‘Oes Rhaid I Mi Ddeffro?’ – Adolygiad Meleri Hâf.

Cyn i mi weld cynhyrchiad newydd Cwmni Theatr Arad Goch sef ‘Oes Rhaid I Mi Ddeffro?’, fe wnes i benderfynnu palu ymhellach i hanes cwmni er mwyn cael gwell dealltwriaeth o beth allwn i ddisgwyl.

Pan glywais i mai Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch oedd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad, fe wnaeth hyn fy sbarduno ymhellach i weld y perfformiad am ei fod yn amlwg yn enw adnabyddus ymysg y byd drama yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r ddrama yn cynnwys coreograffi dan arweiniad Eddie Ladd, coreograffydd enwog iawn. Yr oedd yn ddiddorol i feddwl sut all yr elfen o ddawns a theatr gorfforol fod yn gysylltiedig efo theatr mewn addysg.

Ar ddechrau’r perfformiad, gwnaeth Mari Morgan ddod allan o’r stiwdio i’m cyfarch a dweud wrthym ni fel y gynulleidfa i’w helpu drwy gasglu synau oedd o amgylch y gofod a’i gosod yn ei bag hi. I mi, roedd Mari yn gwneud i mi herio’r dychymyg drwy gwestiynu pwy ydi hi a beth mae’n cynrychioli o fewn y perfformiad? Roedd Mari yn gwisgo gwyn; slipers bach gwyn â bandana i gyd-fynd – efallai i symboleiddio ei bod hi’n dod o’r tu hwnt i’n byd ni, o fyd y breuddwydion?
Yna, fe wahoddodd Mari ni mewn i’r stiwdio, lle roedd ddefnydd wedi’i hongian mewn siâp cylch. Gofynnodd Mari i ni dynnu ein hesgidiau bant ac eistedd ar y clustogau oedd wedi’i lleoli o amgylch y llawr. Efo pawb yn eistedd o amgylch y set yn barod am y dechreuad, dechreuodd Mari chwarae’r ffidl ac yn syth yr oeddwn ar antur yn nhir y breuddwydion.
Wrth i’r perfformiad fynd yn ei flaen, y peth wnaeth fy nharo i oedd sut wnaeth y darn adfywio fy atgofion o’m mhlentyndod i drwy wneud i mi ddianc at fyd ffantasi a breuddwydiol sydd yn llawn straeon a dirgelwch. Yn bendant, nid wyf wedi cael profiad tebyg i hynny yn y theatr o’r blaen, roedd wedi mynd yn erbyn unrhyw gonfesiynnau ddrama yr oeddwn i’n gyfarwydd â nhw.  Wrth eistedd yn y gofod perfformio, yn agos i’r perfformwyr, teimlais yn rhan o’r perfformiad a breuddwydion yr actorion. Dychmygais sut fydde’r gynulleidfa darged, y plant, yn chwerthin ac ymateb. Yn ogystal, efo plant does dim ‘4ydd wal’ rhwng yr actorion a nhw. Ar un adeg, fe daflodd yr actor Marc Roberts hosan ac fe laniodd tu ôl i mi. Yn bersonol, fe wnes i rewi yn yr unfan a gadael yr hosan – byddai plentyn yn yr un sefyllfa’n rhoi’r hosan yn ôl i Marc. Gallwn ddychmygu ymatebion plant i’r pethau bychain yma.

Llwyddodd y cast; Marc Roberts, Ffion Wyn Bowen a Mari Morgan i gynnwys nifer o ystumiau a oedd yn ymdrin â rhifedd a geirfa drwy elfennau dawns, cân a delweddau ar eu ffurf symlaf a sylfaenol – hollol briodol i’r gynulleidfa darged. Cafodd llawer o’r props eu defnyddio er mwyn cynrychioli eitemau gwahanol – e.e. hosanau ar gyfer ffrwythau – gweledol iawn i blant. Cafodd llawer o bethach eu creu er mwyn i’r plant uniaethu â nhw -megis y syniad o dyfu tamaid bach yn fwy pob noson. Mae hwn yn rhan o grefft ddiddorol Jeremy Turner.

Gwelais i Mari fel y person sydd yn rheoli’r sefyllfa drwy’r elfen o sain. Trwy’r holl berfformiad roedd tempo’r ffidil yn cyd-fynd efo tempo’r olygfa. Enghraifft o hyn oedd pryd roedd symudiadau’r actorion yn cyflymu ac emosiwn y ddau yn byrlymu, roedd tempo’r ffidil yn cyflymu tuag at uchafbwynt. Yn ogystal, pan geisiodd Marc fwrw Ffion efo’r gobennydd, fe wnaeth Mari wneud nodyn ar y ffidil er mwyn argymell i Marc bod beth mae’n gwneud yn hollol annerbyniol. Fe wnaeth y defnydd o gerddoriaeth weithio’n dda gyda’r rhythmau a grewyd gan yr actorion a fydd yn sicr yn gweithio hyd yn oed yn well efo chynulleidfa iau. Er yr oedd y gerddoriaeth yn rhan hollol allweddol i’r perfformiad, fe wnes i gwestiynu ar ôl adael y theatr, a allai’r darn fod wedi cynnwys mwy o gerddoriaeth? Am ryw reswm, fe wnes i adael efo’r teimlad dylai fod rhywbeth ymhellach wedi’i ychwanegu. Efallai efo perfformiad wedi’u thargedu tuag at blant 3-7 mlwydd oed, a ddylai Jeremy Turner wedi defnyddio mwy o’r defnydd o ‘iaith’, nid yn unig symudiadau? Yn gysylltiedig efo’r syniadaeth yma, fe wnes i gwestiynnu’r elfen o ddawns yn y perfformiad ac i mi, yr oedd y coreograffi yn fwy cysylltiedig efo theatr gorfforol na ‘dawns’. Ond, roedd y perfformiad yn llifo trwy’r symudiadau a rhythmau’r corff yn hytrach na trwy’r geiriau yn llwyddiannus iawn.  Credaf ar gyfer yr oedran sydd wedi’u thargedu fod y fframwaith yma o ‘ddawns’ yn hollol dderbyniol a ddim wedi’i or-neud – er mwyn cadw ffocws y plant. Yr oedd yn fraint enfawr i mi weld gwaith Eddie Ladd ar waith – sef hufen y byd dawns gyfoes.

Yn sicr, fe wnaeth y cynhyrchiad fy ngorfodi i deithio yn ôl at fy mhlentyndod ac i mewn i fyd llawn antur a dychymyg . Mae’n berfformiad perffaith ar gyfer plentyn sydd â dychymyg byw ond hefyd ar gyfer oedolyn – fel fi – sydd wrth ei bodd yn dianc i’r byd ffantasi.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s