The Merchant of Venice – Adolygiad gan Meleri Hicks

Adolygiad ffilm o’r perfformiad ‘The Merchant of Venice’ – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 22/07/2015

Cyn i’r ddrama gychwyn, doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl, yn enwedig gan nad oeddwn erioed wedi clywed am y ddrama glasurol Shakespearaidd yma o’r blaen,  ac am fy mod i’n gwylio’r ddrama ar sgrin sinema am y tro cyntaf. Wrth i mi eistedd yn y sinema, gwelsom glipiau o’r actorion yn ymarfer ar gyfer y sioe; geiriau gan y cyfarwyddwr a chyflwynydd yn rhoi arweiniad ar beth i’w ddisgwyl o’r perfformiad a chafodd ei leoli yn y Theatr yn Stradford. I mi, roedd hyn yn ychwanegu at yr elfen o geisio moderneiddio dramâu Shakespeare drwy geisio cael y gynulleidfa i deimlo fel rhan o’r perfformiad drwy ddangos y broses o sut wnaeth y perfformiad gyrraedd y llwyfan. Doedd hyn ddim yn rywbeth newydd ac unigryw yn fy marn i, a gallaf weld sut byddai eraill yn credu bod hyn yn cymryd y sylw oddi ar y stori ei hun a’i cynrychiolaeth nhw o’r cymeriadau.

Ym mhob gonestrwydd, roedd y plot ei hun yn eithaf dryslyd i’w dilyn, ond fy niffyg gwybodaeth am y ddrama oedd i feio am hyn, nid yr actorion o bell ffordd. I’w roi mewn termau syml, mae’n ddrama yn canolbwyntio ar Bassanio, sef Fenisaidd ifanc o safle urddasol sydd yn dymuno priodi Portia, merch hardd a chyfoethog o Belmont. Ar ôl gwastraffu ei stâd, mae angen 3,000 o ducats. Fe wnaeth Bassanio droi at ei ffrind Antonio – masnachwr cyfoethog o Venice – ar gyfer arweiniant a chymorth. Doedd gan Antonio ddim arian parod i’w gynnig felly mae’n gaddo talu bond os gall Bassanio ddod o hyd i fenthyciwr.  Mae Bassonio yn troi at y benthyciwr arian Iddewig sef Shylock ac yn enwi Antonio fel gwarantwr y benthyciad.

Fel y soniais yn barod, doeddwn i ddim yn gyfarwydd efo’r ddrama hon. Serch hyn, mi wnes i astudio gwaith Shakespeare yn fras yn yr ysgol, ac felly wedi astudio ei chrefft a bwriad Shakespeare yn nhermau effeithio’r gynulleidfa. Sylwais bod yr RSM wedi llwyddo creu perfformiad modern o ddrama dros 400 oed, sydd dal yn berthnasol i’n cymdeithas ni heddiw. O’r foment gyntaf lle mae Antonio ar y llwyfan yn emosiynol llawn panig, i’r foment olaf ym medydd Cristnogol dramatig Shylock, cadwodd yr actorion y gynulleidfa ynghlwm i’r stori sy’n llawn rhamant a’r trasiedi. Fe wnaeth emosiwn ac angerdd y cymeriadau wneud i mi anghofio weithiau fy mod i’n gwylio’r perfformiad ar sgrin yn hytrach na’n fyw mewn theatr. Erbyn diwedd y ddrama, roeddwn i yn cwestiynu ansicrwydd y cymeriadau – pwy allem ymddiried yno yn wirioneddol, fel y gwelwn efo Portia a Bassanio?

Un o’r pethau methais benderfynnu oedd pa fath o genre oedd y ddrama hon yn perthyn iddi. Mae’n hawdd dweud bod y ddrama yn ymwneud efo themâu rhamantaidd, a’r gynulleidfa yn dilyn trywydd Portia o chwilio am gariad ac yn ysu am Bassanio. Ond, fe wnaeth y cyfarwyddwr lwyddo i gymysgu’r elfennau rhamantaidd efo themâu tywyll, trasiedi a chomedi. Yn yr olygfa cwrt, rydym yn gweld Portia yn gwisgo fyny fel barnwr – sydd yn ei hun yn gwneud sbort o’r system cyfiawnder – lle mae hi’n sylweddoli bod Bassanio yn blaenoriaethu Antonio uwchben ei gariad ar ei chyfer hi. Yn fy marn i, y drasiedi fwyaf oll oedd pryd wnaeth aelodau Cristnogol y cwrt orfodi Shylock i gael bedydd Cristnogol. A oedd hyn ar ffurf o artaith sy’n ychwanegu at y genre o drychineb tybed? Cawn weld elfen o gomedi yn plethu mewn efo’r trasiedïau, efo’r cymeriadau Prince of Arragon a Launcelot Gobbo yn blaenoriaethu. Mae’r ddau ohonynt yn llwyddo i ryngweithio efo’r gynulleidfa a oedd yn ddoniol tu hwnt. Dechreuodd Launcelot y ddrama drwy eistedd drws nesaf i aelod o’r gynulleidfa, lle welwn ei fod wedi paentio ei wyneb fel clown. Roedd hyn yn elfen neis a diniwed iawn efo’r ymdeimlad o bantomeim, o bosibl i awgrymu taw efe oedd comedïwr y cast – a gafodd ei bortreadu yn berffaith.

Wrth edrych yn ôl, yr hyn a sefodd allan i mi oedd portread yr actorion o Shylock, Portia ac Antonio. Gyda Shylock, fe wnes i gwestiynu pa fath o gymeriad oedd o i fod, wrth i ni weld ei ddatblygiad drwy gydol y ddrama. A oedd o fod yn gymeriad drwg a dieflig? Ydym ni i fod i gydymdeimlo ag ef, am fod y gymdeithas gyfan yn troi yn ei erbyn trwy ddwyn ei arian a’i ferch? Cafodd y ffordd wnaeth yr actor bortreadu dyn bregus ar ddiwedd y ddrama, a oedd yn ysgwyd ac yn crio mewn anghrediniaeth pryd gafodd ei ddwyn o bopeth gan gynnwys ei grefydd fy ngorfodi i gydymdeimlo ag ef.  A’i dyma bwriad Shakespeare tybed? Fe wnaeth araith Shylock – ‘Hath not a Jew eyes?’ wneud i mi sylweddoli ei fod yn gyfartal a’r cymeriadau Cristnogol – felly pam y dylai ef newid crefydd?

Fe wnaeth yr actores sy’n portreadu Portia, gwraig ifanc ddiniwed sydd yn ysu am y cariad ‘perffaith’ mewn ffordd ddiniwed, wneud i ni gydymdeimlo drosti pryd gwnaeth Bassanio rhoi’r fodrwy yn ôl wedi’i achos llys orffen.  Ar ôl y ddrama orffen, ni ellir helpu gwestiynu os fyddai Portia yn dod o hyd i’w gwir gariad, neu yn parhau i hiraethu am y diweddglo perffaith.

Does dim gwadu bod gan Antonio gariad dwfn tuag at Bassanio, ac o ganlyniad i hynny yn dioddef o iselder drwy sylweddoli bod Bassanio’n mynd i briodi menyw.  Er mwyn ychwanegu hyn at yr elfen o drasiedi, mae Shakespeare yn gwneud yn siŵr bod Bassanio yn dychwelyd serchiadau Antonio, er gwaethaf ei rwymedigaeth i briodi Portia. Beth sy’n digwydd i Antonio ar ôl yr achos llys? Ydy ef a Bassanio yn y pen draw yn cael perthynas tybed?

Yn ystod yr egwyl, cawsom gyfle i weld sut cafodd y set ei greu ar y sgrin, a oedd yn anhygoel. I mi, fe lwyddodd y set (yn ogystal â’r gwisgoedd) ychwanegu at yr elfen fodern o ddramâu Shakesperaidd. Cafodd y set ei wneud gyda pres aur, a wnaed i greu’r llawr a’r waliau. Hefyd, roedd yna bêl bres a oedd yn siglo drwy gydol y ddrama a oedd yn ychwanegu at symlrwydd y cynhyrchiad.  Does dim amheuaeth bod hon yn ‘rollercoaster’ o gynhyrchiad, yn ein tywys trwy emosiynau’r cymeriadau. Ar adegau, teimlaf fy mod i’n adolygu’r profiad o wylio’r ddrama ar y sgrin yn hytrach na’r actorion a’r plot ei hun. Ond, roedd hon yn berfformiad a byswn yn mynd i weld eto, efallai yn y theatr ei hun y tro nesaf !

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s