‘To Kill a Machine’ – Adolygiad gan Meleri Hicks

Yn syml , roedd ‘To Kill a Machine’ yn ddrama oedd â sgript rhagorol, a chynhyrchu a chyfarwyddo gwych a lwyddodd i greu perfformiad hollol hudol.
Ar ôl i’r perfformiad orffen, gadewais Arad Goch gyda nifer o gwestiynau am y plot, cymeriadau a’r naratif. Rhannais rhain gyda’m ffrindiau. Yn syndod i mi, roedd gan pob un ohonom syniad gwahanol ac unigryw o’r ddrama. Felly fe benderfynais edrych ar synopsis y ddrama gan yr awdures– Catrin Fflur Huws – er mwyn cael gwell dealltwriaeth ohono, yn ogystal â beth oedd ei bwriad hi ynglŷn a’r berthynas rhwng y gynulleidfa a’r naratif. Ar y wefan tokillamachine.co.uk, mae synopsis clir a dealladwy o’r ddrama: ‘Y mae ‘To Kill A Machine’ yn adrodd hanes bywyd y cel-ddadansoddwr Alan Turing. Y mae’n stori am bwysigrwydd gwirionedd a phwysigrwydd cadw a datgelu cyfrinachau. Drwy ddadansoddi ei waith arloesol ar allu peiriannau i feddwl, holwn beth yw’r gwahaniaeth rhwng person a pheiriant, ac os na chaiff person yr hawl i’w feddyliau a’i deimladau, ai peiriant ydyw?’ Felly, mewn mwy nag un ffurf, fe wnaeth Catrin drwy gydol y ddrama palu cwestiynau i’r gynulleidfa ynglŷn â phwysigrwydd a hunaniaeth y peiriant. Yr oedd y naratif a’r plot yn cael ei greu gan Catrin, ond swydd y gynulleidfa oedd ceisio plethu’r cwestiynau posibl ynglŷn a’r ‘peiriant’ yma mewn i’r naratif.

Cafodd y ddrama ei berfformio yng Nghanolfan Arad Goch yn Aberyswyth, lle roedd y llwyfan yn agos i’r gynulleidfa. Fe wnaeth hyn ychwanegu at lwyddiant y sioe, drwy sicrhau bod y gynulleidfa yn teimlo’r agosatrwydd rhyngddyn nhw a’r cymeriadau. Roedd y set yn un syml ond eto’n unigryw. Yng nghanol y llwyfan, roedd platform du a gwyn, yn debyg i’r gem chess. Ar ben hynny, roedd peiriant wedi’i hadeiladu arno. Dyma oedd prif ganolbwynt y ddrama. Ar yr ochrau, roedd meinciau, lle gwnaeth y pedwar actor eistedd wrth aros am yr olygfa nesaf. Ni newidiodd y set, a ni wnaeth yr un actor adael y llwyfan trwy gydol y perfformiad.
Roedd y newid o’r golygfeydd rhwng Alan yn adrodd ei drafferthion a’r ‘Imitation Game’ yn slic ac yn syml iawn. Er mwyn gwahaniaethu’r golygfeydd, roedd cerddoriaeth cefndir mwy amlwg a golau llachar iawn ar gyfer yr ‘Imitation Game’ er mwyn cyfleu’r stiwdio. Profodd hyn nad oes angen cael newid set enfawr er mwyn cynrychioli lleoliad newydd yn ystod sioe.

Yr hyn a safodd allan i mi drwy wylio’r ddrama oedd sut gwnaeth yr actor Gwydion Rhys bortreadu’r cymeriad Alan, a oedd yn gymeriad swil, diniwed ond ddryslyd ar yr un pryd. Rydym yn cael ein harwain trwy drafferthion Alan i ryngweithio ag eraill, ac i gadw i fyny gyda disgwyliadau ei dad. Fe wnaeth Gwydion bortreadu’r dyn cythryblus a’i obsesiwn â’r ‘peiriant’ yn berffaith ac mewn ffordd sy’n dal dychymyg y gynulleidfa wrth ein tywys drwy’r broses creu.

‘You don’t think like other people do you?’ – Gordon yn gofyn i Alan.

Mae diniweidrwydd cymeriad Alun yn cael ei ddatgelu drwy’r hiwmor ysgafn yn y sgript, megis pryd mae Alun yn trafod mynd lawr Oxford Road efo Arnold ‘It’s cold in the winter’. Mae’r llinell gan frawd Alun, John yn crynhoi diniweidrwydd Alun i’r dim, ‘Alun, my stupid clever brother. What have you done?’

Trwy gydol y ddrama, mae popeth sy’n cael ei ddweud gan Alan yn ymwneud â chreu’r ‘peiriant’ perffaith. Erbyn y diwedd, mae’n dod yn obsesiwn lle mae Alan yn galw ‘I want my mind back. I’m not myself..’ Mae cymaint o gyfeiriadau at y peiriant yn ystod y ddrama, sydd yn gorfodi ni i gwestiynu a’i Alan ydi’r peiriant yma mewn gwirionedd? Efallai ei fod yn cuddio y tu ôl i’r syniad o greu’r peiriant lle mewn gwirionedd, efe sydd yn cael ei weld fel y peiriant? A yw’n ceisio ‘ail-adeiladu’ ei hun mewn ffordd sy’n berffaith ar gyfer plesio pobl eraill ? Mae Alan yn cwestiynu ‘Do you think I’m odd – that I don’t fit in?’. Ond yna, mae’n meddwl am swyddogaeth y peiriant ‘Do you think a machine can think?’ Ydy Alan yn creu pwrpas a hunaniaeth i’r peiriant, neu hyd yn oed iddo ef ei hun?
Ar ddechrau’r ddrama, mae tad Alan yn ei gymharu efo’i frawd John. Gwelwn Alan yn esbonio nad yw’n gwrando yn y dosbarth am fod dim byd heblaw mathemateg o ddiddordeb iddo. Yn wrth-gyferbyniol i hyn, roedd John yn cael llwyddiant ymhob dosbarth, i lawenydd ei dad. Felly, roedd hyn yn agor cwestiwn arall, pan ddwedodd Alan ‘A machine is fixed…a machine obeys the rules.’ Odi’r peiriant yn cynrychiolaeth y person perffaith, megis John? Ac efallai y person delfrydol yr hoffai tad Alan iddo fod?

Yr olygfa a wnaeth sefyll allan mwyaf i mi oedd yr olygfa rhyw rhwng Alan ac Arnold. Gydag unrhyw olygfa rhyw yn y theatr, mae’n risg enfawr. Gyda dau ddyn yn cymryd rhan – gallai fynd naill ffordd neu’r llall. Yr oedd hyn yn ddewis dewr iawn gan Catrin i gynnwys hyn yn y sgript, ond teimlaf fod hyn wedi ychwanegu at ddiniweidrwydd Alan. Roedd y gynulleidfa yn cynnwys pobl o’r genhedlaeth hŷn, nid oedd unrhyw chwerthin neu sibrwd lletchwith fel y byddech yn disgwyl gan gynulleidfaoedd iau. Cafodd yr olygfa ei thrin mewn modd aeddfed, heb iddo fynd ymlaen yn rhy hir a dros ben llestri.
Credaf nad oedd y ddrama hon yn fath o ddrama lle rydych yn gallu ymlacio efo’r digwyddiadau yn cael ei adrodd yn syml i’r gynulleidfa. Yn hytrach, teimlaf yr oedd hi’n ddrama lle’r roedd rhaid i chi feddwl yn ofalus a bod yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau a chysylltiadau newydd a allai fod yn ddefnyddiol i weddill y ddrama. Mi fydd dehongliad a chynrychiolaeth pob person o’r peiriant yn wahanol, sydd yn ychwanegu at grefft arbennig Catrin fel dramodydd.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s