Cael fy nhywys ar daith oedd yn llawn dychymyg wrth deithio i fyd breuddwydion. Yn wir roedd ‘Oes Rhaid I Mi Ddeffro?’ yn dangos elfennau graenus o baratoi oedd yn deffro dychymig hyd yn oed myfi sydd yn 19 mlwydd oed.
Roedd y profiad yn hollol newydd i mi gan mae un o’r pethau cyntaf a ofynnwyd oedd tynnu’n esgidiau, teimlaf bod hyn yn effeithiol iawn gan ychwanegu at naratif y darn, oherwydd yn amlwg byswn yn tynnu ‘sgidiau cyn mynd i’r gwely.
Roedd yr elfen o gerddoriaeth yn ychwanegu elfennau synhwyrol iawn i’r perfformiad. Gan mai perfformiad oedd yn ategu at yr oedran 3-7, teimlaf fod y cynhyrchiad yma wedi trawsgyfeirio theatr draddodiadol ac ymgeisio i ddysgu rhifedd a gramadeg i’r plant mewn ffordd liwgar iawn, creu anifeiliaid a synau car allan o nwyddau meddal megis clustog neu flanced, ac yna yn gadael ein dychymig ni i grwydro a chreu breuddwydion gan greu darluniau cyffrous. Perfformiad hollol naturiol oedd yn crynhoi meddwl plentyn.