Dyma’r tro cyntaf i mi fynychu perfformiad i blant bach ers i mi fod yn blentyn bach, yn wir, profodd Arad Goch nad oedd rhaid bod yn blentyn bach i fwynhau eu cynhyrchiad o Oes Rhaid i mi Ddeffro? Cafon ein hudo ar y dechrau gan wên groesawgar Mari Morgan a’n harwain i mewn i’r set oedd fel cwmwl meddal fflwfflyd. Rhaid rhoi clôd mawr i’r set am wneud awyrgylch mor gyfforddus i ni fel cynulleidfa, rhywbeth y byddai’n fuddiol iawn i blentyn pedair oed.
Roedd perthynas Mark Roberts a Ffion Wyn Bowen a’i gilydd yn ffantastig, cefais fy amsugno i mewn i’w byd nhw, teimlais yn grac, gefnigennus, hapus a’n blentynaidd gyda nhw o fewn hanner awr yn unig. Llwyddon nhw i greu rhythm a sŵn yn defnyddio pob rhan o’u cyrff yn araf a chyflym, i wylio hyn fel cynulleidfa, profiad diddorol tu hwnt ydoedd.
Yn sicr dylai pawb yng Nghymru fod yn gefnigennus iawn o blant bach Ceredigion sy’n cael profi’r perfformiad hapus cwtshlyd a chynnes yma diolch i Arad Goch.