‘Crouch Touch Pause Engage’ – Adolygiad gan Mared Llywelyn

Cynhyrchiad gan National Theatre Wales.

Ym mis Rhagfyr 2009 Gareth ‘Alfie’ Thomas oedd y person cyntaf ym myd Rygbi rhyngwadol i gydnabod ei fod yn hoyw. Yn ôl y sôn bu newyddiadurwyr yn bygwth dadlennu ei gyfrinach am flynyddoedd, ac roedd yr elyniaeth tuag at wrywgydiaeth yn y diwylliant chwaraeon wedi ei yrru at geisio cyflawni hunanladdiad. Yn y ddrama hon gan Robin Soans a chydweithrediad National Theatre Wales, Arcola Theatre a Chwmni Out of Joint cawn glywed am frwydr ‘Alfie’ i geisio dygymod â’i helbul mewnol. Cydweithredodd y dramodydd â phobl ifanc o’r cymoedd a gydag Alfie ei hun wrth greu’r sgript, ac mae’r hygrededd yna yn amlygu ei hun yn y testun.

‘I f***ing breathe the fact I’m from Bridgend. I’m more proud of that than anything else in my life.’

Mae deialog agoriadol yn rhoi amcan go lew i’r gynulleidfa sut fath o berfformiad sydd o’u blaenau. Amrwd, doniol a gonest. Mae’r ffaith i Ben-y bont ar Ogwr gael ei enwi yn y linell gyntaf yn dangos rhan arwyddocaol yn y ddrama ar ddwy lefel. Am y ffaith i dref enedigol fod yn ran annatod o’r chwaraewr rygbi Gareth ‘Alfie’ Thomas, a’r ffaith iddo fod yn anenwog am nifer helaeth o hunanladdeidiau ymysg pobl ifanc yn eu harddegau, ac mae Robin Soans yn plethu’r ddwy stori- stori Alfie a stori dwy ferch cythryblus o Ben-y- bont ar Ogwr, a sut daethant allan o’u gwewyr personol.

Ystafell loceri oedd sylfaen y set, ond roedd yr actorion yn trawsnewid yr ystafell yn llwyddiannus iawn i leoliadau eraill megis ystafell ddosbarth, ward ysbyty ac ystafell fyw rhieni Alfie. Rhaid canmol y chwe actor egniol wrth iddynt lithro i mewn ac allan o wahanol gymeriadau, ac oll yn eu tro yn portreadu Alfie ei hun hefyd. Gwnaeth hyn i mi feddwl bod mwy nac un ochr i’w gymeriad, a sut fyddai Alfie yn ceisio ffoi oddi wrth ei hunaniaeth a’r sylweddoliad ei fod yn hoyw. Effeithiol dros ben oedd y steil Brechtaidd o berfformio, a’r cyswllt uniongyrchol a oedd rhwng y cast a’r gynulleidfa, rhoddodd awyrgylch agos-atoch ac annwyl i’r perfformiad- yn union fel swyn a chymeriad Alfie.

Dyma ddrama sy’n ymdrin â phynciau dwys ac mae sawl golygfa trwm, ond chwerthin trwy grio yr oeddwn i, a rwy’n siŵr mai hynny y gwnewch chwithau hefyd. Rwy’n falch bod ysbryd unigryw y cymoedd yn bresenoldeb gref iawn ar y llwyfan, bron fod yr ysbryd hwnnw yn gymeriad ynddo’i hun.

Camp fawr oedd ceisio deifio’n ddwfn i galon y ddwy stori yma, ond stori Alfie wnaeth fy nghyffwrdd fwyaf. Efallai bod y ddwy stori yn rhy ddeifiol i wneud cyfiawnder â hwy mewn drama dwy awr, ac roedd ymdeimlad bod y stori yn cael ei hadrodd i ni, nid ei dangos.

Er hynny roedd Canolfan Celfyddydau Aberystwyth yn llawn dop, ac nid wyf yn amau bod hon yn ddrama sydd wir yn werth ei gweld. Rhaid edmygu dewrder a dyfalbarhad y cawr addfwyn o Ben-y-bont ar Ogwr, ac wedi’r cyfan:

‘If you’re the first to do something, you have to be prepared to take the sh*t for it.’

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

w

Connecting to %s