Ballet Cymru – Adolygiad gan Nannon Evans

Ballet Cymru, Cerys Matthews a Catrin Finch. Beth sydd gan y tri enw adnabyddus yma yn gyfarwydd? Un perfformiad anhygoel a gafodd ei gynnal yn Theatr Sherman Cymru yr wythnos diwethaf.

Hen alawon Cymreig a ganodd Cerys Matthews yn yr hanner gyntaf yn cyfeilio gyda’i gitâr, gyda Ballet Cymru yn dawnsio i gyfeiliant ei llais crasfeddal a’i gitâr felfedaidd acwstig. Fe ganodd Cerys Matthews ystod eang iawn o ganeuon; rhai trist ac araf fel ‘Ar hyd y nos’, a rhai chwareus a digri fel ‘Bachgen bach o dincer’. Yn wir, dehonglodd Ballet Cymru y geiriau i’r caneuon yma mewn symudiadau hyfryd, gwahanol a chynnil. Nid oedd y symud yn uniongyrchol ac yn llythrennol i’r geiriau o gwbl, sydd yn dangos pam y mae’r cwmni arbennig yma yn haeddu’r statws Cenedlaethol.

Roedd y cyfeillgarwch yn amlwg iawn rhwng y dawnswyr a Cerys Matthews, felly sicrhaodd hyn naws ymlaciedig a chyfforddus yn y Theatr. Yn ogystal â chael profi ballet ar ei orau, fe gafon ni wers hanes ar yr holl ganeuon a ganodd Cerys Matthews. Er fy mod i’n gyfarwydd â rhan fwyaf o’r caneuon, roedd darganfod yr hanes tu ôl i bob un yn brofiad diddorol tu hwnt. Llwyddodd hyn i roi dimensiwn arall ar y dawnsio, ac i ddod a’r caneuon yn fyw. Felly rhaid dweud fod hanes a storïau Cerys Matthews yn helpu’r dawnsio a bod y dawnsio yn helpu caneuon Cerys Matthews ymddangos fel fy mod i’n clywed y caneuon am y tro cyntaf.

Fy hoff ddawns gan Ballet Cymru oedd eu dehongliad o’r emyn enwog Calon Lân. Roedd y ddawns yn llawn emosiwn a hapusrwydd. Daeth deigryn i’m llygaid wrth i’r gynulleidfa o bob oedran ymuno mewn yn y canu, roedd awyrgylch hollol unigryw yn y Theatr, awyrgylch na fuais erioed yn rhan ohoni o’r blaen. Ar ddechrau’r perfformiad, roedd golau sbot ar bob un dawnsiwr, felly o’r cychwyn cyntaf cafon ni ragarweiniad ar bob dawnswr mewn ffordd glir a chreadigol. Elfen arall yr oeddwn i’n hoff iawn ohoni oedd bod gan bob cân ddawnswr/wraig wahanol, er ei fod yn nodwedd syml iawn i hoffi, roeddwn yn cael fy nghyffroi bob tro y daw rhywun newydd i’r llwyfan ac felly ychwanegodd hyn ysgafnder ac amrywiaeth i’r perfformiad.

. Wrth i mi fentro mas ar ôl yr hanner cyntaf gwefreiddiol, roeddwn yn ddrwgdybus os byddai Catrin Finch yn gallu cynnig yr un ysgafnder a hwyl a gynigodd Cerys Matthews. Ond, yn ffodus iawn i ni fel cynulleidfa, roeddwn i’n hollol anghywir. Fe gynigodd Catrin Finch ddeinameg hollol wahanol ond hudolus a rhyfeddol i ni gyda’i chyfansoddiad newydd, Celtic Concerto. O ganlyniad i’r dawnsio gwefreiddiol ychwanegwyd prysurdeb a dyfnder i’w chyfansoddiad arbennig, roedd e fel petawn ni’n gwylio dau berfformiad gwahanol ar yr un llwyfan. Yr oedd y bartneriaeth o ballet a cherddorfa Sinfonia Cymru yn syfrdanol, yn enwedig pan fyddai’r glissando y delyn a neidiadau y dawnswyr yn cyd-fynd a’i gilydd. Er bod llawer llai o gyfathrebu yn yr ail hanner, yn sicr roedd y gerddoriaeth llawn ac anhygoel a’r dawnsio addfwyn yn siarad dros eu hun.

Ar ôl profi noson mor rhamantus a hwyliog gellir dweud fod Cerys Matthews, Catrin Finch a Ballet Cymru yn gyfuniad ysblennydd o dalentau.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s