Cyn ysgrifennu yr adolygiad yma pendronais lawer am f’ymateb i’r perfformiad. Roeddwn yn ansicr am f’union feddyliau a’m teimladau. Cerddais allan o’r theatr gyda theimladau cymysg; yn bositif am yr actio ond yn negyddol am y newid cyfnodau parhaus a oedd yn creu dryswch meddyliol. Yn y darnau ymddangosiadol di-bwrpas o’r sgript roedd elfennau cofiadwy o gomedi a wnes fwynhau yn fawr. Yn anffodus nid oedd y rhannau hynny yn ychwanegu at ddatblygiad a thwf y ddrama.
Rydym yn byw ynghanol cyfnod Deddf rhyddid gwybodaeth gyda hawliau i’r cyhoedd fynnu gwybodaeth oddi wrth gyrff cyhoeddus ynghyd a rhwydweithiau cymdeithasol sydd yn ychwanegu at rannu gwybodaeth yn gyflym gyda chynulleidfa anferthol. Straeon pawb yn gyhoeddus gyda chlic o’r botwm ac mae’r byd yn gwybod. Ac eto dengys y perfformiad yma y modd y cydymffurfiodd gweithwyr Bletchly Park a gofynion Deddf Cyfrinachau Swyddogol nid yn unig adeg y rhyfel ond am ddegawdau a hyd yn oed gwyr a gwragedd ddim yn rhannu ei cyfrinachau a’u gilydd.
Y mae hanes Alan Turing yn wyddys i ‘r byd bellach. Rydym yn gwybod am ei gampwaith yn datrys enigma. Tynnwyd ein sylw at waith dynion a menywod deallus a gwybodus a oedd yn Bletchly park a’u cyfraniad hwy i ddatrys côd yr Almaenwyr. Dylid ystyried pe bai hyn heb ddigwydd a fyddai hanes ein gwlad yn dipyn gwahanol, er, ni gyfeiriwyd at hynny yn glir yn y ddrama. Credaf bod y ddrama wedi cyflwyno’r ffaith bod Alan Turing yn sensitif ac effeithiol iawn.
Yn syml stori am y Cod Enigma yw hon ond gyda haenau o straeon eraill yn gwau drwyddi. Cawn stori Gordon Welchman, un o’r bobl gwreiddiol yn y parc wrth iddo fwrw ati i ysgrifennu llyfr o’i brofiadau. Plethwyd i’r cynfas berson arall yn ceisio ysgrifennu drama ynglŷn a’r stori anhygoel yma ac i gwblhau y cynfas plethwyd stori am grŵp o bobl a oedd yn ceisio achub yr adeilad rhag crafangau BT. Cyfuniad diddorol ond ar adegau heriol iawn. Roedd prysurdeb y gwead yn creu cynfas cymhleth a chymysglyd. Roedd y dryswch yn cael ei uwch oleuo gan taw dim ond 6 actor oedd yn y perfformiad i gyd. Teimlais y byddai mwy o actorion wedi bod o gymorth neu colli un haen o’r stori neu llinyn o’r cynfas.
Gwirionais ar symlrwydd y set ar effaith silowet a oedd tu ôl y lliain gwyn a oedd yng nghefn y llwyfan! Roedd y props syml yn ychwanegu at greu y cyfnod ac hygrededd y ddrama, er enghraifft, yn stydi Welchman roedd bylb hen ffasiwn yn hongian o’r to. Chwaraeodd technoleg fodern rhan hanfodol i’r ddrama gyda y peiriant enigma yn cael ei daflunio ar y cypyrddau. Dywed straeon y bobl ar sain a ffilm a oedd yn cael ei taflunio. Roedd taflu llun ar ddrôr y cabinet ffeilio wrth agor y drôr yn greadigol a thrawiadol ac yn gwneud i ni holi ein hunain faint mwy o gyfrinachau oedd yn y cwpwrdd.
Fel y soniais roedd yna nifer o haenau i’r perfformiad. Roedd y statws cyfartal ymddangosiadol i ferched yn rhywbeth pwysig gan ei bod hwy yn chwarae rhan hanfodol yn y ‘War effort’. Edmygaf y cwmni am bwysleisio hyn yn ei perfformiad ac roedd perfformiadau cryf a gafaelgar y merched yn atgyfnerthu hyn. Ar ddiwedd y perfformiad roedd meddwl am y merched yn dychwelyd i fyd lle roeddent yn cael ei trin yn israddol i ddynion ar ddiwedd y rhyfel o reidrwydd yn anodd a thrist iddynt. Tybed sut wnaethant ymgodymu a hynny?
Cafwyd golygfa dirdynnol a sensitif i gyflwyno ac egluro rhywioldeb Turing, ‘I have other tendecies’ meddai wrth Lottie, moment a ddaeth a thawelwch llethol i’r theatr. Yn ddiddorol nid oedd y perfformiad yn canolbwyntio o gwbl ar ei rhywioldeb ond yn mawrygu ei waith fel gwyddonwyr a pha mor arwyddocaol oedd y gwaith yma.
Rhoddwyd tasg hynod o anodd i’r merched gan ei bod yn gorfod newid cymeriadau o fewn eiliadau i’w gilydd. Credaf taw Sophie Cullen oedd y mwyaf llwyddiannus o’r cymeriadau wrth iddi fynd o ferch ifanc diniwed i ddynes hŷn crintachlyd. Er nid hi oedd y cymeriad pwysicaf i’r ddrama dyma y perfformiad a wnes i yn bersonol fwynhau fwya gan ei bod yn gorfod newid acen yn gyfan gwbl. Camp aruthrol ac fe fydd y sgwrs ffôn gymhleth rhwng 3 person ynglŷn a’r brownies yn aros yn y cof am amser hir.
Drama afaelgar, er gwaethaf y dryswch cyfnod ar brydiau a fyddem yn hybu pobl i fynd i’w gwylio. Actorion hyblyg a llwyfannu celfydd.