Adolygiad ‘Othello’ – gan Meleri Morgan

Rhaid cyfaddef fy mod yn nerfus wrth baratoi  i fynd i weld un o ddramau enwocaf Shakespeare sef Othello. Darllenais gryn dipyn yngylch a’r ddrama a’r hyn oedd yn fy nharo oedd y sôn parhaus am dras. Y cyfeiriadau cyson at Othello y dyn du a Iago y dyn  gwyn. Dyma beth oedd yn creu y ddeinameg yn y ddrama mor ddiddorol. Pan yn eistedd yn sinema Ganolfan Celfyddydau yn edrych ar y cast sylwais taw Lucian Msamati oedd yn chwarae rôl Iago, felly roeddwn yn edrych ymlaen i weld ac ystyried  yr effaith  oedd y cyfarwyddwr Iqbal Khan wedi ei wneud ar  y ddrama trwy ddewis  dyn du  i chwarae Iago yn ogystal ac Othello. Yr oedd y dewis hyn yn esgor ar syniadau newyddd ynglŷn a dynolryw a’r ddynoliaeth.

Drama am frawdoliaeth, twyll, brad, cariad ac ymddiried yn eich gilydd neu ddiffyg ymddiriedaeth.

Wrth i’r ddrama ddechrau teimlais a gwelais yn unionsyth atgasedd Iago tuag at Othello a hyn yn seiliedig ar eiddigedd oherwydd bod Cassio wedi cymeryd  ei le o dan arweinyddiaeth Othello. Credaf fod y cynllwynio yn dechrau o’r cychwyn cyntaf ac adeiladwyd ar hyn  drwy  gydol y ddrama.  Teimlais  bod tynged a ffawd pawb wedi’i benderfynnu o’r cychwyn ac yn deillio o atgasedd Iago. Gweithredodd Iago sy’n dra- arglwyddiaethu ac yn esgor ar ganlyniadau gwahanol i’r cymeriadau.  Drama a ysgrifennwyd, mae’n debyg, ar ddechrau yr ail ganrif ar bymtheg, ond y mae yma gyffyrddiadau  modern iawn ac engraifft o hyn yw’r defnydd o rap a gymerodd le yn ystod yr olgyfa ymladd ac fe grewyd  tyndra a thensiwn effeithiol ‘Rare to see a black man on the right side of the law’ a’r ateb ‘we all know what happens when we give white people a gun’.  Wrth ystyried fod y ddrama yn gannoedd o flynyddoedd oed teimlais fod y perfformiad yma wedi llwyddo i  bwysleisio bod negeseuon a themau y ddrama yma yn oesol ac nid yn unig yn bodoli heddiw ond yn dal i’n dwys bigo a chodi cwestiynnau creiddiol i’n ymateb i sefyllfaoedd cyfoes.
Crewyd set hollol drawdiadol wrth i’r llawr godi ac agor allan i alluogi y dŵr i lifo  fel afon oddi tano. Defnyddiwyd dwr  i amlbwrpas yn y ddrama a oedd yn effeithiol iawn er engraifft  yr artaith ar dechrau y ddrama. Newidwyd defnydd y dwr yn yr olygfa Desdemona ac Emilia i fod yn  bwll o gysur megis  dwr ysbrydol iddynt.  Gwelwn yn y cefn ddarlun neu dylun o ffenestri eglwysig wedi’i torri, credaf taw symbol o’i bywydau ydy hyn. Nid yw’r  un enaid yn berffaith ac mae Iago a’i gelwyddau hefyd yn torri a chwalu bywydau bobl. Yn ychwanegol mae crefydd yn rhan bwysig o’r cyfnod, a gwelir yma y  cysylltiad cryf rhwng crefyddd a rhyfel. Y mae bywyd i  Othello yn un rhyfel mawr, ei uchel swydd yn y fyddin a’r brwydro a’r gwrthdaro  parhaus rhwng  y cymeriadau gyda’r canlyniad bod nifer yn cael ei lladd gan ei gilydd. Rhaid  cydnabod cyfnod y ddrama ac hefyd bod yna debygolrwydd cyfoes o’r berthynas rhwng cariad a chrefydd.  Y mae’r ddau yn gofyn am deyrngarwch a ffyddlondeb a’r ymholiad am deyrngarwch yr unigolyn.

Y mae stori  dda yn fythol wyrdd ac yn aros yn gyfoes.  Er hyn y mae angen cast arbennig i gyflwyno y stori yn gredadwy i ni a sicrhau bod y geiriau ar  bapur yn brofiad real i ni. Dyma lwyddiant y cynyrchiad. Roedd  Hugh Quarshie yn Othello arbennig yn creu yn gredadwy y rhaniad a chymlethdod y bersonoliaeth rhwng ei statws yn y fyddin a’r caledwch oedd yn perthyn i’w fywyd a’r tynerwch a’r cariad tuag at Desdemona. Yr ansicrwydd yn ei ddiffyg ymddiried o gariad Desdemona yn ei yrru yn wallgof erbyn diwedd ac yn ei ladd. Gwelwn ddimensiwn arall i’w gymeriad pan mae’n  fodlon arteithio Iago trwy ei glymu i’w sedd er mwyn dod o hyd i’r gwir ynglyn a Desdemona. Gwelwn ochr hyll iawn i’w bersonoliaeth. Erbyn diwedd mae’r broblem yn troi yn obsesiwn ac yn cymeryd drosto ei fywyd a’i fodolaeth nes ei fod yn gweld ei fyd yn chwalu yn chwilfriw o’i amgylch. Pan mae’i  wraig yn marw yn ei ddwylo sylweddola twyll a diffyg teyrngarwch Iago a’r unig ateb oedd ganddo oedd hunan laddiad. Cafwyd diweddglo grymus ac effeithiol iawn.

Crewyd Desemona ac Emilia yn brydferth iawn gan Joanna Vanderham ac Ayes Dharker a oedd yn chwarae gwraig Iago. Dangosodd Desemona ffyddlondeb llwyr i’w gwr ond eto er yn ddiniwed cafodd ei lladd. Yr olygfa sydd yn effeithiol ac yn ein taro pan mae’n Desdemona yn gofyn i Othello am ei gefndir a’i orfennol ac yn gofyn ‘We’re you scared’, cwestiwn sydd yn taro Othello a oedd yn arddangos ei gwir gariad tuag ato. Dangosai Emilia, hefyd, gymaint o gariad a phosib ond roedd siom yn ei disgwyl hi drwy’r  amser. Dangosodd Emilia ddewrder anhygoel erbyn y diwedd pan oedd yn ceisio rhesymu beth oedd wedi digwydd i bawb a pha mor wallgof yw’r byd, ond mae’r llinell yn y ddrama sydd yn dweud wrthi ‘Its too late’ yn ddirdynnol pan mae ei gwr yn tynnu cyllell ar draws ei gwddf.

Seren  y sioe i mi oedd Lucian Msamati sef Iago. Dyma’r cymeriad sydd yn newid pob dim a dyma bradwr mwya y ddrama, y mae wedi medru darllen Othello i’r dim. Y mae ei adnabyddiaeth o ‘r gwahanol gymeriadau yn cael ei bwysleisio gan y chwarae medrus o gymeriad Iago. Yn ei gyfrwystra gwyr ei fod yn taflu cyllel i galon Othello wrth ei berswadio bod ei gariad wedi bod yn anffyddlon ato. Gwyddai bod hyn yn dynged creulonach na’i ladd yn unionsyth.  Roedd Iago yn cael pleser o weld ei hen feistr yn gwallgofi a chyflawni hunan laddiad.  Arddangosir yn llwyddiannus trwy actio grymus Iago oerni a chaledwch ei gymeriad ac yn arbennig felly ei oerni a’i ddifyg cariad tuag at ei wraig. Canlyniad y perfformiad oedd fy mod yn cwestiynnu pam wnaeth Iago briodi o gwbl.

Yn eironig Iago sydd dal yn fyw ar ddiwedd y ddrama er ei fod wedi achosi marwlolaeth cynnifer yn y ddrama. Y llinell sydd wedi aros yn y cof yw’r mwyaf rhagrithiol o’r cyfan; ‘I am yours Othello’. Dyma sydd yn symboli y ddrama yn gyfan gwbwl.

Dyma’r tro cynta’ i mi wylio cynhyrchiad gan y Royal Shakesepeare Comany ac yn bendant cefais fy hudo gan gampwaith y cwmni a’i perfformiad anhygoel o’r ddrama.

Perfformiad grymus dros ben. Yn taflu golau newydd modern ar ddrama glasurol.

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s