‘Y Fenyw Ddaeth o’r Môr’ gan Theatr Genedlaethol Cymru – Adolygiad gan Nannon Evans

Cyn mynd i weld y perfformiad yma, i ddweud y gwir doeddwn i erioed wedi gweld perfformiad o sgript gan y dramodydd Henrick Ibsen o’r blaen, felly roeddwn yn edrych ymlaen i weld un o’i gampweithiau yn cael ei berfformio. Wrth gerdded i mewn i theatr Canolfan y Celfyddydau, roedd y thema o’r môr yn amlwg iawn wrth i ni glywed tonnau’r môr yn lapio ar y traeth yn ysgafn o’n cwmpas. Gwnaeth hyn i mi deimlo’n ymlaciedig iawn ond yn anffodus, parhaodd yr ymdeimlad ymlaciol yma trwy gydol y sioe.

Roedd y set yn foddhaol yn yr hanner cyntaf, amgylchynodd creigiau mawr llwyd (er cyfeiriwyd atynt fel mynyddoedd sawl tro yn y sgript) y set. Roedd gwead diddorol a manwl iawn i’r creigiau hyn ond teimlais ni ddefnyddiwyd mawredd set i’w llawn botensial. Yn yr ail hanner rhannwyd y set yn ddwy rhan, un rhan yn rhyw ystafell haul yng nghartref Dr Wangel (Dewi Rhys Williams) a’r rhan yn y cefn yn ardd i’r cartref. Roedd patrwm y ffenestri a’r waliau o fewn yr ystafell haul yn bert iawn ac yn wir roedd e’n wledd i’r llygaid. Roedd y rhaniad yn effeithiol hefyd oherwydd yn ystod sgwrs Dr Wangel ac Elida (Heledd Gwynn) roedd presenoldeb aelodau o’i teuluoedd a’i ffrindiau y tu allan i’w weld yn dylanwadu ar sut roedd Elida a Dr Wangel yn ymdrin a’i gilydd. Roedd gallu gweld y cymeriadau eraill yn cymryd cip olwg i mewn i’r ystafell wedi gweithio’n effeithiol oherwydd ei fod e’n gwneud i’r gynulleidfa hefyd deimlo’n anesmwyth eu bod nhw’n bresennol yn ystod sgwrs difrifol Dr Wangel ac Elida am ddyfodol eu perthynas.

Pan es i i weld y ddrama, hanner llawn oedd y theatr gyda’r rhan fwyaf o’r gynulleidfa yn aelodau hŷn o’r gymdeithas. I mi, dylai cwmni theatr Cendelaethol fod yn dewis sgriptiau byddai’n berthnasol i bawb yn y gynulledifa, dim ots faint oedd eu hoedran. Yn anffodus dewiswyd sgript oedd yn ymdrîn â themâu wedi eu dyddio. Engrhaifft o thema oedd rhyddid menyw i ddysgu am y byd a gwneud penderfyniadau dros ei hun. Wedi siomi yr oeddwn pan ddaethom i ddiwedd y perfformiad a dim ond darganfod bod Bolette (Elin Llwyd) yn mynd i deithio a dysgu am y byd a bod Elida’n mynd i fyw gyda’i gŵr nid y dieithryn. Teimlais nad oedd y cynhyrchiad yn berthnasol i gynulleidfa Gymreig o gwbwl. Perfformiwyd y sgript heb unrhyw ‘dwist’ newydd iddi, roedd e fel petawn i nôl ym 1889 yn gwylio’r perfformiad yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn Norwy eto.

Roedd y perfformiad yn dair awr o hyd, er ei fod yn hir, mae’n rhaid dweud nad oeddwn yn aros i’r perfformiad orffen. Sicrhaodd addasiad Menna Elfyn fod y stori yn hawdd iawn i’w ddilyn ac roedd y iaith yn ystwyth tu hwnt. Roedd cymeriadau y sgript yn rhai heriol i’w perfformio, ond teimlais na chafodd yr actorion gyfle i ddangos eu doniau oherwydd natur ceidwadol a rhwystriedig y cymeriadau. Engrhaifft dda o hyn oedd pan fyddai’r merched yn dal ei dwylo mewn unrhyw sefyllfa, boed ei bod nhw’n grac neu’n hapus. Roedden nhw’n rhwystredig o ran symudiadau oherwydd natur urddasol eu cymeriadau. Sylwais yn y ddrama fod Hilde (Sian Davies) a Bolette (Elin Llwyd) yn siarad â acen Sir Benfro, weithiau. Doedd yr acen ddim yn gyson o gwbwl, ac fe gwestiynnais pam mai nhw yn unig oedd yn siarad yn yr acen. Ai oherwydd nad oeddent eto wedi dysgu sut i siarad yn ‘ffurfiol’ fel yr oedolion ac eu bod nhw’n siarad y tafodiaith leol? Pam felly nad oedd Ballested (Seiriol Tomos) sef cymeriad cyffredin o’r dref yn siarad yn yr un acen? Cafon ni berfformiad da yn gyffredinol gan yr actorion, ond gwelwyd diffyg dychymyg wrth fynd ati i flocio a symud y sgript, gwelais yr holl beth braidd yn statig. Rhaid dweud fod Sion Alun Davies oedd yn actio Lyngstrand wedi llwyddo i ysgafnhau ei olygfeydd yn lwyddiannus iawn, ac roedd potread Elin Llwyd o Bolette yn gynnil ac effeithiol.

Defnyddiwyd côr byw yn y perfformiad, ond yn anffodus i ni fel cynulleidfa, ni chafon ni’r cyfle i weld y côr, dim ond eu clywed. Yn sicr roedd gan Côr Cardi-Gân sŵn hyfryd ond doedd dim llawer o wahaniaeth rhwng sain y côr a’r effeithiau sain cyffredinol. Felly i ryw raddau, roedd e bron yn ddi-bwys i’r côr fod yno.

Felly, ar ddiwedd y perfformiad, yn anffodus, ni chefais fy rhyfeddu. Perfformiad da gan yr actorion o sgript araf a diflas. Dwi’n credu ei fod hen bryd i’r Theatr Genedlaethol fentro a dewis sgriptiau newydd, cyfoes, gwahanol yn hytrach na’i chwarae hi’n saff trwy ddewis sgript draddodiadol, ‘clasurol’ heb unrhyw beth i bigo’r cydwybod neu i gyffroi’r cynulleidfa.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s