Adolygiad Meleri Morgan o Lleuad yn Olau gan Arad Goch
Hwyangerddi, ffarmwr, tylwythen deg a llond lle o chwerthin. Dyma rhai o’r geiriau i ddisgrifio fy mhrofiad o wylio perfformiad llesmeiriol Llead yn Olau gan Arad Goch yn Theatr y Werin Aberystwyth. Cefais y profiad o wylio perfformiad a oedd yn addas i blant rhwng 6-12. Yng nghanol y plant ifanc a byrlymus a oedd yn bresennol cyfoethogwyd fy mhrofiad o wylio’r perfformiad. Gwyliais berfformiad arall gan Arad Goch ‘Oes Rhaid i Mi Ddeffro’ a oedd yn addas i blant iau ond yn anffodus nid oedd plant yn bresennol yn y perfformiad ac amddifadwyd ni o ymateb y plant sydd yn ychwanegu yn bositif at y mwynhad.
Roedd clywed plant yn sibrwd ‘mam ma’r ci ‘na’n ofnus’, ac yn gwaeddi’n uchel ei ymateb i sefyllfa neu darogan ar lafar beth oedd yn mynd i ddigwydd yn cadarnhau bod dychymyg y plentyn wedi’i ddeffro yn llwyddiannus ac yn f’atgoffa o’m mwynhad o ddarllen llyfr a oedd yn tanio fy nychymyg pan yn blentyn. Awr gyfan o fod yn blentyn ac yn myd dychymyg plentyndod heb boeni fod rhywun yn mynd i f’atgoffa fy mod nawr yn bedair ar bymtheg mlwydd oed!!
Taith a oedd yn dilyn Sion (Gareth Elis) wrth iddo ddarganfod ei ddychymyg trwy lygaid cymeriadau lliwgar yr awdur enwocaf i blant sef T.Llew Jones. Cafwyd chwistrelliad o olau newydd ar un o lyfrau mwyaf eiconig yr awdur..
Ensemble caboledig oedd y perfformiad rhwng y 5 actor a oedd yn rhoi egni a bwrlwm newydd i’r straeon cyfarwydd yma. Gwelwyd perfformiadau egniol gan pob un yn ddiwahan trwy’r perfformiad heb yr un eiliad lonydd.
Fe fydd portread Huw Blainey o’r ci yn aros yn y cof am amser hir yn arbennig ffyrnigrwydd yn y llais yn ogystal a’r osgo corfforol. Fy hoff stori oedd yr hen stori o’r ffarmwr a’i wraig yn cyfnweid roliau gyda Llyr Edwards yn meistroli yr elfen o gomedi yn penigamp heb fynd dros ben llestri. Roedd clywed y plant yn rowlio chwerthin yn cadarnhau, heb unrhyw amheuaeth, fod y portread wedi plesio’n fawr.
Y rhinwedd bwysica’ yn y perffromiad oedd yr annogaeth i blant i agor drws dychymyg a pheidio ei gau. Mae gan bawb stori i ddweud a dylid ei rannu gyda eraill.. Mae’n rhan bwysig o blentynodod. Y mae hefyd yn meithrin dawn y Cyfarwydd. A pha well ffordd o ddathlu camlwyddiant geni ‘Brenin Dychymyg’ na ymestyn ei neges i blant Cymru. Edmygaf Arad Goch am greu perfformiad llwyddiannus a oedd yn defnyddio cynnifer o cyfnewidiadau rhannau a roliau a fedrai, mewn dwylo llai medrus, ddrysu plant. Ond yma roedd ysgafnder ac ystwythder y dweud yn cyfleu y stori yn hollol eglur i’r gynulleidfa (o bob oed). Roedd y dewis o gerddoriaeth yn gymorth i gyfleu y stori a chreu naws storiol yn enwedig felly gyda rhythm bendant i’r ddawns ar y llwyfan. Roedd chwarae penigamp gan Lynwen Haf Roberts.
Er fy mod yn fy arddegau hwyr pleser a mwynhad oedd mynd i weld y perfformiad yma ac ymuno i fewn yn hwyl dychymyg Plant Cymru. Gwisgais sbectol dychymyg plentyndod yn y theatr ac roedd yn brofiad cofiadwy.
Plethwaith o ganu, dawnsio actio a cherddoriaeth wedi’i glymu yn un cyfanwaith celfydd.