Wedi i mi gamu fewn i gylch perfformio breuddwydiol ‘Oes rhaid i mi ddeffro?’, teimlais yn syth cynnwrf ac egni synhwyrusol lle rhoddwyd rhyddid i’r meddwl ddychmygu tu hwnt i’r llwyfan.
Yn sicr, mae’r cwmni theatr mewn addysg yma wedi maestroli’r elfennau addysgiadol o fewn y perfformiad mewn modd syml ac effeithiol. Drwy gynnwys symudiadau arwyddocaol, llawn hiwmor a oedd yn ymwneud â sgiliau rhifedd a gramadeg, teimlais ei fod wedi cyd-fynd â meddylfryd y gynulleidfa targedol, sef plant 3-7 oed.
Er hyn, rhaid nodi nad oedd y perfformiad yn cyfyngu ei chynulleidfa am nad oedd yn rhy blentynnaidd. Felly, fel myfyrwraig deunaw oed, roeddwn yn medru uniaethu a gwerthfawrogi rhai agweddau na fyddai’n berthnasol i blentyn efallai.
Uwcholeuwyd y ffaith felly fod theatr yn brofiad addysgiadol a chreadigol, a rhaid canmol holl waith y cwmni wrth adlewyrchu hyn mewn modd safonol.