Mur Mur, Theatr a Drama Prifysgol De Cymru. Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Buais mor ffodus a gwylio’r cynhyrchiad yma gan fyfyrwyr Drama a Dawns Prifysgol De Cymru dwywaith o fewn yr un wythnos. Gall y perfformiad fod wedi fy niflasu’r ail waith, ond yn hytrach llwyddodd i’m swyno gan lu o bosibiliadau eraill. Perfformiad corfforol a chreadigol a honnodd fy sylw o’r cychwyn cyntaf.
Cerrig oedd canolbwynt y ddrama gyda phwyslais ar bob carreg yn uniongyrchol gan gynnwys ei theimlad, ei siâp a’i gwerth personol i bob aelod o’r perfformiad – “carreg Llanelli” “carreg Dad”. Gwelsom yma’r gwerth personol i bawb yn unigol, ac o ganlyniad ei angerdd nhw o fewn ei lleisiau. Cafodd y cerrig ei symud yn barhaol, eu defnyddio i wneud pentyrrau, siapau ac yn bennaf oll fel rhwystrau. Ynghanol hyn oll cawsom stori gefndirol drwy’r berthynas o ddau fachgen yn ceisio hudo merch a’i harwain ar hyd y cerrig. Gwelsom bwysigrwydd traddodiad, cymdeithas ac yn bennaf oll y mur o arwahanrwydd.
Creu wal gyda’u cyrff oedd y nod ynghanol y ddrama gyda recordiad Donald Trump yn dweud “we will build a wall” yn chwarae yn y cefndir. Delwedd egnïol a phwerus a chawsom wrth weld aelodau’r cast yn rhedeg tuag at y wal o gyrff droeon er mwyn ei dinistrio neu ei basio. Cafodd y cryfder corfforol ei gyfleu i ni fel cynulleidfa yn ogystal â’r angerdd o fewn o weithred.
Yn sicr perfformiad grymus ac amgen oedd ‘Mur Mur’ a wnaeth honni fy sylw trwy gydol gyda thanbeidrwydd y cast a’u gallu i roi rhywbeth mor gyfoes ar lwyfan. Roedd y tawelwch pur rhwng golygfeydd dramatig yn hynod o effeithiol ac yn galluogi i ni fel cynulleidfa i adlewyrchu ar ddifrifoldeb y peth.
Daeth y perfformiad i derfyn gyda’r holl gymeriadau nôl yn eu safleoedd gwreiddiol yn pasio cerrig ar hyd y llinell nôl i’r pentwr cychwynnol. Teimlais effaith agosatrwydd y gynulleidfa ar y pryd wrth glywed anadl y cast yn erbyn y tawelwch a oedd yn crynhoi’r perfformiad nerthol roeddwn wedi ei wylio.
Am brofiad anhygoel i’r myfyrwyr a chafodd eu trin fel cwmni proffesiynol fel rhan o ŵyl Agor Drysau Arad Goch. Rhaid eu canmol am gynhyrchu perfformiad arloesol ac aeddfed o safon uchel.