Everyman – Adolygiad gan Meleri Morgan

EVERYMAN, NATIONAL THEATRE – LIVE STREAM, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Ydych chi’n ofn marw?

A ddylen ni fod ofn marwolaeth? Neu ofn sut ‘rydym yn mynd i farw? Neu, yn wir, ydy e’n ffrind i ni?  Cwestiynau oesol. Dyma oedd y cwestiynau a oedd yn byrlymu yn fy meddwl wrth wylio National Theatre Live yn Aberystwyth.

Perfformiad gafaelgar a grymus o dan arweinyddiaeth Rufus Norris gyda splash o liw o addasiad ‘hip’ a chyffrous Carol Ann Duffy o’r ddrama Everyman. Drama grefyddol yn ei hanfod wedi ei datblygu a’i haddasu i ddigwyddiadau a chyfnod cyfoes sydd yn cwestiynu ein chwant materol yn y byd. Campwaith o effeithiau gweledol’, cerddoriaeth nodedig a chastio arbennig.
Edmygaf waith Duffy a Norris o lwyddo i gadw at fframwaith cyfnod  gwreiddiol y ddrama sef y bymthegfed ganrif ond ar yr un pryd creu a datblygu cynnwys addas i’r gymdeithas seciwlar sydd yn bodoli heddiw lle mae safle Duw a chrefydd wedi newid yn gyfan gwbwl.

Mae’r castio yn unionsyth yn ysgogi cwestiynau a dryllio y disgwyladawy gan taw menyw sydd yn chwarae Duw a hithau yn sgubo’r llawr mewn gwisg glanhawraig cyffredin, rhydd Kate Duchene bictiwr clir o rywun blinderus sydd yn cario pwysau’r byd ar ei hysgwyddau.

Roedd pawb ar y dechrau wedi’u gwisgo yn barod i barti Everyman yn 40. Rhesi o ‘Coke’ ar gael i’w snortio, digon i yfed a choregraffi Javier de frutos a oedd yn chwistrelliad o egni megis dawns gyda golau yn fflachio i bob cyfeiriad. Ond pan ddaw ‘Death’ (marwolaeth) yn  ffurf dyn (Dermot Crowley) mewn oferols ac yn cario bag siopa mae Everyman yn gorfod ceisio dianc rhagddo ac ail-asesu ei fywyd a’i le ynddo. Pan fo pawb wedi ei erlid a’i adael yn unig daw o hyd i ffrind ‘Knowledge’ (Penny Layden) sydd yn galluogi Everyman i wynebu marwolaeth.

Yn bendant credaf yn gryf fod cymeriad Everyman  yn symbol ohonom ni i gyd  a’r byd a’r gymdeithas rydym yn byw ynddi heddi. Pethau materol yn cymryd ein bywydau drosto.  Roedd “nid  aur yw popeth melyn’ yn dod i’r meddwl wrth i Everyman geisio gwario ei arian i greu hapusrwydd. Trychineb Everyman yw nid yn unig gweld arian fel datrysiad i bob broblem ond methu a gwynebu realiti y sefyllfa. Uchafbwynt y ddrama i mi yw cyfuniad dylunio Ian MacNeil, effeithiau goleuadau Paul Anderson ac effeithiau sain Paul Arditti i efylychu effaith swnami. Er nad oes dim i’w gymharu a gwir erchylltra y sefyllfa cafwyd ysgytwad gan ein bod ni yn rhannu dallineb Everyman pan adrodda y geiriau ‘I thought the earth was mine to spend’. Ffolineb llwyr.

Sgript hynod o ddiddorol a gafaelgar.  Roeddem wedi astudio gwaith Carol Ann Duffy yn yr ysgol pryd y sylweddolais ei bod yn hoff o themau benywaidd a bod  ei themau o safle bwysig menyw mewn cymdeithas yn dal i sefyll.. Amlygir hyn oherwydd taw menwy oedd Duw a hi oedd yn rheoli pawb. Gallem weld y bardd yn dod allan wrth i linellau rhythmig fy nharo i, i gydfynd ac awyrgylch y perfformiad, yn hollol rhythmig ac ail-adrodd geiriau.  A oes rhagrith wrth adrodd llinellau o’r Beibl allan? ‘Let there be light and let him see’ mewn ffordd i mi roedd Duw a Death yn gweithio gyda’i gilydd ac yn ceisio bod yn gyfeillgar.

Daliodd a chwaraeodd ‘Chiwetel Ejiofor’ y brif rol gyda’i holl egni. Fe wnaeth greu yr agwedd drahaus ofynnol i’r ddrama.  Er hyn llwyddodd i greu golygfa deimladwy dros ben wrth iddo wynebu ef ei hun yn ifanc. Y sgwter a’r cyfaddefiad posib bod ei fywyd yn un  hunanfoddhaus. Yr un modd wrth iddo ddychwelyd i ymweld a’i deulu ac iechyd ei rieni wedi dirywio yn gyfan gwbwl ond y fe yn hollol anwybodus gan ei fod yn byw bywyd i blesio’i hunan heb ystyried ei fod wedi gadael ei deulu ar ôl. Wrth i’r ddrama ddirwyn i ben hoffais y ffordd yr oedd Everyman a Death yn siarad trwy ddefnyddio geiriau lliwgar oherwydd dydy’r byd ddim yn flodeuog a hapus drwy’r amser. Y mae Ejiofor ar ei orau wrth ddangos y trawsnewid o ddyn hapus ei fyd i fod yn anwybodus o’i ddyfodol fel dyn a’r ôl derbyn ei dynged a’i ffawd. Yn eironig y mae yna debygolrwydd i hanes Paul yn y Beibl wrth iddo weld y goleuni yn dod o hyd i ddoethineb. Diddorol, er addaswyd y cynnwys, mae’r neges yn parhau.

Profiad hollol newydd o wylio ‘Live Stream’ yn bendant nid yr un olaf. Perfformiad hudol.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s