GESUNDHEIT! – Adolygiad gan Naomi Seren Nicholas

Gan ‘VanHuynh Company’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth – 30ain o Ebrill 2015

Gosoda’r llwyfan crwn awyrgylch personol a chlyd i’r perfformiad. Teimlais fy mod wedi fy nerbyn i’r cylch am wledd 360˚ o ddawnsio a cherddoriaeth. Symuda’r perfformwyr o amgylch y gwagle crwn fel bysedd cloc, gan sicrhau fod pawb yn yr eisteddle’n cael blas ar brofiad trydanol dwys Gesundheit!

Bysedd Jamie Hamilton wrth y bwrdd sain oedd y gyfrifol am gynnal yr awyrgylch electronig a byddarol. Trwy ychwanegu llyrgyniad at boeri geiriau, chwibanu ac anadlu trwm yr actorion llwyddodd y dewin seinyddol greu awyrgylch cyfoes a phigog.

Fferrodd fy ymennydd wrth wrando ar y llinell ‘row upon row’ dro ar ôl tro. Wedi pum munud ailadroddus roedd y geiriau’n ddiystyr ac yn ddim ond cytseiniaid gwag. Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd y perfformwyr yn rhaffu llinellau rhythmig fel ‘not, knot, knotting, knotted, needing, need…’ Rownd ddwys ond effeithiol o’r ‘word association game.’

Rhwydd a llyfn fel rhaeadr – dyna oedd yr elfennau corfforol. Roedd y dynion yn feistri ar reoli bob cymal o’u cyrff. Roedd y cydsymud yn ddi-nam a chryfder y ddau yn athletaidd ond cain.

Yn aml roedd yna waith deuawd corfforol i gyfeiliant llais Elaine Mitchener. Hoffais yn fawr Elaine fel goruchwyliwr a’r dynion yn perfformio. Roedd presenoldeb ymylol Elaine yn fy atgoffa eto o lwyth brodorol. Roedd y dynion fel pe baent yn cystadlu fel dau baun (peacock) am gydnabyddiaeth ganddi.

Roedd cyfres o gwestiynau yn rhedeg fel islais drwy’r perfformiad. Beth pe bawn i’n torri’n ddarnau? Yn malu’n deilchion fel cwarel o wydr brau. Beth pe bawn i’n anghofio ei wen, ei arogl, ei lais? Ai teimlad rhyfedd yw gadael i rywun adael? Roedd y cwestiynau’n fy atgoffa’n fawr o alar, a’r gofid ym mhen misoedd o anghofio ffurf yr un a bu farw.

Er imi fwynhau’r perfformiad yn rhannol. Rhaid cyfaddef, ffarweliais â Stiwdio’r Ganolfan wedi drysu. Pam oedd y ferch yn tynnu ei phenwisg a’i hesgidiau? Cyfleu crefydd oedd bwriad yr ystum tebyg i weddïo ar fatiau Mwslimaidd? A beth oedd pwrpas y clo sydyn annherfynol?

Ond Y marc cwestiwn pennaf imi oedd y teitl: Gesundheit! Wedi gwaith ymchwil mae’n debyg mai rhyw ‘fendith’ neu ‘bless you’ Almaeneg yw ystyr yr ebychiad.

Er, ar ôl meddwl, mae’n bosib bod y teitl yn gweddu’r perfformiad. Mae’r ebychiad Gesudheit! Yn goron ar fy niffyg dealltwriaeth o’r perfformiad. Nid oedd y perfformiad yn sefyll ar ei draed ei hun. Bu’n rhaid imi ddarllen y rhaglen cyn deall mai darn am ddadfail perthynas oedd hwn. Yn amlwg nid oedd cyrff y tri yn cyfathrebu’n ddigon clir imi allu dehongli na deall sail y perfformiad. Cefais fy ngadael yn y niwl gan Gesundheit!

 

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s