Profiad synhwyrusol a swynol a gefais wrth weld perffromiad “Oes rhaid i mi ddefro” gan Gwmni Theatr Arad Goch ar y nawfed o Chwefror a ddeffrodd dychymyg fy mhlentyndod yn gelfydd dros ben.
Wrth i Mari Morgan ein harwain drwy’r naratif gyda chwarae crefftus ar y ffidl. Yn bendant cefais fy atynnu i fewn yn llwyr i’r perffromiad. Ar adegau teimlais y gallen ni wedi mynd ar y llwyfan ac ymuno gyda y ddau actor eginiol Ffion Wyn Bowen a Marc Roberts perfformiadau caboledig dros ben a barhaodd ar ddelwedd o blant ifanc drwy’r holl darn. Camp aruthrol yn ym marn i.
Er taw perffromaid wedi’i annelu at blant ifanc ydoedd ,yn ferch bedair ar bymtheg roeddwn wedi llwyr ymgolli yn hunan yn y freuddwyd ffantasiol lliwgar yma. Credaf taw coregraffi Eddie Lad oedd y rheswm pennaf a oedd yn rhoi strwythur i’r holl naratif mewn ffordd hollol wahanol i unrhyw berffromiad yr wyf wedi ei brofi o’r blaen.
Annogaf bawb i fynd i’w weld ermwyn cael hanner awr o bleser pur boed yn blentyn neu yn riant, ni fyddwch yn methu tynnu eich llygaid i ffwrdd o fwrlwm y stroi rhyfeddol yma.