i wylio’r ddrama. Ewch da chi, ni fydd yn edifar gennych, yn wir fe fyddwch ar eich colled o beidio manteisio ar y cyfle.