“Oes rhaid i mi adael?” – dyma’r cwestiwn ar fy ngwefysau ar ôl cael fy hudoli yn ôl i fy mhlentyndod wrth gamu mewn i fyd cynhyrchiad diweddaraf Theatr Arad Goch, cynhyrchiad a oedd yn tanio’r dychymyg: Oes rhaid i mi ddeffro?
Roedd yr actorion yn gwneud i ymarfer llythrennedd, rhifedd a bwyta’n iach ymddangos fel gemau hwyl; gan floeddio’r llinell “get up and play”, mi wnaethant i mi gofio fy mrwdfrydedd fel plentyn i chwarae, a dysgu trwy chwarae – gwers gallwn ddysgu fel oedolyn hefyd efallai!
Roedd y gerddoriaeth yn gweddu’r stori i’r dim a’r defnydd o ddawns yn ddiddanol hefyd – gan gynnig symudiadau bach yn fwy heriol na’r clasur, ‘pen, ysgwyddau, coesau, traed’!