Oes rhaid i mi ddeffro? Fel rhoces fach pedair oed yn bargeinio â’i Mam ar fore Llun, dyma oedd fy nghwestiwn ar ddiwedd y perfformiad. Nid oeddwn i’n barod eto i gamu o’r duvet pluf a sychu’r cwsg o fy llygaid. Cefais fy nhywys gan lais persain y dylwythen deg yn ôl mewn amser. Unwaith eto ro’n i’n wyllt â gigyls wrth glywed synau rhechfeydd a gweld cymylau siâp nicyrs! Roedd y cyfan yn feddal ac yn neis fel suddo i wely mawr o farshmallow. Ond bu’n rhaid imi ddeffro o’r freuddwyd! A phob nos cyn llithro i gwm pluf, rwy’n cau fy llygaid, a gobeithio y caf i ddychwelyd mewn trwmgwsg, unwaith eto i wlad freuddwydiol Arad Goch.