‘The Harri-Parris: The big day’ – Adolygiad gan Nannon Evans

Hilêriys. Un gair y byddai’n disgrifio fy mhrofiad o fynd i weld y sioe The Harri-Parris: The Big Day gan Llinos Mai. Cyn i’r gynulleidfa gamu i fewn i Theatr Chapter yng Nghaerdydd cynnigwyd rhyw bapur bro gwych i ni yn rhoi blas ar beth oedd i ddigwyl o’r perfformiad. Ysgrifennwyd y papur bro mewn arddull fel petai rhywun wedi recordio dwy hen fenyw yn hel clecs, felly teimlais bod y perfformiad wedi dechrau cyn i’r sioe ei hun ddod ar y llwyfan, rhywbeth a oedd yn lwyddiant cynnil ac effeithiol iawn i mi.

Cymerodd y sioe ei le yng nghegin gartrefol y teulu yn Llanllai yng Ngorllewin Cymru, lle gafon ni’r cyfle i gwrdd â chymeriadau lliwgar y teulu Harri Parri. Rhaid dweud roedd y set wedi ei greu yn berffaith. Fe lwyddodd Dickie Dwyer, y cynllunydd set i gyfleu cegin traddodiadol Gymreig i’r dim wrth roi bwrdd mawr yn llawn bwyd, y dreser yn llawn platiau Cymreig, y piano a’r casgliad trawiadol o rosets y Sioe Frenhinol yn y set, golygfa cyfarwydd iawn i Gymry cefn gwlad.

Plot y stori oedd bod Anni Harri Parri (Llinos Mai) yn priodi â bachgen ifanc, Ben (Oliver Wood) o Fanceinion. Nid yn unig roedd y bachgen yma yn Sais, ond fe ddaeth i’r amlwg ei fod e’n graphic designer, mewn band o’r enw Puppy Phat ac yn waeth na’r cyfan yn Vegeterian. Yn sicr, nid y math yma o berson yr oedd Glenda, y fam ecsentrig cariadus (Rhian Morgan), Deiniol, y cefnder self appointed wedding planner (Rhys Trefor) ac Ifan, y brawd cadarn bygythiol yn ei ddisgwyl. Felly fel y byddwch ddychmygu nid oedd Y Diwrnod Mawr mynd i gyrraedd heb ychydig o ddrama.

Er bod plot y stori yn un syml ac ychydig yn bantomeimaidd, nid oedd y comedi yn cyfateb i hyn. Yn y ddrama hon fe gafon ni brofi comedi Cymreig cynnil a chlyfar. Fe lwyddodd Llinos Mai greu rywbeth doniol allan o rywbeth sy’n hollol naturiol i ni’r Cymry er enghraifft dweud “tara, tara, tara,tara, tara” wrth ffarwelio ar y ffon, rhywbeth a berfformiodd Rhian Morgan yn arbennig o dda a doniol tu hwnt. Roedd cymeriadu pob un aelod o’r teulu yn berffaith, er eu bod nhw’n efelychu ystrydeb Gymreig dwi wedi eu gweld a’u hadnabod o’r blaen, roedd cymeriadu yr actorion yn sicrhau eu bod nhw’n wreiddiol ac yn unigryw.

Nid yn aml yr ydych yn cael y cyfle i weld cwmni theatr proffesiynol yn perfformio sioe gerdd newydd, a gellir dweud ar ôl profi llwyddiant Harri Parris mae’n sicr fy mod yn awchu i weld mwy gan y cwmni theatr Mai oh Mai. Lwcus fod BBC Wales wedi gofyn i Llinos Mai ysgrifennu cyfres radio yn dilyn hynt a helynt y teulu o Lanllai. Nid yn unig bod yr actorion yn canu ac actio, nhw hefyd oedd yn creu y gerddoriaeth ar lwyfan. Cefais fy syfrdanu gan cymaint o offerynnau roedd yr actorion yn gallu eu canu. Wrth ganu a chwarae y gitar/bas/drymiau/trwmped/piano/accordian fe lwyddodd pob un ohonynt drosglwyddo eu cymeriadau hoffus i ni trwy gydol yr holl ganu a dawnsio. Fy hoff gân gan y cast oedd rap Rhian Morgan am y gwahaniaeth amlwg (?) rhwng Merched y Wawr a’r Womens Institute. Er nad oedd alaw y caneuon yn hollol arbennig, cyfansoddwyd one liners ysblennydd oedd yn ddigon i roi chi yn eich dyblau. Roedd yr amrywiaeth o arddulloedd caneuon yn anhygoel o ddoniol, doedd gen i ddim syniad beth i ddisgwyl nesaf gan y teulu unigryw o orllewin Cymru.

Erbyn diwedd y sioe, roeddwn i’n teimlo mor falch ohonynt i gyd am lwyddo i ddod at ei gilydd i ddathlu cariad Anni a Ben er gwaethaf yr holl ymladd, roeddwn i eisiau mynd i’r briodas gyda nhw! Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw clust yn agored wrth wrando ar Radio Wales yn yr wythnosau nesaf rhag ofn i chi allu cael y profiad unigryw o gwrdd â theulu mwyaf doniol, cariadus ac od Cymru, yr Harri Parris.

 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s