‘An Inspector Calls’ gan Tin Shed Theatre Co. – Adolygiad gan Meleri Hicks

‘An Inspector Calls’ – drama digon cyfarwydd ac adnabyddus i nifer erbyn heddiw mae’n siŵr. Fe gefais i’r cyfle i astudio’r ddrama hon ar gyfer fy arholiad Llenyddiaeth Saesneg adeg TGAU, felly cyn y perfformiad roeddwn i’n gyfarwydd iawn efo’r cymeriadau, plot a naratif. Serch hynny, teimlais gyffro cyn y perfformiad yma yng Nghanolfan y Celfyddydau, yn meddwl sut fyddai ‘Tin Shed Theatre Co.’ yn medru addasu’r ddrama i’r gynulleidfa fodern.

Yn syml, mae’n ddrama yn tywys y cymeriadau trwy noson hwyliog mewn cartref teuluol dosbarth uwch, noson sy’n cael ei darfu gan ddyn sy’n cyfwyno ei hun fel ‘the inspector’, gan ddatgan ymholiadau am hunanladdiad merch ifanc. Yn ei tro, mae pob aelod o’r teulu yn cael ei holi gan yr arolygydd, ac rydym yn sylweddoli yn fuan iawn bod pawb wedi chwarae rhan hanfodol mewn marwolaeth Eva Smith.

Credaf bod y set yn llwyddiannus ac yn cadw at y cyfnod, sef 1912. Cafodd y ddrama ei leoli yng Nghartref Burling efo’r gwrthrychau yn cyd-fynd gyda’r cyfnod a dosbarth y teulu. Roedd gan y bwrdd ar ochr dde’r llwyfan gwpanau ffansi; cadair a ffôn, ac roedd drws yng nghanol y llwyfan. Y drws ei hun oedd yr elfen bwysicaf o’r set. Doedd dim llawer o olau, a oedd yn cyd-fynd gyda’r naws o ddirgelwch a’r tyndra rhwng y cymeriadau. Wrth i’r gynulleidfa ddod i mewn i’r theatr, fe welsom Sheila, Arthur, Civil, Gerald ac Eric wrth y bwrdd yn barod, heb yr un symudiad rhyngddynt. Yna, pan ddaeth hi’n amser i’r perfformiad ddechrau, daeth y forwyn at y bwrdd ac ail-drefnwyd bob aelod o’r teulu, fel pe baent yn bypedau. Roedd hyn fel petai yn arwydd o beth oedd i ddod, efo’r arolygydd yn ‘rheoli’r’ holl deulu efo’i eiriau o bosib.

Trwy edrych yn ôl ar y perfformiad, fe lwyddodd y cwmni – ar lefel sylfaenol – i reoli’r cywirdeb dramatig o’r dechrau i’r diwedd, drwy gymysgu dieithrwch yr Arolygydd gyda naturoliaeth yr achos dirgel o hunanladdiad Eva Smith. Trwy’r cymeriadau mae themâu cryf JB Priestley o gyfrifoldeb a phwysigrwydd cymuned yn dod yn amlwg.

I unrhyw sydd yn adnabod y ddrama yn dda, byddant yn gwybod sut mae presenoldeb yr arolygydd yn newid dynameg y teulu. Cyn i’r arolygydd ddod trwy’r drws, mae’r teulu yn dathlu dyweddïad Gerald a Sheila a phosibilrwydd Burling o gael ‘knighthood’. Fe wnaeth Sheila hyd yn oed ddweud ‘I’ll never let it out of my sight’ wrth gymryd y fodrwy. Cafodd y ‘teulu hapus a pherffaith’ ei bortreadu yn berffaith ac argyhoeddiadol. Pan ddaeth yr arolygydd i mewn i’r tŷ, fe welwn yn fuan y craciau yn dod i’r amlwg drwy’r aelodau. Fe ddechreuodd yr arolygydd drwy gwestiynu Burling am ei berthynas gyda Eva. Yn y ddrama, mae’r arolygydd yn cael ei weld fel person sydd a’r presenoldeb mwyaf ar y llwyfan, ac o bosibl yr awdurdod mwyaf. Ei nod yw dychryn a bygwth y teulu. Yn y cynhyrchiad yma, teimlaf nad oedd hyn wedi’i bortreadu ddigon. I mi; doedd yr arolygydd ddim digon brawychus. Fe ddywedodd Burling wrth yr arolygydd ‘I don’t like your tone’, i geisio stopio’r arolygydd weiddi arno. Yn eironig, roedd tôn ei lais yn hamddenol iawn. Yn fy marn i doedd o ddim digon ffyrnig a doedd gan aelodau’r teulu ddim digon o ofn ohono.

Y cymeriadau mwyaf argyhoeddiadol yn y perfformiad oedd Sheila a Gerald. Mae’r ddau yn portreadu perthynas hapus a chariadus ar ddechrau’r perfformiad, a oedd yn cyferbynnu a’u perthynas ar y diwedd, lle ddywedodd Sheila ‘You and I aren’t the same people who sat down’ ac yn rhoi’r fodrwy yn ôl. Teimlodd y gynulleidfa’r tensiwn rhwng y ddau wrth drafod perthynas Gerald gyda ‘Daisy Renton’, a chlywsom y boen yn llais Sheila. Sheila yn amlwg oedd yn teimlo mwyaf euog, a chafodd ei bortreadu yn rhagorol gan yr actores. Hi oedd yr un a wynebodd ei chyfrifoldeb am farwolaeth Eva Smith fwyaf, sydd yn cyd-fynd efo araith Burling ar y dechrau, sef ‘Everyone must face up to their responsibility’ – sy’n eironig gan bod Burling yn gwrthod cydnabod neu cymeryd cyfrifolodeb am farwolaeth Eva. Pan welwn Gerald yn trafod Daisy Renton, teimlais y boen yn ei lais, yn enwedig pan ofynnodd Sheila os oedd ef mewn cariad â hi. Mae hyn yn wahanol i’r Gerald a welsom ar y dechrau, lle mae’n brolio am fusnes a’i statws yn y gymuned gyda Burling. Yma mae’n cael ei weld yn wan ac yn unig.
Sylwais ar adegau y tueddiad i’r actorion or-actio, a oedd yn gwneud i mi deimlo bod y symudiadau a’r geiriau yn cael eu gorfodi. Weithiau roeddwn yn teimlo fel fy mod i’n gwylio darn ymgom yn yr Eisteddfod, yn enwedig yn y darn lle roedd Civil ac Eric yn gweiddi ar ei gilydd. Roedd y gynulleidfa yn chwerthin, er ei fod yn rhan difrifol o’r ddrama.
Hoffwn weld llawer mwy o densiwn rhwng Burling a’r arolygydd efo’u brwydr i gael awdurdod. Collodd Burling ei acen ychydig o weithiau yn ystod y perfformiad , lle wnaeth y gweddill ei gynnal yn llwyddiannus – yn enwedig y fam, Civil. Yn ogystal a hyn, roedd Burling yn aml yn gweiddi ei linellau, a oedd yn teimlo fel ei fod yn mynd dros ben llestri.
Er fy mod i’n ymwybodol o’r canlyniad terfynol, fe lwyddodd yr actorion i swyno’r gynulleidfa i mewn i’w bywydau. Ar ddiwedd y perfformiad, roedd y gynulleidfa yn cwestiynu pwy oedd yr aelod mwyaf euog yn y teulu. Cawsom ein gadael gyda ‘cliffhanger’, a’r teulu yn derbyn galwad ffôn bod merch wedi marw. Mae’r actorion yn llwyddo trwy wneud i ni gwestiynu os oedd arolygydd yn bodoli, ac hefyd yn gwneud i ni feddwl bod miliynau o Eva Smith’s yn y byd. Er hyn, cefais fy siomi’r gyda’r ‘cliffhanger’ yn ystod yr egwyl gan nad oeddwn yn teimlo ar frys i wybod mwy.

Felly, mewn termau syml, yr oedd perfformiad ‘Tin Shed Theatre Co.’ o ‘An Inspector Calls’ yn un ddigon pleserus i’w gwylio. Roedd y perfformiad yn addasiad o’r hyn a ddarllenais yn y ddrama wreiddiol, a weithiodd yn llwyddiannus iawn. Fe lwyddodd yr actorion bortreadu’r teimladau gwahanol o euogrwydd rhyngddynt yn anhygoel, sy’n bwysig iawn yn y math yma o ddrama.  Un peth amharodd ar fy mhrofiad yn y Theatr oedd bod disgyblion ysgol yn y gynulleidfa oedd yn chwerthin ar ddarnau oedd i fod o ddifri. Efallai dylai’r ganolfan gynnal perfformiad ar gyfer disgyblion ysgol yn unig.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s