Wedi i mi adael Canolfan Y Celfyddydau ar ôl gwylio cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Y Fenyw Ddaeth o’r môr’, fe benderfynais yn syth i ysgrifennu’r geiriau cyntaf a ddaeth i’m mhen. Tro yma, ni wnes i ysgrifennu nodiadau trwy’r perfformiad. Drwy wneud hyn, fe sylweddolais pa mor ddylanwadol oedd y perfformiad wedi i mi adael y theatr. A wnes i brofi unrhyw beth gwahanol yn sgîl y perfformiad? ‘Cyfiaethiad uniongyrchol’. ‘Drama wedi’i dyddio’.
Yn wir, dyma’r hyn y wnes i ei ysgrifennu yn gyntaf wedi i mi adael. Mae’r ddrama ei hun yn un glasurol gan Ibsen a’i hysgrifennodd ym 1888. Cefais i’r cyfle i astudio’r ddrama yn ystod fy Lefel A yn y chweched dosbarth, felly roeddwn i’n gyfarwydd iawn efo naratif a chymhlethdod y cymeriadau. Dyma’r tro cyntaf i’r ddrama gael ei chyfiaethu i’r Gymraeg, ac felly roeddwn i’n awyddus iawn i brofi crefft Menna Elfyn yn fyw yn y theatr. Yn syml, mae’r ddrama yn ein tywys ni drwy sefyllfa gymhleth Elida, sef merch ceidwad y goleudy sydd yn teimlo’n gaethiwed o dan rym y môr a straen ei pherthynas efo Dr Wangel. Ond, ceir gweld sut mae ymweliad gan ddyn dieithr yn newid popeth; sydd yn arwain ni at gwestiynnu a ydy’r person yma’n ddieithr neu beidio? Wrth i’r stori fynd yn ei blaen, rydym yn dechrau datod ei bywyd cythryblus. A fydd hi’n parhau i aros yn y berthynas sydd yn cael ei gaethiwo gan y tirlun yn Norwy neu a fydd hi’n dianc efo’r dyn dieithr?
I mi, nid oedd Menna Elfyn wedi llwyddo i greu addasiad o’r ddrama, ond yn hytrach wedi trosi’r sgript yn uniongyrchol i’r Gymraeg. Ni welais unrhyw addasiad modern i’r ddrama, ac yn sgîl i hyn, roedd y perfformiad yn un sydd wedi dyddio. Mae’n amlwg nad ydi’r naws wedi’i newid o gwbl ers ei llwyfannu yn gyntaf ym 1888. Rhaid cydnabod bod y cymeriadau yn rhai cymhleth iawn. Ond, er ymgeisied Menna Elfyn i greu naws dafodieithol ddeheuol, teimlaf mai ffurfioldeb a chadw at y copi gwreiddiol sydd wedi digwydd yma. Efallai, nad ydy Theatr Genedlaethol Cymru yn barod i addasu a moderneiddio?
Er ei bod yn ddrama sydd yn cael ei hadnabod fel clasur eang, cefais sioc wrth ddarganfod taw dyma oedd dewis Theatr Genedlaethol Cymru. Yn bersonol, y mae’n ddrama digon cyfforddus a ‘diogel’ i’w berfformio, a dyma’r ymdeimlad y cefais wrth ei wylio. Dim ond cyffwrdd ar yr arwyneb wnaeth y ddrama. Roeddwn i wedi disgwyl dewis mwy heriol, sydd yn herio dychymyg y gynulleidfa. Gan fy mod i’n gyfarwydd efo’r sgript a chrefft Ibsen, roeddwn i’n gwybod bod llawer o ddeialog diangen sydd yn sôn am yr un pwnc – nifer o weithiau. Yn y perfformiad, credaf bod rhai aelodau o’r gynulleidfa wedi cael eu diflasu gyda hyn. Roeddwn i’n ysu am yr uchafbwynt, ond ni ddigwyddodd.
O ran y llwyfannu ei hun, roedd yn weddol undonog a statig. Ges i’r teimlad bod symudiadau’r cymeriadau wedi’i gor-gyfarwyddo a’i gorfodi i symud yn hytrach nag edrych yn naturiol. Roedd yn amlwg i mi fod yr actorion wedi eu cyfarwyddo i symud ar y llinell benodol honno e.e ‘Ar y geiriau ‘Na’, symud i aros ar bwys y ffenest’. Yn fy marn in id oedd hyn yn naturiol nac yn addas i’r perfformiad.
Yn bersonol, roeddwn i’n ymwybodol bod yr actorion yn rhai o’r byd teledu yn lle’r byd theatr. Heb amheuaeth, roedd yr actorion (megis Dewi Rhys Williams a Heledd Gwynn) yn rhai sydd yn serennu yn y byd cyfryngau Cymreig, ond credaf roedd bod llawer o’r ‘action’ wedi’i orfodi gormod ac yn arwain i fod yn or-ddramatig. Doedd dim digon o gig ar y cymeriadau. Teimlaf efallai y gallai Dewi fod wedi portreadu’r cymeriad yn llawer mwy ffyrnig, yn enwedig wrth iddo glywed bod ei wraig mewn cariad efo rhywun arall. Petawn i wedi clywed y newyddion yna, buaswn i wedi mynd yn wallgof! Yn hytrach, wnaeth Dewi ymateb fel petai’r ddau yn cael sgwrs bob dydd. Efallai gallent fod wedi pori ymhellach mewn i’r cymeriadau. Ffactor arall oedd nad o’n i’n credu yn y berthynas rhwng Elida a Dr Wangel, doedd hi ddim yn cael ei phortreadu mewn modd cariadus, cefais y teimlad bod y ddau yn frawd a chwaer. Yn y darn pan roedd Elida yn ystyried ymadael; nid oedd Dewi yn edrych fel petai’n poeni cymaint.
Y darn oedd a’r mwyaf o botensial oedd pan roedd y dyn dieithr yn ymestyn gwn allan o’i boced ac yn ei anelu at y gwr a’r wraig. Drwy astudio’r ddrama, roeddwn i’n disgwyl golygfa llawn emosiwn ac yn ddramatig tu hwnt. Yn hytrach, cefais i’r teimlad bod hyn yn rhywbeth ‘normal’ iawn – yn enwedig wrth i Heledd droi cefn ar y dyn dieithr sydd efo’r gwn. Ni wnaeth y ddau ymddangos i fod mewn unrhyw fath o banig – yr oedd bron fel pe bai’r dyn sy’n dal y gwn ddim yn bodoli. Serch hyn, roedd Heledd Gwynn yn argyhoeddiadol iawn wrth bortreadu person cythryblus tu hwnt.
Does dim amheuaeth drwy nodi pa mor wych oedd y set a gynlluniwyd gan Max Jones a oedd wedi llwyddo cyd-fynd efo natur y ddrama. Yr oedd yn un soffistigedig tu hwnt llawn lliwiau monocrom megis gwyn, du, llwyd = ‘vintage’ ydy’r gair orau i’w ddisgrifio.
I gloi ar nodyn positif, credaf bod y cyfieithiad o’r ddrama gan Menna Elfyn yn un anhygoel. Llwyddiant enfawr ydi iddi hi greu cyfieithiad o ddrama mor glasurol. Serch hyn, fe wnes i ddisgwyl dewis mwy heriol gan y Theatr Genedlaethol. I mi, cliché iawn oedd y defnydd eithaf amatur o’r geiriau ‘Y Fenyw Ddaeth O’r Môr’ yn y perfformiad. Gall y perfformiad yma wedi bod yn gyfle perffaith i greu adlais ffres o’r ddrama. Ond yn hytrach, dim ond troslais uniongyrchol o’r gwreiddiol ydyw heb ei addasu. Felly, credaf ei fod yn ddrama y dylai rhoi yn ôl ar y silff fel cyfiaethad hanesyddol i’r Gymraeg, ond nid adfywiad o ddrama glasurol Ibsen oedd ‘Y Fenyw Ddaeth O’r Môr’.